Adroddiad Cynnydd Blynyddol Adnodd 2024
1. Pwy a beth yw Adnodd?

Ein nod fel sefydliad yw creu profiadau dysgu cyfoethocach, hybu tegwch, a meithrin arloesi yn y byd addysg ledled Cymru.
Sefydlwyd Adnodd ar ôl penderfyniad yn 2022 gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar y pryd i ariannu corff hyd braich newydd. Corff fyddai hwn i oruchwylio a chydlynu’r modd y mae adnoddau addysgol yn cael eu darparu yn Gymraeg ac yn Saesneg, a hynny er mwyn cefnogi dysgu ac addysgu o dan y Cwricwlwm i Gymru.
A ninnau’n gwmni newydd sy’n gweithio yn y sector addysg yng Nghymru, rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu adnoddau addysgol dwyieithog o’r radd flaenaf i gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru. Drwy gydweithio ag addysgwyr, rhanddeiliaid a Llywodraeth Cymru, rydyn ni’n ceisio sicrhau bod ein holl ddysgwyr a’n holl athrawon yn gallu mynd ati’n rhwydd i ddefnyddio deunyddiau perthnasol a chynhwysol.
Ni fydd Adnodd yn creu nac yn cyhoeddi ei adnoddau ei hun. Yn hytrach, byddwn yn helpu ymarferwyr, darparwyr a chyflenwyr i sicrhau bod adnoddau addysgol yn cael eu darparu mewn ffordd fwy cyfannol a chydlynol. Byddwn hefyd yn hyrwyddo adnoddau ac yn ymwneud â dysgwyr ac ymarferwyr er mwyn iddyn nhw allu defnyddio’r rheini yn y ffordd orau. Yn y dyfodol, byddwn yn datblygu ac yn buddsoddi yn y sgiliau a’r capasiti i greu, rhannu a chyhoeddi adnoddau addysgol yng Nghymru.
Adnoddau fydd y rhain ar gyfer ymarferwyr a dysgwyr fel ei gilydd, a byddan nhw’n cael eu defnyddio i ddysgu’n annibynnol, i astudio’n unigol ac i adolygu. Bydd yr adnoddau hyn yn berthnasol i’r holl gwricwlwm, a byddan nhw ar gael mewn fformatau amrywiol ar gyfer dysgwyr rhwng 3 ac 19 oed.
Drwy gomisiynu adnoddau safonol, perthnasol ac amserol, a’r rheini ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar yr un pryd, bydd ein gwaith yn cyfoethogi’r profiad a gaiff pawb o’r Cwricwlwm i Gymru.
A ninnau’n sefydliad strategol sy’n galluogi, byddwn yn cydweithio ag ymarferwyr, dysgwyr, partneriaid ac amrywiaeth eang o randdeiliaid, a hynny i wneud y canlynol:

Goruchwylio’n strategol yr adnoddau dysgu ac addysgu sydd ar gael i gefnogi dysgwyr rhwng 3 ac 19 oed

Cynnig gwasanaeth amlwg y bydd pobl yn gallu troi ato i gael adnoddau dysgu ac addysgu dwyieithog o’r radd flaenaf

Sicrhau bod adnoddau’n berthnasol, yn amserol ac ar gael ar yr un pryd yn Gymraeg ac yn Saesneg

Sefydlu fframwaith sicrhau ansawdd ar gyfer comisiynu, datblygu a chymeradwyo adnoddau sy’n addas i’w diben

Hwyluso cydweithio rhwng partneriaid a sectorau er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyllid, yr arbenigedd, yr wybodaeth a’r sgiliau sydd ar gael a galluogi arloesi

Hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r adnoddau ac annog pobl i’w defnyddio, gan greu mwy o fudd a gwerth i ddysgwyr ac ymarferwyr

Datblygu a buddsoddi yn y sgiliau a’r capasiti drwy Gymru i greu, rhannu a chyhoeddi adnoddau addysgol
2. Cyflwyniad gan y Cadeirydd a’r Prif Weithredwr

