Cyfarfod Bwrdd: 22 Hydref 2025 14.50 – 17:30
Darllenwch gofnodion cyfarfod Bwrdd Adnodd a gynhaliwyd ar 22 Hydref 2025. Ymhlith y pynciau dan sylw roedd llywodraethu, cynlluniau comisiynu, materion ariannol a’r camau nesaf wrth i Adnodd barhau i dyfu a chefnogi dysgwyr ac ymarferwyr ledled Cymru.
- Cyhoeddwyd yn wreiddiol
- Diweddarwyd ddiwethaf
Yn bresennol
Adnodd:
- Gethin Davies, Cadeirydd (GD)
- Mair Gwynant, Cadeirydd ARAC (MG)
- Lesley Bush (LB)
- Sioned Roberts (SR)
- Huw Jones (HJ)
- Nicola Wood (NW)
- Natalie Jones (NJ)
- Emyr George, Prif Weithredwr (EG)
- Lleucu Siencyn, Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni (LlS)
- Kirsty Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol (KD)
- Dr Ali Hanbury, Pennaeth Ymgysylltu a Chyfathrebu (AH)
- Branwen Edwards, Ysgrifenyddiaeth(BE).
Llywodraeth Cymru:
- Pat McCarthy (PMcC)
Ymddiheuriadau:
Dim
1. Croeso ac ymddiheuriadau
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau wedi dod i law.
2. Datgan buddiannau
Nid oedd unrhyw wrthdaro buddiannau wedi’i ddatgan cyn y cyfarfod.
Dywedodd dau aelod eu bod yn aelodau annibynnol o Bwyllgorau Archwilio a Risg cyflenwyr sydd wedi’u rhestru o dan eitem saith (Diweddariad y Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni), sef y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Datganodd KD, LlS a BE wrthdaro o dan eitem 11 (adolygiad tâl 2025/26) a chytunodd y tri i adael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth honno.
3. Cofnodion y cyfarfod diwethaf
Cytunodd y Bwrdd fod y cofnodion yn gofnod cywir a gwir o’r trafodaethau.
4. Diweddariad gan y Cadeirydd
Dywedodd GD ei fod yn llongyfarch tîm Adnodd ar lwyddiant y presenoldeb mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau ledled Cymru, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol – gyda chwmni aelodau’r Bwrdd ar rai dyddiau; y Sioe Addysg Genedlaethol yn Llandudno a Chaerdydd; a Chynadleddau Cydag – cynradd ac uwchradd.
Dywedodd GD fod y cyfarfod a drefnwyd wyneb yn wyneb ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi’i ohirio tan 18 Tachwedd.
Tynnodd GD sylw’r aelodau at adnoddau Rhyngom a oedd i’w gweld yn yr ystafell gyfarfod, a dywedodd fod adnoddau TGAU Ton 2 bellach ar gael ar-lein.
Nodwyd bod presenoldeb Adnodd ar y cyfryngau cymdeithasol yn tyfu’n gyflym, gyda nifer o ddiwrnodau cenedlaethol a digwyddiadau’n cael eu dathlu, ac adnoddau newydd yn cael eu hyrwyddo.
Soniodd GD am y rhaglen barhaus o gyfleoedd dysgu proffesiynol a hyfforddiant sydd ar gael i holl aelodau’r Bwrdd.
5. Diweddariad gan Gadeirydd ARAC a'r Grŵp Cynghori ar Adnoddau
Yn ogystal ag adroddiad yr archwiliad allanol a chyfrifon terfynol 2024-25, roedd y Pwyllgor wedi craffu ar y canlynol yn ystod ei gyfarfod ar 6 Hydref:
Y Gofrestr Risgiau
Mae’r gofrestr wedi’i datblygu ymhellach i gynnwys y tabiau canlynol:
- Y cofnod o broblemau
- Y gofrestr dyfarniadau uniongyrchol
- Y gofrestr risgiau twyll
- Y gofrestr risgiau seiber
Cytunwyd y dylid cynnwys colofn gyfiawnhau yn y gofrestr dyfarniadau uniongyrchol.
Roedd risg ychwanegol wedi’i hychwanegu at y brif gofrestr, sef risg ynghylch dyfarnu contractau’n uniongyrchol.
