Neidio i'r prif gynnwy
English

Strategaeth Adnodd 2025-28

Ein strategaeth

Strategaeth Adnodd 2025-28

Dewch i ddysgu mwy am ein strategaeth

Gwyliwch y fideo hwn ar YouTube

Hyd fideo: 1:42

Rhagair

Photograph of a person holding a tablet displaying the cover of the “Adnodd Strategy 2025–28” document. The screen shows a colourful design with a woman’s face, symbols of learning, stars and constellations, and the Adnodd logo. The text reads: “Strategaeth Adnodd 2025–28 – Cefnogi ac Ysbrydoli Dysgu”. Llun o berson yn dal llechen yn dangos clawr dogfen “Strategaeth Adnodd 2025–28”. Mae’r sgrin yn dangos dyluniad lliwgar gyda wyneb menyw, symbolau dysgu, sêr a chytserau, a logo Adnodd. Mae’r testun yn darllen: “Strategaeth Adnodd 2025–28 – Cefnogi ac Ysbrydoli Dysgu”.

Braint yw cyflwyno Strategaeth gyntaf Adnodd. Yma, rydyn ni’n gosod ein huchelgais hirdymor ar gyfer creu, datblygu a rhannu adnoddau addysgol dwyieithog a fydd yn ysbrydoli dysgu ac addysgu’r Cwricwlwm i Gymru.

Wrth lunio’r Strategaeth hon, rydyn ni wedi gwrando a thrafod â nifer o ymarferwyr, dysgwyr, rhanddeiliaid a phartneriaid, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn am eu hadborth a’u cyngor. Rydyn ni’n ymwybodol taw dechrau’r daith yw hon, a byddwn yn parhau i wrando er mwyn ymateb yn gadarnhaol i anghenion y sector.

Trwy ein trafodaethau a’n gwaith ymchwil, rydyn ni wedi dod i ddeall beth yw’r prif heriau gyda’r adnoddau sy’n cael eu darparu ar hyn o bryd, a bydd ein Strategaeth yn ceisio mynd i’r afael â’r rhain. Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol ddylunio a gweithredu ei chwricwlwm a’i threfniadau asesu ei hun. Mae hyn wedi arwain at ansicrwydd ynghylch y diffiniad o adnoddau addysgol a’u pwrpas, tra bo pwysau gwaith yn golygu nad oes gan ymarferwyr amser i ddod o hyd i ddeunyddiau addas a’u haddasu.

Mae pryderon am brinder adnoddau perthnasol i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru, gyda bylchau a diffygion amlwg. Mae tystiolaeth yn dangos bod angen mynd i’r afael ar frys â’r diffyg adnoddau Cymraeg, yn enwedig y rhai sy’n cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Trwy lens ein meysydd ffocws – llythrennedd, tegwch a gwrth-hiliaeth, a llesiant – byddwn yn gallu ymateb yn greadigol ac yn gydlynol i anghenion y Cwricwlwm i Gymru. Bydd yr holl adnoddau y byddwn yn eu comisiynu i gefnogi meysydd dysgu a sgiliau trawsgwricwlaidd, gan gynnwys rhifedd a chymhwysedd digidol, yn cael effaith gadarnhaol ar un neu fwy o’r meysydd ffocws hyn.

Oherwydd diffyg cysondeb o ran gwerthuso ac adolygu’r hyn sydd ar gael yn barod, mae prinder tystiolaeth am yr hyn sy’n gweithio orau. Mae costau cynyddol cynhyrchu adnoddau yn amlygu’r angen i wneud gwell defnydd o’r hyn sydd ar gael eisoes. Byddwn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol trwy wreiddio’r elfen werthuso ym mhob comisiwn o hyn ymlaen. Byddwn yn sicrhau bod y ddarpariaeth bresennol yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru, a bod yr adnoddau y byddwn yn eu rhannu a’u hyrwyddo hefyd yn cael eu hadolygu a’u diweddaru’n rheolaidd.

Bydd ein pwyslais ar brofiadau defnyddwyr yn golygu bod creu, darganfod ac addasu adnoddau yn broses mwy llyfn a greddfol. Wrth weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, byddwn yn gwella’r casgliad cenedlaethol ar Hwb er mwyn ei gwneud yn haws creu, defnyddio a rhannu adnoddau. Gyda’n gilydd, byddwn yn gweithio tuag at greu casgliad cydlynol o adnoddau hygyrch a pherthnasol, a’r rheini’n tanio’r dychymyg.