Owain Gethin Davies, Cadeirydd
Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno adroddiad blynyddol cyntaf Adnodd. Rwy’n falch tu hwnt o’r hyn y mae fy nghyd-aelodau ar y Bwrdd, y nifer bychan o staff, a’n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru wedi’i gyflawni wrth sefydlu Adnodd fel corff hyd braich newydd.
Cofrestrwyd Adnodd yn ffurfiol fel cwmni yn 2022 a phenodwyd Bwrdd y cyfarwyddwyr ym mis Ebrill 2023. Ein prif flaenoriaeth yn y flwyddyn gyntaf oedd penodi Prif Weithredwr a sefydlu prosesau llywodraethu a phrosesau gweithredol y cwmni.
Ar ôl hysbysebu am Brif Weithredwr yn haf 2023, roedden ni wrth ein boddau’n gallu penodi Emyr George i’r swydd ym mis Ionawr 2024. Mae gan Emyr brofiad helaeth tu hwnt yn y sector addysg, gan gynnwys treulio wyth mlynedd yn Cymwysterau Cymru. Yno, bu’n arwain y gwaith pwysig i ddiwygio cymwysterau i gyd-fynd â’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Roedd hynny’n cynnwys y gyfres newydd sbon o gymwysterau TGAU sy’n benodol ar gyfer Cymru.

Mae mwy o staff wedi ymuno ers hynny, ac erbyn diwedd 2024 byddwn wedi tyfu yn dîm bychan ond hyblyg o ddeg aelod o staff.
Mae gwaith Adnodd yn hollbwysig wrth i ni gefnogi uchelgeisiau’r Cwricwlwm i Gymru, sef creu cenedl sy’n llawn dysgwyr creadigol, iach a hyderus.

Emyr George, Prif Weithredwr
Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn un brysur dros ben i Adnodd. Un o’n tasgau cyntaf pan gefais fy mhenodi oedd cytuno ar strwythur staffio a recriwtio parhaol, a bydd hynny’n cael ei wireddu’n llawn tua diwedd 2024.
Dechreuwyd ar y gwaith o ymgynghori â’n rhanddeiliaid i fapio’r tirwedd adnoddau presennol ac i ganfod y prif gyfleoedd a’r prif heriau. Drwy’r trafodaethau hyn, rydyn ni wedi canfod cyfleoedd i wneud gwaith comisiynu cynnar er mwyn profi modelau a systemau gweithio. Bydd y broses dreialu hon yn ein helpu i greu ein rhaglenni comisiynu yn y tymor hwy.
A ninnau’n sefydliad darbodus a hyblyg, cyflenwyr allanol fydd yn gyfrifol am rai o’n swyddogaethau corfforaethol. Drwy brosesau agored a chystadleuol, rydyn ni wedi trefnu contractau ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys yn y meysydd cyllid, adnoddau dynol, cyfathrebu a marchnata, cyngor cyfreithiol, a chyfieithu. Rydyn ni’n elwa o rannu rhai o’r gwasanaethau hyn â chyrff cyhoeddus eraill, gan gynnwys ein gwasanaeth technoleg gwybodaeth sy’n cael ei ddarparu gan dîm Hwb yn Llywodraeth Cymru. Yn yr un modd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili sy’n rhoi cyngor masnachol a chyngor am gaffael i ni.
Mae’r sector addysg a’r sector adnoddau yn un amlweddog, ac ni fyddwn yn dyblygu’r capasiti a’r arbenigedd sydd eisoes yn bodoli, nac yn ceisio cyflawni’r holl waith ar ein pen ein hunain. Yn hytrach, byddwn yn gweithredu fel sefydliad sy’n galluogi ac yn cydlynu mewn ffordd strategol, gan helpu i ddwyn sefydliadau ynghyd a chadw golwg gyffredinol ar yr adnoddau sydd gennyn ni yng Nghymru.

Rwyf wedi gweld o lygad y ffynnon y cyfleoedd a’r profiadau gwerthfawr y mae plant a phobl ifanc yn eu cael drwy’r cwricwlwm newydd. Drwy wneud adnoddau’n fwy hygyrch, a thrwy sicrhau bod modd eu haddasu’n haws, bydd ein gwaith ni’n lleihau llwyth gwaith athrawon, yn ogystal â helpu i ddod â’r addysgu a’r dysgu’n fyw i blant a phobl ifanc.
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r gwaith rydyn ni wedi’i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf i gnoi cil ac i sefydlu ein cwmni. Mae hyn yn cynnwys diffinio ein hegwyddorion ar gyfer cyflawni a chomisiynu, yn ogystal â phenderfynu ar sut y byddwn yn llunio blaenoriaethau’r dyfodol ac yn pennu ein ffyrdd o weithio. Rydyn ni hefyd wedi canolbwyntio ar sicrhau bod ein gwaith yn adlewyrchu ac yn cefnogi’r saith nod llesiant a’r pum ffordd o weithio a geir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

