Neidio i'r prif gynnwy
English
Dyddgu Morgan-Hywel

Ymunodd Dyddgu ag Adnodd ym mis Medi 2024 o’i rôl flaenorol fel Uwch Ddarlithydd mewn Addysg ac Arweinydd Strategol ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae gan Dyddgu ddegawd o brofiad ymarferol mewn addysg uwch a rolau addysgu blaenorol, mae hi’n frwd dros rymuso ac ysbrydoli athrawon a dysgwyr ar draws Cymru trwy gomisiynu adnoddau arloesol, gan feithrin ymgysylltiad dyfnach a phrofiadau dysgu dylanwadol.