Cafwyd lefel uchel o sicrwydd yn ystod yr archwiliad manwl o’r gofrestr risgiau seiber.
Archwilio mewnol
Cytunodd ARAC ar y Cylch Gorchwyl mewn perthynas â Rheoli Contractau yn Chwarter 3, a fydd yn canolbwyntio ar gontractau comisiynu ac yn datblygu ar ganfyddiadau’r archwiliad allanol.
6. Diweddariad y Prif Weithredwr
Eithrio rhag TAW
Oherwydd y cynnydd sylweddol a wnaed a’r hyn a gyflawnwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dywedodd EG fod gan Adnodd sylfaen gref i fwrw ymlaen â’r cais i gael ei eithrio rhag talu TAW ar elfennau penodol wrth wneud gwaith comisiynu.
Dros yr wythnos nesaf, bydd trafodaethau’n cael eu cynnal a’r broses yn ailddechrau i gael ein rhestru fel corff dynodedig o dan y ddeddfwriaeth berthnasol. Bydd y Bwrdd yn cael diweddariad ym mis Ionawr.
Cam gweithredu: Diweddaru’r Bwrdd ym mis Ionawr ynghylch y cais i eithrio Adnodd yn rhannol rhag talu TAW.
Model hunanasesu
Adolygodd ARAC fersiwn ddrafft o’r model hunanasesu a chytunodd i adolygu fersiwn derfynol i’w chymeradwyo ym mis Ionawr 2026.
Mae ARAC yn rhagweld y bydd angen cymryd nifer o gamau gweithredu i sicrhau bod Adnodd yn cydymffurfio’n llawn â’i holl gyfrifoldebau fel corff hyd braich.
Cytunodd ARAC y dylid datblygu cynllun gweithredu a’i roi ar waith.
Materion gweithredol
Mae’r Tîm Gweithredol wrthi’n datblygu cynlluniau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod er mwyn sicrhau’r defnydd gorau o gapasiti a’r gyllideb, ynghyd â chytuno ar flaenoriaethau ac amcanion effeithiol gyda Llywodraeth Cymru dros y misoedd nesaf.
Ein nod yw gwneud defnydd llawn o grantiau cystadleuol a dulliau caffael i sicrhau gwerth am arian.
Mae’r Tîm hefyd yn asesu ffyrdd o sicrhau ei fod yn gwario’r gyllideb yn llawn ac yn effeithiol eleni, gan gynnwys edrych ar rowndiau comisiynu cystadleuol pellach er mwyn rhoi opsiwn i ddyfarnu a dechrau prosiectau yn Chwarter 4.
Ymgysylltu, cydweithio a chodi ymwybyddiaeth
Dywedodd EG fod ymateb Adnodd i ymgynghoriad Cymwysterau Cymru am ddiwygio cymwysterau UG a Safon Uwch wedi’i ddarparu, er gwybodaeth.
Gweithio gyda Llywodraeth Cymru
Cynhaliodd EG a LlS sesiwn am Adnodd a’n ffyrdd o weithio gyda Llywodraeth Cymru yn ystod diwrnod cwrdd i ffwrdd yr is-adran – sef yr is-adran yn y Gyfarwyddiaeth Addysg y mae ein Tîm Partneriaeth yn rhan ohoni.
Bu Adnodd mewn gweithdy gyda’r is-adran Tegwch mewn Addysg, er mwyn deall yn well y meysydd polisi eang y maen nhw’n eu harwain. Canfuwyd sawl maes penodol ar gyfer cydweithio yn y tymor byr a’r tymor hwy sy’n cyd-fynd yn agos â meysydd ffocws Adnodd.
Bu Adnodd yn rhan o ddiwrnod ymgysylltu llawn â’r cyflenwyr a fydd yn cael arian grant gan Lywodraeth Cymru dros y tair blynedd nesaf i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.
Wrth ymateb i ymholiad gan aelod am y broses grantiau, esboniodd EG y bydd polisi Grantiau’n cael ei lunio i gyd-fynd â’r polisi Caffael, a hynny fel rhan o’r gwaith o gynllunio at y flwyddyn nesaf.
