Gan ysgolion, ar gyfer ysgolion: Cyllid Adnodd ar gyfer prosiectau adnoddau athrawon
Esiampl gyffrous o leisiau ymarferwyr a dysgwyr yn chwarae rhan bwysig mewn adnodd a ddatblygir gyda chyllid gan Adnodd.
Esiampl gyffrous o leisiau ymarferwyr a dysgwyr yn chwarae rhan bwysig mewn adnodd a ddatblygir gyda chyllid gan Adnodd.
Mae Adnodd yn croesawu cyhoeddi cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol (y Cynllun) Llywodraeth Cymru. Edrychwn ymlaen at chwarae ein rhan wrth wireddu ei uchelgeisiau a gweithio gyda phartneriaid ar draws y system addysg a thu hwnt – gan gynnwys gyda chyflenwyr, cyhoeddwyr a sefydliadau cenedlaethol - i wella deilliannau i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Cafodd yr ymchwil yma ei gomisiynu gan Adnodd er mwyn helpu i lywio penderfyniadau comisiynu yn y dyfodol. Ei ddiben yw archwilio tirwedd bresennol adnoddau llythrennedd ledled Cymru ac ystyried tystiolaeth ynghylch pa ddulliau sydd fwyaf effeithiol wrth gefnogi datblygiad sgiliau llythrennedd.
Ers mis Medi 2025, rydym wedi buddsoddi bron i £3 miliwn mewn adnoddau addysgol i gefnogi amrywiaeth eang o flaenoriaethau.
Ymunwch ag Adnodd, gwesteion arbennig a phartneriaid am sgwrs fywiog am Hanes, Hunaniaeth a’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae'r adroddiad hwn, a gynhyrchwyd gan Arad Research, yn archwilio effaith gynnar Adnodd yn ystod ei gyfnod sefydlu (2023–2025). Gan ddefnyddio Mapio Effaith Crychdonnau, mae'n tynnu sylw at sut mae cydweithio, ymchwil a nodi anghenion yn cyfrannu at gomisiynu cryfach, gwell adnoddau addysgol, a newid cadarnhaol ar draws system addysg Cymru.
“Cydweithio cyffrous rhwng y sector diwylliant ac addysg yn rhoi cyfle i holl ddysgwyr Cymru ddod i adnabod hunaniaeth amrywiol ein gwlad”
Mae Adnodd yn falch o ariannu Aberwla — adnodd VR arloesol, rhad ac am ddim i'w lawrlwytho, wedi'i gynllunio i gefnogi dysgu'r iaith Gymraeg mewn ffordd hollol newydd.
Rhwng Mehefin 2025 a Mawrth 2026, fe wnaethom ariannu 10 prosiect addysg arloesol, gan gefnogi pobl i ddatblygu syniadau gyda chydweithwyr o’i dewis.
Wrth i bobl ddefnyddio adnoddau digidol, mae Adnodd yn awyddus i’r profiad hwnnw fod yn adlewyrchiad gwirioneddol o’r hyn sydd ei angen ar ymarferwyr a dysgwyr. I gyflawni hyn, rydyn ni’n defnyddio cyfres o ddulliau dylunio strategol sy’n ein helpu i droi gwaith ymchwil yn brofiad clir a buddiol i’r gymuned addysg yng Nghymru.
Bydd Extend Education yn cyhoeddi eu canllawiau astudio ac adolygu poblogaidd ar draws pob pwnc TGAU, gan eu cynnig yn Gymraeg a Saesneg am y tro cyntaf.
Mae Adnodd yn defnyddio'r gair cynefino i ddisgrifio cyfnod sefydlu neu anwytho (induction) staff newydd. Mae'r ferf cynefino yn golygu helpu rhywun i deimlo fel eu bod yn perthyn i le. Gall y gair anwytho deimlo'n rhy gorfforaethol gan ei fod yn awgrymu bod rhaid i aelod newydd o'r tîm gydymffurfio â disgwyliadau.