I gloi’r adroddiad hwn, rydyn ni’n amlinellu’r camau nesaf y bydd Adnodd yn eu cymryd. Ymunwch â ni, felly, ar y daith gyffrous hon wrth i ni gydweithio i hwyluso’r broses o greu adnoddau, a’r rheini’n hybu cydraddoldeb, yn meithrin arloesi, ac yn cyfoethogi profiadau dysgu yn y byd addysg ledled Cymru.
3. Cipolwg yn ôl ar ein blwyddyn gyntaf: Y cynnydd o dan y blaenoriaethau strategol

A ninnau’n un o gyrff hyd braich Llywodraeth Cymru, mae Adnodd yn gwbl atebol i Weinidogion Cymru fel is-gwmni o dan berchnogaeth lwyr sy’n gyfyngedig gan warant. Cafodd Adnodd lythyr cylch gwaith ffurfiol gan gyn-Weinidog y Gymraeg ac Addysg, a hwnnw’n pennu’r blaenoriaethau ar gyfer cyflawni amcanion y cwmni.
Dyma nod Llywodraeth Cymru, yn ôl cenhadaeth ein cenedl ar gyfer addysg:
Yng Nghymru, addysg yw cenhadaeth ein cenedl. Gyda’n gilydd, byddwn yn cyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb, gan fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad ac uchelgais. Cefnogir pob dysgwr, beth bynnag fo’i gefndir, i fod yn ddinesydd iach, sy’n ymgysylltu, sy’n fentrus ac sy’n foesegol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a Gwaith.
Llywodraeth Cymru
Mae’r llythyr cylch gwaith yn gosod y blaenoriaethau strategol ar gyfer eu cyflawni gan Adnodd yn ystod tymor presennol Llywodraeth Cymru rhwng 2023 a 2026. Yn yr adroddiad hwn, rydyn ni’n dangos y cynnydd a wnaed o dan y blaenoriaethau yn 2023-24, sef ein blwyddyn weithredol gyntaf.
1. Datblygu amcanion corfforaethol Adnodd
Fis Ebrill 2023, penodwyd Owain Gethin Davies, pennaeth Ysgol Uwchradd Dyffryn Conwy, yn Gadeirydd dros dro ar Adnodd. Fe’i cadarnhawyd yn ffurfiol yn Gadeirydd ym mis Chwefror 2024. Penodwyd pum aelod anweithredol o’r Bwrdd hefyd: Huw Lloyd Jones, Nicola Wood, Sioned Wyn Roberts, Dr Lucy Thomas a Lesley Bush. Penodwyd dau aelod o staff ar secondiad o Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun busnes cychwynnol ac i helpu i sefydlu’r cwmni newydd yn weithredol.

Gan ddechrau ym mis Gorffennaf 2023, cynhaliwyd proses recriwtio ar gyfer Prif Weithredwr. Yn dilyn penodiad Emyr George ym mis Ionawr 2024, datblygwyd strwythur staffio gan gwblhau ein rownd recriwtio gyntaf ym mis Mehefin 2024.
Drwy broses chystadleuol, trefnwyd cyflenwyr allanol ar gyfer ein gwasanaethau corfforaethol, gan gynnwys yn y meysydd cyllid, cyfathrebu a marchnata, cyngor cyfreithiol, cyfieithu ac adnoddau dynol. At hynny, sefydlwyd systemau mewnol hollbwysig ar gyfer llywodraethu corfforaethol a materion gweithredol, gyda’r nod o helpu gyda’r prosesau recriwtio a gwneud rhywfaint o waith comisiynu cychwynnol.
2. Sicrhau bod adnoddau perthnasol, amserol a deunyddiau ategol ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ar yr un pryd, i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru a’i gymwysterau
Drwy gydol 2023-24, aethon ni ati i gynnal sgyrsiau cychwynnol â phartneriaid a chyflenwyr ynghylch y prif flaenoriaethau ar gyfer comisiynu, ac ynghylch natur bosibl y rowndiau comisiynu a fyddai’n cael eu cynnal. Ochr yn ochr â’r broses ymgynghori hon, sefydlwyd systemau corfforaethol hollbwysig, gan gynnwys prosesau cydymffurfio a chaffael, er mwyn sicrhau bod gennyn ni fodelau cadarn ar gyfer comisiynu yn y dyfodol.