7. Diweddariad y Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni
Esboniodd LlS fod adroddiad cynnydd wedi’i gyflwyno fel gwybodaeth gefndir ar gyfer datganiad llafar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a roddwyd yn y Senedd ar 23 Medi 2025.
Roedd yr adroddiad yn rhoi crynodeb o’r cynnydd a wnaeth Adnodd ers ei sefydlu, gyda phwyslais penodol ar yr adnoddau a’r cynnyrch sydd ar gael i ymarferwyr a dysgwyr eu defnyddio. Dyma’r uchafbwyntiau:
- Comisiynu a rheoli 40+ o brosiectau
- 419 o adnoddau dwyieithog ar gael yn rhad ac am ddim i bob ysgol yng Nghymru
- 307 o adnoddau i gefnogi’r cymwysterau TGAU newydd
- Dosbarthu 7,125 o lyfrau am ddim i ysgolion
- 49,706 o lyfrau Cymraeg a Saesneg wedi’u dosbarthu fel rhan o brosiect Rhyngom.
Dywedodd LlS fod adnoddau digidol i gefnogi ton 1 y cymwysterau TGAU newydd bellach ar gael ar Hwb.
Grŵp Gweithrediadau Adnodd
Mae ffurflenni cais a llifoedd gwaith newydd ar gyfer comisiynu a chyhoeddi adnoddau ar Hwb wedi’u datblygu, ac mae’r adroddiadau misol yn rhoi trosolwg cywir a syml i aelodau’r grŵp o’r adnoddau sydd i’w cyhoeddi’n fuan.
Dywedodd LlS fod y dull adrodd yn cael ei ddatblygu ymhellach i roi canrannau a data penodol mewn fformat gweledol. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i roi diweddariad i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn ystod y cyfarfod wyneb yn wyneb fis Tachwedd, er mwyn rhoi darlun llawn o’r hyn y mae Adnodd wedi’i gyflawni.
Y gronfa arloesi
Fis Medi 2025, cyhoeddwyd manylion am y deg prosiect llwyddiannus, a’r rheini’n cynrychioli croestoriad amrywiol a chyffrous o dirwedd addysgol a diwylliannol Cymru. Cafodd pob prosiect gyllid o £5,000.
Ar ddiwedd cam 1, bydd pob prosiect yn cyflwyno adroddiad yn ystyried yr hyn a wnaed. Bydd y prosiectau a ddewisir yn cael gwahoddiad wedyn i wneud cais am ragor o gyllid i ddatblygu adnoddau dwyieithog llawn i’w defnyddio mewn ysgolion, a’r rheini’n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Cyfleoedd comisiynu yn yr hydref
Esboniodd LlS y bydd tri dyfarniad posibl (i’w rhoi erbyn diwedd mis Hydref) yn cael eu gwneud fel rhan o’r rownd gomisiynu hon, a hynny ar gyfer prosiectau sy’n cefnogi addysgu a dysgu yn y meysydd:
- Iechyd a lles
- Crefydd, gwerthoedd a moeseg
- Mathemateg a rhifedd
Cyfeillion Adnodd
Mae galwad wedi’i gwneud i greu cymuned o bobl sydd â phrofiadau bywyd ac arbenigedd sy’n berthnasol i weledigaeth y Cwricwlwm i Gymru. Bydd y bobl hyn yn gweithio gydag Adnodd er mwyn:
- cefnogi’r prosesau comisiynu
- gwerthuso ceisiadau
- rhoi cyngor a chynorthwyo gydag ansawdd a chynnwys adnoddau
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dod o yn rhan o fframwaith penodol a weinyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Bydd gwaith yn cael ei gynnig ar sail llawrydd, a bydd ceisiadau’n cael eu gwahodd ar sail ad hoc, yn dibynnu ar natur prosiectau’r dyfodol.
8. Diweddariad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol
Adnoddau dynol
Dywedodd KD fod pump aelod newydd o staff wedi dechrau yn eu swyddi gydag Adnodd.
Ar 30 Medi 2025, rhoddodd Rheolwr Comisiynu ac Ansawdd rybudd y bydd yn gadael ei swydd ar 30 Rhagfyr 2025.
