Neidio i'r prif gynnwy
English

Adnoddau

Byddwn yn cydweithio a chydlynu’n strategol er mwyn galluogi’r broses o greu adnoddau newydd.

Yn hytrach na chreu adnoddau ein hunain, byddwn yn gweithio gydag ymarferwyr, darparwyr, a chyflenwyr i gomisiynu adnoddau newydd, gan wneud y gorau o’r arbenigedd, y gallu a’r creadigrwydd ar draws Cymru.

A girl learning at home using an iPad

Bydd adnoddau newydd yn cael eu comisiynu yn unol â blaenoriaethau ac anghenion ymarferwyr, dysgwyr a’u teuluoedd a’u cymunedau. Bydd yr adnoddau a gomisiynir gennym o ansawdd uchel, yn ddwyieithog, yn berthnasol i’r Cwricwlwm i Gymru, yn addasadwy, ac yn hygyrch. Gallant fod ar wahanol ffurfiau – o apiau i lyfrau, ffilmiau byr i weithgareddau dysgu awyr agored – a chwrdd ag anghenion pob dysgwr.

Byddwn yn cyhoeddi manylion ein blaenoriaethau comisiynu yn rheolaidd er mwyn rhoi amser i grewyr cynnwys gynllunio a datblygu cynigion effeithiol.

Bydd yr holl adnoddau digidol a gomisiynir gan Adnodd ar gael drwy Hwb, llwyfan dysgu digidol Llywodraeth Cymru.

Mae Adnodd yn cydweithio â thîm Hwb i wella profiadau defnyddwyr a symleiddio teithiau defnyddwyr wrth gyrchu adnoddau ar Hwb.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ar wefan Hwb, gyda datblygiadau a gwelliannau yn canolbwyntio ar wella profiad defnyddwyr, gan ei gwneud yn haws ac yn fwy sythweledol i ddefnyddwyr gael mynediad at adnoddau gwerthfawr.

Cadwch mewn cysylltiad â ni

Cewch y newyddion diweddaraf gan Adnodd wrth i ni gefnogi Cwricwlwm i Gymru.

A series of photos from the education sector in Wales. Students from all ages smiling and engaging in educational activities as well as industry leaders discussion the education sector.