Edrych yn ôl ar flwyddyn gyntaf Adnodd
A ninnau ar drothwy’r Nadolig, mae’n rhyfeddol edrych yn ôl ar y datblygiadau mawr yn Adnodd dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae 2024 wedi bod yn flwyddyn o newid byd i ni, yn llawn cynnydd a chyflawniadau cyson. Mae’n deimlad gwych gwybod ein bod wedi creu sylfeini cadarn ac ymdeimlad gwirioneddol o fomentwm wrth i ni edrych ymlaen at 2025 ac at yr heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau.
Gosod y sylfeini
Dechreuodd y flwyddyn gyda gwaith i ddylunio ein sefydliad. Yn y gwanwyn, canolbwyntiwyd ar sefydlu ein gwasanaethau corfforaethol, ar ddatblygu ein model comisiynu, ac ar ganfod blaenoriaethau a chyfleoedd ar gyfer gwaith comisiynu cynnar. Drwy’r gwaith cychwynnol hwn i osod sylfeini, sicrhawyd bod gennyn ni’r strwythurau a’r prosesau iawn i ddechrau cyflawni ein nod, sef rhoi profiad cyfoethocach i ddysgwyr o’r Cwricwlwm i Gymru.
Creu ein tîm
Dros yr haf, recriwtio oedd y flaenoriaeth. Chwiliwyd am unigolion dawnus a oedd yn rhannu ein gweledigaeth a’n hymrwymiad i gryfhau addysg yng Nghymru. Ym mis Medi, croesawyd tîm eithriadol o staff dwyieithog sydd wedi bwrw iddi’n ddiymdroi. Mae eu brwdfrydedd a’u harbenigedd eisoes yn ein helpu i wneud cynnydd gwych wrth gyflawni ein hamcanion.
Comisiynu adnoddau
Ar ôl sefydlu ein tîm, dyma fynd ati i gomisiynu ein rownd gyntaf o adnoddau. Mae’r adnoddau hyn yn cyd-fynd â blaenoriaethau polisi a meysydd lle mae anghenion amlwg. Wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau a’n gweledigaeth strategol, rhoddwyd pwyslais eleni ar brofi ein dull comisiynu er mwyn targedu adnoddau a fydd yn cael eu cyhoeddi yn ystod y flwyddyn academaidd bresennol. Bydd yr adnoddau newydd yn cynnwys:
- Adnoddau ar-lein a chyfunol i gyd-fynd â’r cymwysterau TGAU newydd sy’n dechrau yn 2025.
- Adnoddau newydd ac wedi’u diweddaru i hybu darllen a llythrennedd yn y Gymraeg, a hynny mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg.
- Adnoddau’r Cwricwlwm sy’n gysylltiedig â rhaglenni teledu sydd i ddod cyn hir.
- Diweddariadau a fersiynau estynedig o apiau ac adnoddau rhyngweithiol i hybu llythrennedd a rhifedd.
- Adnoddau digidol Cymraeg i helpu i ddysgu ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd.
Darganfod ein cymuned
Rydyn ni’n sefydliad sy’n gwrando ac yn dysgu, ac sy’n ymateb i anghenion ac adborth y rheini rydyn ni’n eu gwasanaethu. Rydyn ni’n credu bod y deilliannau gorau’n cael eu cyflawni drwy gydweithio. Eleni, rydyn ni wedi mynd ati’n bwrpasol i siarad â llunwyr polisïau, addysgwyr, dysgwyr, rhieni a gofalwyr, darparwyr a chrewyr cynnwys, a phartneriaid strategol, gan wrando ar beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud. Y flwyddyn nesaf, rydyn ni’n awyddus i gynnwys a chlywed gan fwy o bobl wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau, ein hamcanion a’n gweledigaeth ar gyfer y tymor hir.
Rhoi gwybod am ein cynnydd
Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio’n agored, i rannu ein cynlluniau a’n syniadau, ac i werthuso a gwella sut rydyn ni’n gwneud pethau. I ddarllen mwy am beth rydyn ni wedi’i gyflawni eleni, ac am ein syniadau at y dyfodol, mae ein hadroddiad cynnydd blynyddol cyntaf ar gael ar ein gwefan.
Dewch i fod yn rhan o’n taith

Rydyn ni eisiau cynnwys cynifer o bobl â phosibl yn ein gwaith. Rydyn ni’n eich gwahodd i ymuno â’n cymuned er mwyn dysgu mwy am sut y gallwch chi fod yn rhan o’r sgwrs, gan helpu i lywio ein dull o weithio a’n cynlluniau.
Edrych yn ein blaenau
Rydyn ni wedi cael dechrau anhygoel eleni, ac mae 2025 yn addo bod yn well fyth. Dros y misoedd nesaf, byddwn ni’n ymwneud rhagor ag addysgwyr, dysgwyr, eu teuluoedd a chymunedau; yn gweithio gydag ymchwilwyr i fapio teithiau defnyddwyr; yn datblygu ein cynlluniau a’n strategaeth ar gyfer y tymor hwy; yn treialu ffyrdd newydd o gomisiynu a sicrhau ansawdd adnoddau; ac yn cryfhau ein partneriaethau strategol.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyflawni mwy fyth gyda’n gilydd yn y flwyddyn sydd i ddod.
Emyr George
Prif Weithredwr, Adnodd