Ar ôl ystyried polisi recriwtio Adnodd a chyngor am adnoddau dynol gan Darwin Gray, ynghyd â chael cytundeb dilynol ARAC, bydd y swydd yn cael ei hysbysebu’n fewnol i gychwyn.
Ar ôl trafodaeth yng nghyfarfod diweddar ARAC, bydd Adnodd yn diweddaru’r polisi recriwtio i ddynodi, ar ôl proses recriwtio lwyddiannus, y bydd modd cadw rhestr wrth gefn o ymgeiswyr am chwe mis. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd gan Adnodd yr hawl i gynnig y swydd i unigolyn sydd ar y rhestr wrth gefn heb orfod dechrau proses recriwtio agored arall.
Fforwm y Staff
Gwirfoddolodd tri aelod o staff – dau gynrychiolydd o’r Tîm Corfforaethol ac un o’r Tîm Comisiynu. Bydd aelod arall o’r Tîm Comisiynu yn cael ei recriwtio ar ôl i aelodau newydd o’r staff gwblhau’r broses gynefino.
Cynhaliwyd cyfarfod sefydlu’r fforwm ym mis Awst er mwyn cytuno’n ffurfiol ar swyddi, y cylch gorchwyl, a’r cynllun gwaith.
Penodwyd Seren Trigg o Darwin Gray yn Gadeirydd dros dro am y chwe mis cyntaf. Bydd y fforwm yn ceisio penodi cynrychiolydd o Adnodd yn Gadeirydd ddechrau 2026.
Mae papurau’r fforwm yn cael eu rhannu â’r tîm ehangach i’w hystyried, er mwyn rhoi adborth i’w drafod yn ystod y cyfarfodydd.
Yn ystod y cyfarfod ffurfiol cyntaf ar 25 Medi, trafododd y fforwm ddyfarniad cyflog y staff yn 2025/26, y buddion sydd ar gael i staff, a’r arolwg ymgysylltu.
Polisïau
Adolygodd a chymeradwyodd ARAC y Cynllun Parhad Busnes ar 6 Hydref 2025.
Mae’r Polisi Gweithio Ystwyth wedi’i ddiweddaru i gynnwys adran am geisiadau gan weithwyr i weithio dramor dros dro. Cafodd y diweddariad ei ddrafftio ar ôl cael cyngor gan Darwin Gray ac arweinwyr adnoddau dynol mewn cyrff eraill a noddir.
Penderfyniad: Cymeradwyodd y Bwrdd y Polisi Gweithio Ystwyth wedi’i ddiweddaru, yn amodol ar dynhau’r adran am weithio dramor.
Adroddiad Cyllid y Flwyddyn Hyd Yma:
- Yn y cyfnod hyd at 30 Medi 2025, mae cyfanswm y gwariant £120,864 yn fwy na’r cyllid grant sydd wedi’i dynnu i lawr.
- Ceir gorwariant o £194,076 yn y gyllideb gomisiynu ac mae hynny gan fod rhagolygon gwreiddiol y gyllideb yn dangos gwerth llawn pob contract yn Chwarter 4, a hynny yn ystod y broses o gytuno ar gerrig milltir gyda chyflenwyr. Cytunwyd bellach ar y cerrig milltir ar gyfer nifer o brosiectau, ac mae rhai ohonyn nhw wedi’u cwblhau yn Chwarter 2, a hynny’n arwain at wariant nad oedd yn rhan o’r rhagolygon yn y cyfnod dan sylw.
- Ceir tanwariant o £73,211 yn y gyllideb weithredol:
- Mae tua £35,000 yn sgil anfonebau am wasanaethau sydd heb eu darparu eto
- Mae £20,000 yn ymwneud â’r dyfarniad cyflog sydd wedi’i gyllidebu ar gyfer y staff yn 25/26. Nid yw’r dyfarniad cyflog hwn wedi’i gadarnhau na’i dalu eto
- Mae’r tanwariant sy’n weddill, sef tua £18,000, wedi’i ailddyrannu i Chwarteri 3 a 4.
Rhagolwg Cyllid – Chwarter 3 a Chwarter 4:
Mae llythyr amrywiad grant mewn perthynas â’r adnoddau TGAU Ton 2 wedi dod i law, yn cadarnhau tua £545,000 o gyllid ychwanegol dros ddwy flynedd ariannol.
