Sut rydym yn cynhyrchu adnoddau

Rôl Adnodd wrth greu adnoddau
Rydym yn chwarae rhan flaenllaw wrth gydlynu darpariaeth adnoddau sy’n hawdd ei defnyddio a’i haddasu, yn y Gymraeg a’r Saesneg, er mwyn ysbrydoli dysgu ac addysgu’r Cwricwlwm i Gymru.
Nid ydym yn cynhyrchu adnoddau ein hunain. Yn hytrach, rydym yn gweithio gyda phartneriaid a chyflenwyr arbenigol ledled Cymru — gan gomisiynu adnoddau o ansawdd da, sy’n ymateb i dystiolaeth glir o angen ac yn manteisio i’r eithaf ar greadigrwydd, mewnwelediad ac arbenigedd y sector.
Yr hyn rydyn ni’n ei gomisiynu
Mae’r adnoddau rydyn ni’n eu comisiynu ar gael mewn sawl ffurf, o apiau, llyfrau, ffilmia byrion, gweithgareddau dysgu awyr agored, a mwy.
Caiff pob adnodd ei gomisiynu yn seiliedig ar anghenion ymarferwyr, dysgwyr, teuluoed chymunedau. Rydyn ni’n blaenoriaethu cynnwys sy’n gynhwysol, y mae modd ei addas yn hygyrch i bob dysgwr.
Sut rydym yn comisiynu adnoddau
Rydym wedi ymrwymo i dryloywder ym mhopeth a wnawn. Dyna pam ein bod yn cyhoe manylion ein holl rowndiau comisiynu ar ein gwefan ac ar GwerthwchiGymru, gan roi di amser i gyflenwyr gynllunio a chyflwyno cynigion cryf.
Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau rheolaidd i ymgysylltu â chyflenwyr presennol a darpar gyflenwyr, gan rannu ein blaenoriaethau ac agor cyfleoedd newydd i gydweithio.
Sut mae adnoddau’n cael eu cyhoeddi
Caiff yr adnoddau digidol rydyn ni’n eu comisiynu eu cyhoeddi ar Hwb, platfform dysgu ar-lein Llywodraeth Cymru.
Rydyn ni’n gweithio gyda thîm Hwb ar hyn o bryd er mwyn gwella profiad y defnyddiwr, a’i gwneud hi’n haws i ddarganfod, cael mynediad at, a defnyddio’r adnoddau sydd eu hangen arnynt.
Cadwch mewn cysylltiad â ni
Cewch y newyddion diweddaraf gan Adnodd wrth i ni gefnogi Cwricwlwm i Gymru.