Trwy fod yn ymatebol, yn gydweithredol, yn gynhwysol ac yn greadigol, byddwn yn mynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu’r sector addysg. Mae’r Strategaeth hon yn ein tywys ar ein taith dros y tair blynedd nesaf i gefnogi ac ysbrydoli dysgu, ac i wireddu dyheadau pellgyrhaeddol y Cwricwlwm i Gymru.

Owain Gethin Davies (Cadeirydd) ac Emyr George (Prif Weithredwr)

Photographs of Owain Gethin Davies (Chair) and Emyr George (Chief Executive). Ffotograffau o Owain Gethin Davies (Cadeirydd) ac Emyr George (Prif Weithredwr).

Ymunwch â ni ar ein taith i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru ac ysbrydoli cariad gydol oes at ddysgu.

Photography of the Adnodd Team. Ffotograffiaeth o Dîm Adnodd

Gweledigaeth a chenhadaeth

A vibrant illustration of two people using binoculars and a telescope to explore a colourful, star-filled universe with constellations, swirling patterns, and abstract cosmic imagery, symbolising vision, curiosity, and discovery. Darlun bywiog o ddau berson yn defnyddio ysbienddrych a thelesgop i archwilio bydysawd lliwgar, llawn sêr gyda chytserau, patrymau troellog, a delweddaeth gosmig haniaethol, yn symboleiddio gweledigaeth, chwilfrydedd a darganfyddiad.

Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw bod gan ein holl ymarferwyr a dysgwyr, beth bynnag fo’u cefndir, yr hawl i gael adnoddau addysgol o ansawdd da a fydd yn tanio’u dychymyg, yn hybu eu lles, ac yn ysgogi cariad gydol oes at ddysgu.

Ein Cenhadaeth ​

Rydyn ni’n arwain ac yn cydlynu’r gwaith o ddarparu adnoddau addysgol yn Gymraeg ac yn Saesneg i ysbrydoli dysgu ac addysgu’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd hyn yn helpu plant a phobl ifanc i fod yn ddinasyddion iach, mentrus, moesegol a chwilfrydig, ac yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd, gwaith ac yn eu cymunedau.

Ein Gwerthoedd

Image of Adnodd team members Lleucu and Emyr. Llun o aelodau tîm Adnodd Lleucu ac Emyr
Illustration of a girl in a red dress talking to a boy in a mirror holding a book with light bulb image against starry purple background. Darlun o ferch mewn ffrog goch yn siarad â bachgen mewn drych yn dal llyfr gyda delwedd bylbiau golau yn erbyn cefndir porffor serennog.

Ymatebol

Rydyn ni’n barod i ddysgu a chnoi cil am yr hyn y mae’r sector yn ei ddweud wrthyn ni, a bydd yr anghenion hyn yn rhoi cyfeiriad i’n gwaith. Rydyn ni’n cynnwys dysgwyr ac ymarferwyr yn ein penderfyniadau a bydd eu profiadau nhw wrth wraidd yr adnoddau y byddwn yn eu comisiynu.

Mae dau blentyn cartŵn yn darllen llyfrau gefn wrth gefn, wedi'u hamgylchynu gan symbol anfeidredd serennog gyda phatrymau cosmig. Mae dau blentyn cartŵn yn darllen llyfrau gefn wrth gefn, wedi'u cynnal gan symbol anfeidredd serennog gyda phatrymau cosmig.

Cydweithredol

Rydyn ni’n meithrin ymdeimlad o gymuned ac undod yn fewnol yn ein sefydliad ac ymhlith pawb rydyn ni’n gweithio gyda nhw. Rydyn ni’n datblygu partneriaethau hirdymor a chydlynus trwy archwilio a chydweithio.

Two cartoon children read books back-to-back, encircled by a starry infinity symbol with cosmic patterns. Mae dau blentyn cartŵn yn darllen llyfrau gefn wrth gefn, wedi'u hamgylchynu gan symbol anfeidredd serennog gyda phatrymau cosmig.