Mae’r trafodaethau ynghylch cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn yn mynd rhagddyn â’r tîm yn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am hawliau dynol.
Dywedodd KD fod y llinell yn y gyllideb ar gyfer sicrwydd ansawdd wedi’i chwtogi i £30,000 er mwyn cydnabod na fydd y fframwaith cyflenwyr yn barod tan ddiwedd mis Rhagfyr, gan adael ffenestr fer i ymwneud â’r ymgeiswyr llwyddiannus yn y flwyddyn ariannol bresennol.
Mae’r gyllideb ymchwil hefyd wedi’i chwtogi ar ôl drafftio briff ar gyfer y prosiect, sy’n rhannu’r gwaith yn ddau gam, a’r ail o’r rheini i’w gwblhau ym mlwyddyn ariannol 26/27.
Mae’r arbedion yn y llinellau yn y gyllideb ar gyfer sicrhau ansawdd ac ymchwil wedi’u hailddyrannu i’r prosiectau Anghenion Dysgu Ychwanegol gyda Chyngor Llyfrau Cymru a’r RNIB.
Dywedodd KD fod y gyllideb a gyflwynwyd i ARAC ar 6 Hydref wedi dyrannu £150k ar gyfer prosiect posibl i gyhoeddi adnoddau gwrth-hiliaeth. Ers hynny, mae ymholiadau wedi’u gwneud ynghylch sut mae’r adnoddau’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru. Ni fydd y cyllid yn cael ei roi i’r cyflenwr yn ystod blwyddyn ariannol 25/26. Mae senarios posibl wedi’u canfod i edrych ymhellach ar ailddyrannu’r cyllid.
Mae tanwariant o tua £18,000 yn y costau gweithredol yn Chwarteri 1 a 2 wedi’i ailddyrannu er mwyn cynyddu’r cyllidebau canlynol:
- cyfathrebu a marchnata
- caffael
Esboniodd MG fod llinell wedi’i hychwanegu at y gyllideb i wneud iawn am y cronfeydd wrth gefn negyddol gwerth £16,000.
Cadarnhaodd PMcC eu bod yn aros am gymeradwyaeth yn dilyn y cyngor i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynghylch cynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol a chyflogau yn ystod y flwyddyn.
Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wedi cyhoeddi’r gyllideb amlinellol ar gyfer 2026/27. Bydd y gyllideb ddrafft yn cael ei chyhoeddi ar 3 Tachwedd 2025. Mae disgwyl cyflwyno’r gyllideb derfynol ar 20 Ionawr, gyda phleidlais yn y Senedd ar 27 Ionawr 2026.
Dywedodd PMcC mai’r disgwyl yw y bydd cyngor ynghylch llythyr ariannu Adnodd yn 2026/27 yn cael ei gyflwyno ym mis Rhagfyr, gyda golwg ar gael cytundeb Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg cyn y bleidlais yn y Senedd ddiwedd mis Ionawr.
Oherwydd bod etholiad y Senedd ym mis Mai, mae disgwyl i Adnodd gael llythyr ariannu blwyddyn o hyd, ac estyniad blwyddyn o hyd i’r llythyr cylch gwaith presennol.
Disgwylir y bydd y ffigurau ar gyfer Cymorth grant yn debyg iawn i ffigurau 2025/26, gyda mymryn o gynnydd ar gyfer codiadau cyflog a chyfraniadau yswiriant gwladol yn 2026/27.
Archwilio mewnol
Bydd yr ail archwiliad mewnol yn canolbwyntio’n benodol ar reoli’r contractau comisiynu, gan mai yn y maes gwaith hwn y mae’r risg uchaf, ac felly dyma lle mae angen y lefel sicrwydd uchaf.
Bydd yr archwiliad yn cael ei gynnal yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd a bydd y canfyddiadau’n cael eu cyflwyno i ARAC ym mis Ionawr.
9. Diweddariad cyfathrebu ac ymgysylltu
Cafodd AH ei chroesawu gan GD i’w chyfarfod Bwrdd cyntaf fel Pennaeth Ymgysylltu Strategol a Chyfathrebu.