Er ein bod yn dal i weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i ddatblygu model comisiynu yn y tymor hir, deallwyd bod angen yn y fan a’r lle i barhau i ddarparu a chomisiynu adnoddau yn ystod y cyfnod pontio o Lywodraeth Cymru i Adnodd. Eleni, aethon ni ati i lansio rhaglen gomisiynu gychwynnol, gan roi nifer bychan o gontractau uniongyrchol i gyflenwyr penodol. Dewiswyd y prosiectau hyn gan eu bod yn cyd-fynd yn glir â’r blaenoriaethau a amlygwyd yng ngwaith ymchwil Miller a chan y byddai modd eu cwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol.
Ym mis Awst 2024, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru gyllid ychwanegol i Adnodd i’w ddosbarthu i CBAC. Bydd y cyllid hwn yn helpu i greu adnoddau dysgu ac addysgu ychwanegol er mwyn helpu i gyflwyno’r cymwysterau TGAU newydd. Mae gwaith ar yr adnoddau newydd hyn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd.
3. Darparu fframwaith sicrhau ansawdd ar gyfer comisiynu, datblygu a chynhyrchu adnoddau, gan sicrhau bod adnoddau a ddatblygwyd yn cyd-fynd ag ethos ac egwyddorion craidd Cwricwlwm i Gymru ac yn addas i’r diben
Yn ystod 2023, comisiynwyd Miller Research a Four Cymru gan Adnodd i wneud gwaith ymchwil ansoddol. Y nod oedd deall y sefyllfa bresennol yn well o ran yr adnoddau addysgol sydd ar gael yn Gymraeg, yn Saesneg ac yn ddwyieithog yng Nghymru, a deall beth yw’r anghenion wrth greu adnoddau’r dyfodol i gyd-fynd â’r Cwricwlwm newydd a’r cymwysterau diwygiedig.

Roedd y gwaith ymchwil yn gofyn am farn rhanddeiliaid allweddol ynghylch pa mor addas oedd y prosesau comisiynu a sicrhau ansawdd presennol, a thrafodwyd a oedd angen gwella neu newid pethau. Edrychwyd hefyd ar farn rhanddeiliaid allweddol ynghylch y posibilrwydd o achredu’r holl adnoddau addysgol a gomisiynir gan Adnodd a chyrff perthnasol eraill. Mae crynodeb o ganfyddiadau’r gwaith ymchwil i’w weld fan hyn.
Adnodd hefyd fydd yn gyfrifol am ddiweddaru’r Canllaw Adnoddau a Deunyddiau Ategol a gyhoeddwyd ar wefan Hwb Llywodraeth Cymru. Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo ac mae disgwyl iddo gael ei ddatblygu ymhellach yn 2024-25 wrth i ni greu modelau comisiynu newydd.
4. Datblygu’r hyrwyddo, yr ymwybyddiaeth a’r defnydd effeithiol o adnoddau
Ym mis Medi 2024, lansiodd Adnodd wefan newydd. Bydd hon yn ffenestr siop bwysig i’n gwaith, ac yn ffordd o gyfeirio ymwelwyr at y cyfleoedd a’r adnoddau sydd ar gael ar Hwb. Mae’r wefan yn annog unigolion a rhanddeiliaid i rannu eu manylion cyswllt er mwyn dod yn rhan o gymuned Adnodd. Mae gennyn ni hefyd gyfrifon perthnasol ar y cyfryngau cymdeithasol – ar Facebook, LinkedIn, ac Instagram – er mwyn ein helpu i ymwneud â phobl a rhannu newyddion a gwybodaeth am wahanol gyfleoedd.
Rydyn ni’n gweithio gyda’r asiantaeth greadigol Blue Stag, sydd wedi datblygu strategaeth farchnata, manylion am y gynulleidfa, a dadansoddiad o randdeiliaid i’n helpu i dargedu ein negeseuon ac ymestyn ein cyrhaeddiad.