Cynhwysol

Mae parchu a gofalu am ein gilydd, ac am bawb o’n cwmpas, yn ganolog i bopeth rydyn ni’n ei wneud. Rydyn ni’n blaenoriaethu mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a chael gwared ar rwystrau i ddysgu, fel bod gan ein holl ddysgwyr, waeth beth fo’u cefndir, yr hawl i brofiad addysgol cadarnhaol a diogel.

Child in orange shirt looks through telescope in hot air balloon shaped like a light bulb, filled with stars. Plentyn mewn crys oren yn edrych trwy delesgop mewn balŵn aer poeth siâp bylbyn golau, yn llawn sêr.

Creadigol

Rydyn ni’n dathlu arloesedd, yn croesawu syniadau newydd, ac yn annog dulliau gwahanol o wneud pethau. Rydyn ni’n agored i dechnoleg ac yn arbrofi gyda ffurfiau newydd ar adnoddau, tra’n dysgu’n barhaus o’n profiadau. Rydyn ni’n datblygu ac yn rhannu adnoddau sy’n fywiog, yn hwyliog, ac yn ysbrydoli dysgu.

Yr Hyn a Wnawn

A man wearing a virtual reality headset and holding controllers is using VR in a room, while a woman stands nearby watching him. Mae dyn sy'n gwisgo clustffon realiti rhithwir ac yn dal rheolyddion yn defnyddio realiti rhithwir mewn ystafell, tra bod menyw yn sefyll gerllaw yn ei wylio.
Illustration of a hiker with a rucksack trekking up a mountain path between tall trees, with a snow-capped peak in the background. Darlun o gerddwr gyda sach gefn yn cerdded i fyny llwybr mynydd rhwng coed tal, gyda chopa wedi'i orchuddio ag eira yn y cefndir.

Archwilio

Rydyn ni’n cadw golwg ar dueddiadau’r dyfodol ac yn sicrhau ein bod wastad yn meddwl yn hirdymor trwy waith ymchwil a thrwy ymwneud â phobl. Mae hyn yn ein galluogi i fapio’r adnoddau presennol, adnabod bylchau, deall yr heriau, a darganfod dulliau newydd o gyflawni. Rydyn ni’n cynnwys pobl eraill wrth ganfod gwybodaeth ac yn ystyried anghenion a gofynion y sector wrth i’r rheini esblygu. Rydyn ni’n hyblyg ac yn agored i newid, gan ganolbwyntio bob tro ar brofiad y defnyddiwr.

Illustration of a girl with curly hair wearing a purple headband and apron, sculpting a star-shaped clay figure. Darlun o ferch â gwallt cyrliog yn gwisgo band pen porffor a ffedog, yn cerflunio ffigur clai siâp seren.

Llywio a Chydlynu

Rydyn ni’n llywio ac yn cydlynu’r gwaith o ddarparu adnoddau i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru. Rydyn ni’n ymwneud  â phartneriaid allweddol er mwyn creu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer datblygu adnoddau, meithrin cydweithio a hyrwyddo arferion da. Mae hyn yn creu system fwy cynaliadwy ar gyfer creu a chadw adnoddau addysgol.

Illustration of a bearded man in an orange jumper gazing at a purple starry night sky chart with constellation patterns. Darlun o ddyn barfog mewn siwmper oren yn syllu ar siart awyr serennog borffor gyda phatrymau cytserau.

Comisiynu

Rydyn ni’n cynnal rowndiau cystadleuol er mwyn comisiynu adnoddau o ansawdd da. Bydd y rhain yn hygyrch, bydd modd eu haddasu, a byddan nhw’n mynd i’r afael ag anghenion a bylchau a amlygir yn y ddarpariaeth, gan gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru. Bydd yr adnoddau hyn yn cyfoethogi dysgu trawsgwricwlaidd, yn cyd-fynd â chanllawiau polisi, ac yn atgyfnerthu dysgu proffesiynol.

Illustration of a hand holding a blue magnifying glass examining colourful star shapes against a white background. Darlun o law yn dal chwyddwydr glas yn archwilio siapiau sêr lliwgar yn erbyn cefndir gwyn.

