Neidio i'r prif gynnwy
English

Cyfleoedd Comisiynu

Cronfa Arloesi a Chydweithio

Mae Cronfa Arloesi a Chydweithio Adnodd yn cynnig hyd at £5,000 fesul prosiect i gefnogi syniadau creadigol a chydweithredol ar gyfer datblygu a rhannu adnoddau addysgol dwyieithog ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.

Bwriad y gronfa hon yw i annog arloesedd. P’un a ydych chi’n ymarferydd, yn grëwr cynnwys, neu’n rhywun sydd â syniad newydd beiddgar — rydym am glywed gennych chi. Os ydych chi’n angerddol am gyfoethogi addysg yng Nghymru, dyma eich cyfle i helpu i lunio’r hyn sy’n dod nesaf.

Ymunwch â sesiwn wybodaeth ar-lein i ddysgu mwy a darganfod sut i wneud cais:

Oes gennych chi gwestiwn? Cysylltwch â ni: comisiynu@adnodd.llyw.cymru