4. Gyda phwy rydyn ni’n gweithio

Un o brif amcanion sefydlu Adnodd fel corff hyd braich yw creu fframwaith ar gyfer gwell cydweithio rhwng amrywiaeth eang o sectorau, gan fanteisio ar brofiad a gwybodaeth amrywiol i gael yr effaith fwyaf un.
A ninnau’n sefydliad bychan a strategol, ni fyddwn yn gallu cyflawni ein holl uchelgeisiau ar ein pen ein hunain. Yn hytrach, byddwn yn gwneud popeth mewn partneriaeth â phobl eraill. O’r cyflenwyr a gaiff eu comisiynu i greu adnoddau cyffrous a safonol, i sefydliadau cenedlaethol mawr sydd â’r arbenigedd a’r cyrhaeddiad i’n helpu i gyflawni ein hamcanion, bydd Adnodd yn cydweithio ag amrywiaeth eang o gwmnïau a sefydliadau.
Yn bwysicach na dim, mae ein holl bwyslais ar y bobl sydd ar lawr gwlad yn ein hysgolion ac yn y sector addysg. Bydd popeth a wnawn yn cael ei lywio gan anghenion athrawon, ymarferwyr, dysgwyr, eu teuluoedd a chymunedau. Bydd ein gwaith yn cael ei ddatblygu ar y cyd â nhw, a hynny drwy broses barhaus o wrando, dysgu ac addasu.
Dyma rai o’r bobl a’r sefydliadau yn y sector rydyn ni’n gweithio gyda nhw:
Athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol: Byddwn yn gweithio’n agos gydag undebau’r athrawon a sefydliadau cynrychioladol, ochr yn ochr â rhwydweithiau a grwpiau athrawon ac addysg arbenigol fel CYDAG (Cymdeithas Ysgolion Dros Addysg Gymraeg) a Chymdeithas Ddysgedig Cymru. Partner o bwys ar gyfer datblygu adnoddau newydd fydd Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth. Dyma bartner sy’n dwyn ynghyd dîm amrywiol o ddarparwyr sydd â phrofiad bywyd a phrofiad proffesiynol o godi ymwybyddiaeth hiliol amlddisgyblaethol yn y Cwricwlwm i Gymru.
Dysgwyr a’u teuluoedd a’u cymunedau: Dyma’r grŵp pwysicaf o bobl y byddwn yn gweithio gyda nhw. Plant a phobl ifanc fydd yn elwa fwyaf o’n gwaith. Nhw yw cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru. Gweledigaeth y Cwricwlwm i Gymru yw helpu i greu dysgwyr uchelgeisiol a galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu bywydau; cyfranwyr mentrus a chreadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith; dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r byd; ac unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas. Bydd ein gwaith yn hwb i gyflawni’r amcanion hyn.

CBAC yw corff dyfarnu mwyaf Cymru, a hwnnw’n rhoi cymwysterau dwyieithog y gellir ymddiried ynddyn nhw, cymorth arbenigol agored, a gwasanaeth asesu dibynadwy i ysgolion a cholegau ledled y wlad. Ers 2023, mae CBAC wedi bod yn datblygu cyfres newydd o gymwysterau TGAU sy’n benodol ar gyfer Cymru, a bydd y rheini’n rhan o’r Cymwysterau Cenedlaethol newydd a gynigir i bobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed.

Cymwysterau Cymru yw’r corff annibynnol sy’n rheoleiddio cymwysterau nad ydyn nhw ar lefel gradd yng Nghymru. A hwnnw’n gorff annibynnol ar y llywodraeth, ac yn atebol i bobl Cymru drwy Senedd Cymru, ei nod yw sicrhau bod y cymwysterau a gaiff eu hennill gan ddysgwyr yng Nghymru yn deg, yn ddibynadwy, ac yn cael eu gwerthfawrogi drwy’r Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Drwy ei waith diwygio, mae Cymwysterau Cymru hefyd yn dylanwadu ar sut y bydd cymwysterau yn ateb anghenion dysgwyr yn y dyfodol.
Sefydliadau cenedlaethol: Bydd Adnodd yn gweithio’n greadigol ac yn strategol gyda nifer o sefydliadau cenedlaethol yng Nghymru. Yn eu plith mae darlledwyr fel BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales ac S4C, a chyrff yn y maes diwylliant a threftadaeth fel Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Ein nod yw cydweithio ochr yn ochr â strategaethau a phrosesau comisiynu i gryfhau ein gwaith ar y cyd ac i gyflawni mwy dros bobl Cymru.
Bydd hi’n hanfodol gweithio gyda phartneriaid yn y trydydd sector a chyrff strategol eraill er mwyn manteisio ar arbenigedd werthfawr mewn meysydd pwysig. Yn eu plith mae byd natur a’r newid yn yr hinsawdd, llythrennedd, iechyd a lles, cydraddoldeb a hawliau dynol.
Prifysgolion a cholegau: Mae’n hollbwysig gweithio’n agos ac yn strategol gyda’r sector addysg uwch yng Nghymru. Yn eu plith mae cyrff strategol ac ymbarél fel y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r corff newydd Medr, yn ogystal â Colegau Cymru a phrifysgolion Cymru.