Gwerthuso ac Adolygu

Rydyn ni’n adolygu ein prosesau, yr adnoddau y byddwn yn eu comisiynu a sut maen nhw’n cael eu defnyddio. Gan ddefnyddio gwerthuso a thystiolaeth, gallwn ddangos sut mae ein gwaith yn diwallu anghenion dysgwyr ac ymarferwyr. Trwy adolygu a gwella’n barhaus, rydyn ni’n sicrhau bod yr adnoddau sy’n cael eu darparu yn berthnasol, yn gynaliadwy ac yn hygyrch.

Blaenoriaethau cyflawni

Illustration of three children in a magical setting - one girl perched on a tree branch, another reading below, and two children (one in a wheelchair) holding colourful stars against a purple background with star decorations hanging from a stylised tree. Darlun o dri o blant mewn lleoliad hudolus - un ferch yn eistedd ar gangen goeden, un arall yn darllen isod, a dau o blant (un mewn cadair olwyn) yn dal sêr lliwgar yn erbyn cefndir porffor gydag addurniadau sêr yn hongian o goeden steiliedig.

Rydyn ni’n ymrwymo i gefnogi dysgu ac addysgu’r Cwricwlwm i Gymru yn y tymor hir.  Bydd ein gwaith yn dylanwadu ar sut y caiff adnoddau addysgol eu creu a’u defnyddio yn y dyfodol.

Byddwn yn cyflawni’r amcanion a amlinellir yn ein llythyr cylch gwaith tair blynedd a’r cytundeb cyllido blynyddol gan Lywodraeth Cymru:

  • Sicrhau bod adnoddau perthnasol, amserol a deunyddiau ategol ar gael yn Gymraeg a Saesneg, ar yr un pryd, i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.

  • Darparu fframwaith sicrhau ansawdd ar gyfer comisiynu, datblygu a chynhyrchu adnoddau, gan sicrhau bod adnoddau a ddatblygir yn cyd-fynd ag ethos ac egwyddorion craidd y Cwricwlwm i Gymru ac yn addas i’r diben.

  • Gofalu bod adnoddau’n cael eu hyrwyddo a’u defnyddio’n effeithiol, a bod ymwybyddiaeth dda ohonyn nhw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi llythrennedd; rhifedd; crefydd, gwerthoedd a moeseg; ac iechyd a lles fel blaenoriaethau i Adnodd yn 2025-26. Mae hefyd wedi gofyn i ni ddarparu adnoddau penodol i gefnogi hanes Cymru a’r TGAU newydd, ac ymateb i’r dystiolaeth sy’n dangos yr angen i ddatblygu adnoddau Cymraeg i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.

Diverse group of children gathered around an open book filled with colourful stars, with one child in VR goggles reaching upward enthusiastically. Grŵp amrywiol o blant wedi ymgynnull o amgylch llyfr agored yn llawn sêr lliwgar, gydag un plentyn mewn gogls VR yn estyn i fyny yn frwdfrydig.

Byddwn yn cyflawni’r blaenoriaethau hyn trwy’r amcanion canlynol:

Illustration depicting a road with the number 1 in a circle alongside an illustration of a megaphone in a blue circle. Darlun yn darlunio ffordd gyda'r rhif 1 mewn cylch ochr yn ochr â darlun o fegaffon mewn cylch glas.

1. Datblygu platfform mwy hygyrch ar gyfer rhannu adnoddau

Sut y byddwn yn cyflawni: Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wella’r casgliad cenedlaethol o adnoddau dwyieithog trwy Hwb, a’r rheini’n diwallu anghenion a phrofiadau amrywiol ymarferwyr a dysgwyr. Trwy waith ymchwil ac ymgysylltu, byddwn yn dod i ddeall profiad y defnyddiwr, er mwyn i’r broses o chwilio am adnoddau ac addasu adnoddau fod yn haws ac yn fwy greddfol. Byddwn yn hyrwyddo ac yn codi ymwybyddiaeth o’r adnoddau sydd ar gael a sut y gellir eu defnyddio i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.

Darlun yn darlunio ffordd gyda'r rhif 2 mewn cylch ochr yn ochr â darlun o chwyddwydr mewn cylch porffor.

