Adnoddau i ddathlu Dydd Santes Dwynwen
Bob blwyddyn mae pobl Cymru yn dathlu Dydd Santes Dwynwen ar 25 Ionawr. Dysgwch fwy am Nawddsant Cariadon Cymru a darganfyddwch adnoddau i helpu addysgu pobl ifanc.
Pwy yw Santes Dwynwen
Santes Dwynwen yw Nawddsant Cariadon Cymru. Cafodd ei geni yn y 4edd ganrif yn yr hyn sydd bellach yn Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, roedd yn Dywysoges ac yn un o 24 o ferched y Brenin Brychan Brycheiniog.
Sut y daeth Dwynwen yn santes
Penderfynodd Dwynwen dreulio ei bywyd yn gweddïo ar ran pobl eraill er mwyn iddyn nhw yn cael gwell lwc mewn cariad. Mae ei stori yn un drasig ac ysbrydoledig.
Yn ôl y chwedl, syrthiodd mewn cariad â dyn ifanc o’r enw Maelon Dafodrill, ond roedd ei thad eisoes wedi trefnu iddi briodi tywysog arall. Torrodd Dwynwen ei chalon, ac aeth ar ffo i’r goedwig a gweddïo am help.
Ymddangosodd angel iddi mewn breuddwyd, a rhoi diod hud iddi er mwyn cael gwared o’ichariad at Maelon. Fodd bynnag, cafodd y ddiod effaith annisgwyl gan droi Maelon mewn i floc o rew! Mewn gweddi, gofynodd Dwynwen i Dduw ryddhau Maelon o’r rhew, ac yn gyfnewid am hynny, addawodd roi ei bywyd i helpu eraill.
Yn ddiweddarach sefydlodd eglwys ar Ynys Llanddwyn, oddi ar arfordir Ynys Môn, a ddaeth yn safle pererindod i’r rhai oedd yn chwilio am gariad ac arweiniad.

Enghraifft o Llwy Garu Gymreig. Credyd: Kmtextor, CC BY-SA 4.0
Beth sy’n digwydd ar Ddydd Santes Dwynwen
Ar 25 Ionawr, mae pobl ledled Cymru yn dathlu Dydd Santes Dwynwen drwy fynegi eu cariad gilydd.
Yn debyg i Ddydd San Ffolant, mae llawer yn nodi’r achlysur trwy gyfnewid anrhegion a chardiau. Fodd bynnag, mae Dydd Santes Dwynwen hefyd yn gallu cynnwys elfennau unigryw o ddiwylliant Cymru. Mae rhai yn dewis ymweld ag Ynys Llanddwyn, safle eglwys Dwynwen, tra bod eraill yn cymryd rhan mewn arferion traddodiadol fel cerfio a rhoi llwyau caru.
Gweithgareddau i ddysgwyr
Mae dathlu Dydd Santes Dwynwen yn ffordd wych o gyflwyno pobl ifanc i ddiwylliant a threftadaeth Cymru. Dyma rai syniadau y gallwch eu defnyddio sydd ar Adobe Express ar Hwb:
- Tynnwch lun llwy garu ddigidol.
- Creu cerdyn Dydd Santes Dwynwen ar gyfer anwyliaid.
- Creu llinell amser o fywyd Dwynwen.
- Creu cerdyn rysáit ar gyfer bisgedi siâp calon.
Hefyd, cadwch lygad ar Hwb am wersi byw cyn ac ar ôl Dydd Santes Dwynwen ar 25 Ionawr.