Hwb: Bydd yr holl adnoddau digidol a gomisiynir gan Adnodd ar gael drwy Hwb, platfform dysgu digidol Llywodraeth Cymru. Rydyn ni’n cydweithio â thîm Hwb i wella profiadau dysgwyr ac i symleiddio’r modd y bydd pobl yn defnyddio ein hadnoddau. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar wefan Hwb, gyda’r datblygiadau a’r gwelliannau’n canolbwyntio ar wella’r profiad i ddefnyddwyr. Y nod yw ei gwneud hi’n haws i bobl ddefnyddio a chael gafael ar adnoddau gwerthfawr.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: Un o ddibenion Adnodd yw cyfoethogi profiadau dysgu plant a phobl ifanc, a bydd hynny’n hwb i weledigaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sef bod yn llais i genedlaethau’r dyfodol, gweithredu heddiw er mwyn creu gwell yfory, a gwarchod buddiannau’r bobl hynny sydd heb gael eu geni eto.

Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: Mae Adnodd wedi ymrwymo i fod yn sefydliad sy’n mynd ati’n weithgar i fod yn wrth-hiliol, a bydd yn rhoi hyfforddiant a chyfleoedd dysgu i’r staff ac i holl aelodau’r Bwrdd yn hynny o beth. Rydyn ni’n credu’n gryf bod y sector addysg yn gwneud cyfraniad hollbwysig at gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru wrth-hiliol. Rydyn ni’n cydnabod effaith hiliaeth ar gydweithwyr yn y sector addysg ac ar blant a phobl ifanc wrth iddyn nhw ddysgu. Byddwn yn cydweithio’n agos â chydweithwyr sy’n rhan o’r prosiect Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth, sy’n darparu adnoddau pwysig i athrawon ac arweinwyr ysgolion. Fel rhan o’n cynlluniau gweithredol, bydd Adnodd yn blaenoriaethu’r gwaith o gomisiynu a datblygu adnoddau sy’n hybu addysgu a dysgu ym maes hanes a phrofiadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Cymraeg 2050: Mae Adnodd yn cefnogi’r uchelgais i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac mae’n credu bod addysgu’n ganolog i’r weledigaeth hon. Ein nod yw cefnogi ymarferwyr, dysgwyr a’u teuluoedd drwy gydol eu profiadau addysgol drwy gomisiynu adnoddau dwyieithog o’r radd flaenaf. Bydd hyn yn galluogi pobl ifanc i adael y system addysg yn barod i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob cyd-destun, ac yn falch o wneud hynny.
5. Ein hegwyddorion a’n hymrwymiadau

Egwyddorion comisiynu Adnodd
A ninnau’n parhau i ddatblygu strwythur a strategaeth hirdymor, rydyn ni wedi creu cyfres gychwynnol o egwyddorion i lywio ein dull o gomisiynu adnoddau yn y cam cyntaf. Byddwn yn adolygu’r egwyddorion hyn gan weithio’n agos gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid, ac hefyd wrth i ni brofi ein dulliau a’n modelau comisiynu newydd.

Bod yn ymatebol ac yn hyblyg:
Bydd adnoddau’n cael eu comisiynu i adlewyrchu anghenion athrawon, ymarferwyr a dysgwyr, a byddan nhw’n ddigon hyblyg i ateb eu hanghenion ar lefel leol a chenedlaethol.

Hybu arloesi a’r sector creadigol:
Byddwn yn chwilio am gyflenwyr sy’n greadigol, sy’n barod i gydweithio, ac sy’n flaengar wrth edrych am bosibiliadau newydd.

