Neidio i'r prif gynnwy
English

Llunio dyfodol addysg yng Nghymru: Ein blwyddyn gyntaf o gomisiynu adnoddau

Mae Adnodd wedi comisiynu 27 o brosiectau ac wedi gweithio gyda 16 o gyflenwyr gwahanol i ddod â channoedd o adnoddau dwyieithog newydd yn fyw dros y flwyddyn ddiwethaf. Dyma sut rydym wedi dechrau llunio dyfodol addysg yng Nghymru.
High school children in a classroom, learning from a teacher

Yn ystod blwyddyn gyntaf Adnodd fel sefydliad newydd, rydym wedi bod yn brysur yn comisiynu a rheoli sawl prosiect newydd. Mae’r adnoddau rydym wedi’u cefnogi yn cynnwys y rhai sy’n feysydd blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, yn ogystal â darparu diweddariadau hanfodol i adnoddau presennol i’w gwneud yn fwy hygyrch a pherthnasol i Gwricwlwm Cymru.

Mae’r broses hon wedi ein helpu i ddod i adnabod cyflenwyr newydd a chyflenwyr presennol ac i ddysgu mwy am y dirwedd adnoddau yng Nghymru. Rydym hefyd wedi gallu treialu ffyrdd newydd o gomisiynu a sefydlu prosesau newydd.

Isod, rydym yn rhoi blas o rywfaint o’r gwaith rydym wedi’i gomisiynu hyd yn hyn, yn ogystal â rhai o’r pethau rydym wedi’u dysgu ar hyd y ffordd.

Ein stori gomisiynu hyd yn hyn

Rydym wedi defnyddio gwybodaeth gan ddefnyddwyr a chyflenwyr ar yr hyn sydd eisoes ar gael, ac fe wnaeth adolygiad Llywodraeth Cymru o adnoddau yn Hwb dynnu sylw at rai bylchau. Mae’r adnoddau hyn yn cefnogi gwahanol Feysydd Dysgu a Phrofiad o fewn Cwricwlwm Cymru, gyda phwyslais cryf ar gefnogi llythrennedd.

Wrth i ni symud i’n hail flwyddyn, byddwn yn parhau i dreialu ffyrdd newydd o fuddsoddi mewn datblygu adnoddau ledled Cymru, a’u hariannu.

Rhan o’n gwaith yw ymgysylltu â’r sector, dysgu mwy am yr hyn sydd ar gael, a chofleidio arloesedd ac arfer da ledled Cymru. Rydym am edrych ymhell ac agos am ysbrydoliaeth a syniadau newydd o ran yr hyn sy’n gweithio’n dda.

Three women stand smiling behind an exhibition table with a green tablecloth and branding for "adnodd", an organisation supporting the Curriculum for Wales. The backdrop and materials on the table promote educational resources.

Amrywiaeth mewn adnoddau, fformatau a phartneriaethau

Yn ein blwyddyn gyntaf, comisiynwyd 27 o brosiectau gan 16 o gyflenwyr gwahanol, gan arwain at gannoedd o adnoddau dwyieithog newydd i gefnogi ac ysbrydoli dysgu. Yn amrywio o £7,500 i £500,000, ac mewn amrywiaeth o fformatau, mae’r adnoddau i gyd wedi dangos gwerth rhagorol am arian a galw gan ddefnyddwyr.

Mae’r adnoddau’n adlewyrchu bylchau cyfredol yn y ddarpariaeth a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Gan ddefnyddio ymchwil, rydym yn datblygu ein data a’n mewnwelediadau fel y gallwn gael dealltwriaeth ddyfnach o anghenion a phrofiadau ymarferwyr, yn ogystal â dysgwyr, eu teuluoedd, a’u cymunedau.

Mae’r adnoddau hyn yn cwmpasu cymysgedd eang o fformatau, gan gynnwys microsafleoedd, offer gwe rhyngweithiol, gemau, a hyd yn oed profiadau realiti rhithwir. Rydym hefyd wedi cefnogi datblygiad cynnwys sy’n gysylltiedig â rhaglenni teledu a dysgu trwy chwarae.