Esboniodd AH fod Cynorthwyydd Cyfathrebu newydd Adnodd wedi dechrau yn ei swydd ar 6 Hydref.
Mae KD ac AH wedi bod yn gweithio gydag Everglow (partner digidol a chyfathrebu Adnodd – Blue Stag oedd yr hen enw) i gynllunio cyfnod trosglwyddo pum mis wrth i’r cwmni fynd ati’n raddol i ysgwyddo’r cyfrifoldebau’n fewnol am waith cyfathrebu.
Adroddiad cynnydd blynyddol
Mae’r adroddiad wedi’i ddrafftio ac mae’n cynnwys uchafbwyntiau gwaith y tîm comisiynu.
Adolygu’r gwaith ymgysylltu hyd yma
Dywedodd AH y bydd yr adolygiad yn edrych ar y bylchau, ar ba waith sydd wedi’i gwblhau hyd yma, ac ar sut y bydd y cynllun cyfathrebu strategol yn cael ei lunio.
Dywedodd AH y bydd y staff yn cymryd rhan mewn gweithdy gydag ymarferwyr creadigol ar 23 Hydref.
Gŵyl Adnodd
Soniodd AH am y gwaith sy’n mynd rhagddo gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ymwneud â chyflenwyr presennol a darpar gyflenwyr yn y farchnad.
Bydd Gŵyl Adnodd yn gyfle i gael trafodaeth agored am yr heriau posibl y mae cyflenwyr yn eu hwynebu, fel creu adnoddau sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru a chreu cynnwys dwyieithog.
Polisi’r Gymraeg
Mae KD ac AH ar hyn o bryd yn gweithio gyda Catrin Keller o’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol i ddrafftio’r polisi gan ddefnyddio ysgrifennu triawd – dull y mae Adnodd yn annog ei gyflenwyr i’w ddefnyddio.
Ar ôl gweithdy undydd cychwynnol, mae’r polisi’n cael ei ddatblygu ymhellach yn ystod sesiynau ar-lein.
10. Olyniaeth y Bwrdd
Cymeradwyodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg y cynnig a gyflwynodd Adnodd ynghylch olyniaeth ar y Bwrdd.
Bydd y Tîm Partneriaeth bellach yn rhoi cyngor ffurfiol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ym mis Tachwedd er mwyn dechrau’r broses o ymestyn contractau presennol aelodau’r Bwrdd, gan ychwanegu naill ai flwyddyn neu dair blynedd atyn nhw, yn unol â’r cynnig.
Cam gweithredu: Aelodau’r Bwrdd y mae’u contractau’n cael eu hymestyn am dair blynedd i ystyried gwirfoddoli i fod yn aelodau o ARAC.
Cam gweithredu: Cylchredeg yr archwiliad o sgiliau’r Bwrdd.
Cam gweithredu: Ystyried sgiliau penodol ar gyfer ARAC yn ystod y broses o recriwtio aelodau newydd i’r Bwrdd.
11. Adolygiad tâl 2025/26
Eitem gaeedig. Gadawodd KD, LlS a BE y cyfarfod yn ystod yr eitem hon.
12. Cynllun gweithredol
Esboniodd EG fod y tîm yn diweddau’r cynllun bob mis er mwyn dangos y cynnydd o dan yr amcanion. Mae pob amcan yn cael label coch, ambr neu wyrdd i amlygu problemau posibl ac elfennau tyngedfennol wrth gyflawni.
Oherwydd pa mor gynhwysfawr yw’r daenlen, cytunwyd y bydd y papur cefndir ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol yn cyfeirio at y materion pwysicaf yn unig.
13. Y Cwricwlwm i Gymru: y risgiau, yr heriau a’r cyfleoedd
Dywedodd GD y byddai fideo a chyflwyniad yn cael eu cylchredeg i baratoi at y sesiwn sydd wedi’i threfnu ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Ebrill 2026 – Y Cwricwlwm i Gymru: Y risgiau, y cyfleoedd a’r heriau.
14. Unrhyw fusnes arall
Trafodwyd a chytunwyd ar ddyddiadau’r cyfarfodydd nesaf.
- Cyhoeddwyd yn wreiddiol
- Diweddarwyd ddiwethaf