Sefydliad sy’n galluogi’n strategol:
Byddwn yn sicrhau bod cyflenwyr newydd a bach yn gallu mynd ati’n rhwydd i ddatgan eu diddordeb mewn cyfleoedd i ddatblygu deunyddiau cynhwysol a hygyrch.

Meithrin a datblygu capasiti:
Byddwn yn hyrwyddo prosesau comisiynu a chyllido ar y cyd, er mwyn annog mwy o gydweithio drwy’r sector cyhoeddus yng Nghymru, a hynny’n cyd-fynd â’r pum ffordd o weithio a geir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Ein hymrwymiadau

Gwrando a dysgu
Yn ystod y misoedd nesaf, byddwn yn ymwneud â’n partneriaid a’n rhanddeiliad drwy’r sector i ddeall yr anghenion a’r blaenoriaethau, ac i ganfod ble mae’r bylchau. Bydd y sgyrsiau hyn yn sail i’n cynllun strategol cyntaf, a hwnnw’n amlinellu beth y byddwn yn ei wneud, sut, a pha bryd.
O’r dechrau’n deg, byddwn yn sefydliad sy’n gwrando ac yn dysgu, a byddwn yn ymateb yn uniongyrchol i’r hyn a glywn. Bydd ein holl benderfyniadau wedi’u seilio ar dystiolaeth ac adborth.

Byddwn wastad yn ceisio gweithio mewn ffordd dryloyw. Bydd ein rowndiau comisiynu yn agored i geisiadau, gyda’r penderfyniadau’n cael eu seilio ar feini prawf clir a amlinellir ar y dechrau, er mwyn i ni fod yn deg â phawb.
Bydd ein holl raglenni yn cael eu gwerthuso’n llawn er mwyn i ni allu dysgu beth sydd wedi gweithio a beth sydd ddim wedi gweithio. Byddwn yn sicrhau bod ein rhaglenni’n addasu ac yn esblygu ar sail yr adborth a gawn gan amrywiaeth eang o randdeiliaid.
Cydraddoldeb a chynhwysiant
Ar hyn o bryd, rydyn ni’n gwybod nad yw pob math o adnoddau, gan gynnwys testunau, llyfrau, ffilmiau, gemau ac apiau, yn cynrychioli’n llwyr amrywiaeth y profiadau bywyd a geir yng Nghymru. Pan na fydd plant a phobl ifanc yn gweld adlewyrchiad o’u hunain yn yr adnoddau sydd o’u cwmpas, bydd hynny’n effeithio ar eu profiadau addysgol ac ar eu potensial i ddatblygu.

Drwy ein rhaglenni cyflawni, bydd Adnodd yn blaenoriaethu’r angen i fynd i’r afael â hyn ac yn sicrhau bod adnoddau’r dyfodol yn gwbl gynrychioladol. O ran cynnwys adnoddau, a’r gallu i weld adnoddau, rydyn ni’n cydnabod bod angen gweithredu’n gadarn i sicrhau cydraddoldeb, yn ogystal ag i fynd i’r afael â bylchau mewn darpariaeth a chynrychiolaeth.
Rydyn ni’n bwriadu gweithio gyda sefydliadau ac unigolion sy’n arbenigo yn y maes er mwyn comisiynu gwaith ymchwil newydd a fydd yn edrych ar amrywiaeth presennol yr adnoddau sydd ar gael, gan fynd ati i gyd-greu dull strategol o gomisiynu. Byddwn yn defnyddio gwaith pwysig a gwaith sydd wedi newid pethau yn y sector i lywio ein datblygiad strategol. Yn eu plith, mae adroddiad yr Athro Charlotte Williams, Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd, a Reflecting Realities – Survey of Ethnic Representation within UK Children’s Literature by the Centre for Literacy in Primary Education.
Cynaliadwyedd a gwydnwch:
Bydd holl elfennau’r gwaith comisiynu a’r broses o gyflawni yn ystyried risgiau’r newid yn yr hinsawdd. Gan edrych ar bethau o safbwynt tymor hir, wrth greu cynnwys newydd, bydd angen cadw golwg ar arloesi a datblygiadau mewn technoleg ddigidol er mwyn sicrhau bod adnoddau’n berthnasol dros gyfnod o amser.
6. Edrych yn ein blaenau