A group of five people stands smiling in front of a large screen displaying a presentation slide titled "DARPL" and a video call interface with remote participants.

Cysylltu ag ymarferwyr a chyflenwyr

Rydym yn parhau i gynnal sesiynau ymgysylltu a chynnal ymchwil wrth i ni lunio ein cyfleoedd comisiynu ar gyfer y flwyddyn i ddod. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, byddwn yn cydweithio ag eraill, ac rydym wedi cael ein llethu gan y diddordeb o bob cwr o Gymru a thu hwnt.

Dros bythefnos ym mis Mawrth ac Ebrill, fe wnaethom ymgysylltu â dros 100 o bobl fel rhan o sioe deithiol ar-lein ar gyfer ymarferwyr addysg, yn ogystal â chyflenwyr presennol a darpar gyflenwyr. Roeddem yn gyffrous i rannu ein dull, ein gwaith hyd yn hyn, a’n cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Diolch i bawb a gymerodd ran!

Cawsom hefyd dros 160 o ymgysylltiadau â rhanddeiliaid fel rhan o brosiect ymchwil gyda Miller Research. Mae canfyddiadau cynnar yn dangos awydd cryf gan ymarferwyr am adnoddau sy’n hawdd eu canfod, eu defnyddio a’u haddasu. Byddwn yn cyhoeddi’r adroddiad terfynol ac yn gweithio ar weithredu ymatebion yn haf 2025.

Dulliau newydd o ddatblygu adnoddau

Yn ein hail flwyddyn, byddwn yn parhau i dreialu dulliau comisiynu newydd a buddsoddi mewn syniadau newydd ar gyfer adnoddau.

Bydd gennym ffocws sylweddol ar degwch, cynhwysiant a gwrth-hilioldeb i sicrhau bod yr adnoddau a gomisiynwn yn adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru. Rydym wedi ymrwymo i arloesi a byddwn yn cymryd risgiau priodol yn seiliedig ar y mewnwelediadau a gasglwyd gennym o’r sector a’n ffocws strategol. Er mwyn parhau i ddysgu a thyfu, byddwn yn treialu ffyrdd newydd o weithio a chydweithio i ychwanegu gwerth ac ansawdd at y cynnwys a gomisiynwn.

Rydym hefyd wedi datblygu proses newydd i gasglu gwybodaeth am adnoddau newydd cyffrous sydd mewn datblygiad neu gynlluniau a allai fod gennych ar gyfer rhai newydd. Os hoffech rannu eich syniadau ar gyfer adnoddau a phrosiectau gyda ni, defnyddiwch y ffurflen gyflym a hawdd hon.

Byddwn yn gwrando, yn gwerthuso, yn adolygu ac yn addasu’r ffyrdd yr ydym yn comisiynu adnoddau addysgol dros y flwyddyn nesaf fel ein bod yn parhau i ddysgu a gwella.

A man wearing a virtual reality headset and holding two controllers interacts with a virtual environment in a classroom or workshop setting. A large screen behind him shows a scenic VR landscape.

Ymunwch â’n cymuned

Rydym yn awyddus i rannu mwy o ddiweddariadau a chyfleoedd gyda phobl ar draws y sector addysg yng Nghymru. Ymunwch â’n cymuned yma.

Rydym hefyd yn edrych ymlaen at fynychu’r digwyddiadau canlynol yn 2025:

  • 26ain i 31ain Mai – Eisteddfod yr Urdd, Parc Margam
  • 13eg Mehefin – Sioe Addysg Genedlaethol, Llandudno
  • 2il i 9fed Awst – Eisteddfod Genedlaethol, Wrecsam
  • 3ydd Hydref – Sioe Addysg Genedlaethol, Caerdydd

Diolch am fod yn rhan o’n taith,

Ali, Carys, Dyddgu, Elliw