2. Sicrhau bod adnoddau o ansawdd da, eu bod yn berthnasol a’u bod yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru

Sut y byddwn yn cyflawni: Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu fframwaith sicrhau ansawdd gyda meini prawf uchelgeisiol i sicrhau bod yr adnoddau yn addas i gefnogi addysgu’r Cwricwlwm i Gymru. Trwy alwad agored, byddwn yn datblygu rhwydwaith o gymdeithion sy’n cynrychioli ystod amrywiol o brofiadau bywyd a gwybodaeth broffesiynol berthnasol er mwyn helpu i lywio ein penderfyniadau.

Illustration depicting a road with the number 3 in a circle alongside an illustration of a book glass in a purple circle. Darlun yn darlunio ffordd gyda'r rhif 3 mewn cylch ochr yn ochr â darlun o wydr llyfr mewn cylch porffor.

3. Adnabod bylchau mewn darpariaeth a chreu cyfleoedd i ymateb yn greadigol i’r anghenion a welir mewn tystiolaeth

Sut y byddwn yn cyflawni: Byddwn yn defnyddio tystiolaeth ac ymchwil i ddeall y blaenoriaethau. Byddwn yn sefydlu rowndiau comisiynu cystadleuol blynyddol sy’n ymateb i fylchau yn y ddarpariaeth bresennol, gan gynnwys adnoddau Cymraeg ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Byddwn yn treialu rowndiau comisiynu newydd i annog dulliau creadigol a chydweithredol o ddatblygu adnoddau.

Illustration depicting a road with the number 4 in a circle alongside an illustration of a person sitting on an eye with stars around them in a purple circle. Darlun yn darlunio ffordd gyda'r rhif 4 mewn cylch ochr yn ochr â darlun o berson yn eistedd ar lygad gyda sêr o'u cwmpas mewn cylch porffor.

4. Ymwneud yn ehangach â rhanddeiliaid ac atgyfnerthu partneriaethau strategol

Sut y byddwn yn cyflawni: Byddwn yn rhoi mecanweithiau ar waith a fydd yn caniatáu i ymarferwyr a dysgwyr gael llais cryf yn yr hyn a wnawn. Byddwn yn sefydlu partneriaethau strategol ffurfiol gyda sefydliadau cenedlaethol, gan gynnwys y corff dysgu proffesiynol newydd a sefydlir gan Lywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod blaenoriaethau’n cyd-fynd â’i gilydd wrth gefnogi ysgolion.

Illustration depicting a road with the number 5 in a circle alongside an illustration of an award ribbon in a blue circle. Darlun yn darlunio ffordd gyda'r rhif 5 mewn cylch ochr yn ochr â darlun o ruban gwobr mewn cylch glas.

5. Datblygu Adnodd fel sefydliad sy’n cyflawni’n gynaliadwy ac yn effeithiol

Sut y byddwn yn cyflawni: Byddwn yn datblygu systemau mewnol cadarn i sicrhau y gallwn gyflawni’n effeithiol a dangos tystiolaeth o’n heffaith. Mae’r rhain yn cynnwys caffael, llywodraethu, archwilio, cyfathrebu, monitro a gwerthuso. Byddwn yn gwreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein pobl a’n prosesau, a bydd ein dulliau cyflawni yn cyd-fynd â nodau a ffyrdd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Ein meysydd ffocws

Illustration of a young girl with red hair staring through a telescope into the night sky with stars, constellations and shooting stars. Darlun o ferch ifanc â gwallt coch yn syllu trwy delesgop i awyr y nos gyda sêr, cytserau a sêr saethu.

Er mwyn i’n gwaith gael yr effaith fwyaf, rydyn ni wedi penderfynu ar feysydd ffocws allweddol a fydd yn sail i’n holl weithgarwch. 

Bydd y meysydd ffocws yn ein galluogi i ymateb yn gydlynol i anghenion niferus y Cwricwlwm i Gymru. Mae hyn yn golygu y bydd pob adnodd rydyn ni’n ei gomisiynu yn cael effaith gadarnhaol ar un neu fwy o’n meysydd ffocws.

Trwy’r meysydd ffocws hyn, byddwn yn creu cysylltiadau rhwng gwahanol sectorau. Gan ddefnyddio enghreifftiau o arfer da, byddwn yn gwneud y defnydd gorau o’r ddarpariaeth bresennol ac yn hybu potensial adnoddau newydd a’r rhai sy’n bodoli eisoes.