Mae Adnodd wedi gwneud cryn gynnydd yn ystod 2023-24 ac wedi sefydlu’i hun fel corff hyd braich hyblyg a strategol. Wrth gymryd y cam nesaf hwn ar ein taith, byddwn yn dechrau’r broses o gyrraedd mwy o bobl a phrofi ffyrdd newydd o gomisiynu a chydweithio.
Mae adnoddau’n rhan hollbwysig o’r profiad addysgol. Maen nhw’n cael eu defnyddio gan athrawon a dysgwyr i ddeall, i ddylunio, i ddatblygu ac i symud gam wrth gam drwy’r cwricwlwm. Bydd adnoddau safonol yn ennyn chwilfrydedd mewn pob math o bynciau. A’r rheini’n addas i bobl o bob oed, maen nhw i’w cael mewn pob math o ffurfiau, gan gynnwys llyfrau, ffilmiau byrion, comics, canllawiau, apiau, animeiddiadau, realiti rhithwir, a gemau. Maen nhw hefyd yn cael eu defnyddio’n sbardun ar gyfer creadigrwydd, dysgu a dychymyg.
Byddwn yn comisiynu adnoddau yn unol â blaenoriaethau ac anghenion y rheini sy’n rhan o’r sector, o athrawon ac ymarferwyr i ddysgwyr, eu teuluoedd a’u cymunedau. Rydyn ni’n awyddus i’r adnoddau hyn fod yn ddwyieithog ac o’r radd flaenaf. Byddan nhw’n berthnasol i’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd modd eu haddasu, a byddan nhw’n hygyrch.

Bydd yr amserlen ar gyfer y rowndiau comisiynu yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach yn 2024-25. Bydd cyfle i gwmnïau a sefydliadau sydd â diddordeb mewn creu adnoddau ymateb i’r alwad am geisiadau. Os yw sefydliadau eisiau bod yn rhan o’r gwaith, neu os oes ganddyn nhw ddiddordeb mewn cael mwy o wybodaeth, mae modd iddyn nhw gofrestru ar ein gwefan i fod yn rhan o’n cymuned. I brofi ein modelau cychwynnol, byddwn yn cynnal rowndiau comisiynu interim yn yr hydref. Bydd llawer o’r rhain ar ffurf dyfarniadau uniongyrchol i gyflenwyr oherwydd anghenion penodol. At hynny, byddwn yn cynnal cystadleuaeth agored, law yn llaw â chyhoeddi canllaw tryloyw am y ceisiadau am gynigion.
Byddwn hefyd yn gwneud gwaith ymchwil i ganfod pa adnoddau perthnasol sydd eisoes ar gael a sut y mae pobl yn cael gafael arnyn nhw neu yn eu defnyddio. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall beth sydd eisoes yn effeithiol, beth y byddai modd ei addasu neu’i ddiweddaru, a pha adnoddau newydd y mae angen eu comisiynu er mwyn ymateb i’r blaenoriaethau y byddwn ni’n canolbwyntio arnyn nhw yn ystod ein blwyddyn gyntaf.
Oherwydd y sgyrsiau rydyn ni’n parhau i’w cael, rydyn ni hefyd yn gwybod nad yw dod o hyd i adnoddau a’u defnyddio wastad yn rhwydd. Un o’n tasgau cyntaf fydd sicrhau gwell ffyrdd o gyfeirio pobl at yr adnoddau sydd ar gael a gwell ffyrdd o gyfathrebu amdanyn nhw, a hynny mor eang â phosibl.
Byddwn hefyd yn dechrau “sgwrs fawr” â chynifer o bobl â phosibl yn y sector er mwyn canfod yr anghenion a’r bylchau. Byddwn yn rhannu cynllun strategol drafft gyda rhanddeiliaid a phartneriaid er mwyn sicrhau bod gwaith Adnodd yn cyd-fynd yn llwyr â’n huchelgeisiau torfol fel cenedl, ac yn helpu i wireddu dyheadau cenedlaethau’r dyfodol.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu adnoddau addysgol, dwyieithog o’r radd flaenaf sy’n cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru, sy’n hyrwyddo ac yn meithrin cydraddoldeb ac arloesi, ac a fydd yn cyfoethogi profiadau dysgu pawb. Y nod fydd gweithio’n greadigol ac ar y cyd ag athrawon, dysgwyr, eu teuluoedd a chymunedau. Drwy wneud hynny, byddwn yn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl wrth i’r Cwricwlwm i Gymru gynnig profiadau anhygoel i’n plant a’n pobl ifanc.