Mae’r meysydd ffocws hyn yn cynrychioli themâu o bwysigrwydd cenedlaethol. Themâu yw’r rhain y mae angen rhoi sylw iddyn nhw ar frys oherwydd bylchau yn y ddarpariaeth, anghydraddoldebau a materion cymdeithasol ehangach sy’n effeithio ar ysgolion a dysgwyr. Dyma’r heriau sy’n wynebu cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Trwy weithredu nawr, gallwn arfogi dysgwyr ac ymarferwyr gyda’r sgiliau a’r hyder i atal problemau pellach rhag ymddangos.

Llythrennedd

Illustration of a young boy reading a tablet with colourful swirls and stars coming out of it. Darlun o fachgen ifanc yn darllen tabled gyda throellau lliwgar a sêr yn dod allan ohoni.

Mae llythrennedd yn sgìl hanfodol ar gyfer addysgu a dysgu ar draws y Cwricwlwm, gan gynnwys cefnogi sgiliau rhifedd a chymhwysedd digidol. Mae sgiliau llythrennedd cryf yn hwb i’n lles ac yn ein galluogi i gyfathrebu, creu cysylltiadau a datblygu yn yr ysgol, yn y gwaith ac yn y gymuned.

Rydyn ni’n clywed pryderon cynyddol gan ymarferwyr am y cwymp yn sgiliau llythrennedd cenhedlaeth o blant a phobl ifanc, a hynny’n cael ei achosi’n bennaf gan effeithiau’r pandemig, newidiadau yn y defnydd o dechnoleg, a thlodi.

Byddwn yn chwilio am gyfleoedd i ddatblygu ystod eang o adnoddau i gefnogi llythrennedd ar bob lefel a byddwn yn agored i arloesedd a syniadau newydd. Byddwn yn manteisio ar bob cyfle i sicrhau bod adnoddau’n cefnogi dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd.

Trwy ein gwaith byddwn yn hyrwyddo pwysigrwydd llythrennedd da i blant a phobl ifanc mewn ffordd sy’n gydnaws, yn gynhwysol ac yn ysbrydoledig.

Tegwch a Gwrth-hiliaeth

Illustration of diverse young children playing and holding hands in a circle. Darlun o blant ifanc amrywiol yn chwarae ac yn dal dwylo mewn cylch.

Rydyn ni’n frwd dros greu Cymru decach ac mae ein gwaith yn cyfrannu’n gadarnhaol tuag at y nodau llesiant cenedlaethol.

Mae hyrwyddo tegwch a gwrth-hiliaeth yn sylfaenol i bopeth a wnawn. Bydd yr adnoddau y byddwn yn eu comisiynu yn ein helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a rhwystrau dysgu, fel y gall pob dysgwr gael profiad addysgol teg a chadarnhaol. Byddwn yn dechrau mynd i’r afael â’r annhegwch sy’n bodoli o ran yr adnoddau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael, o’u cymharu â rhai Saesneg, gan gynnwys ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.

Byddwn yn gweithio tuag at ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Mae addysg yn hollbwysig i wireddu’r uchelgais hon, gan ei bod yn grymuso plant a phobl ifanc i ddeall a mynd i’r afael â hiliaeth, ynghyd â chyfoethogi eu profiadau trwy ymwneud ag amrywiaeth o leisiau, barn a chyfraniadau. Mae Cymru ar flaen y gad yn y Deyrnas Unedig wrth wneud addysg am hanes a phrofiadau pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae gwreiddio amrywiaeth, cynhwysiant a gwrth-hiliaeth ym mhob maes yn y Cwricwlwm i Gymru yn hanfodol ar gyfer datblygu ymdeimlad o Gynefin i ddysgwyr.

I wneud hyn, byddwn yn gweithio’n agos gyda phartneriaid ar draws y sector addysg a thu hwnt i adolygu ac ymateb i dystiolaeth ynghylch tegwch a gwrth-hiliaeth. Elfen hanfodol fydd sicrhau bod adnoddau addysgol a dysgu proffesiynol yn mynd law yn llaw â’i gilydd. Bydd hyn yn arfogi ymarferwyr gyda’r hyder, y sgiliau a’r dulliau i sicrhau bod tegwch a gwrth-hiliaeth yn rhan annatod o’r profiad dysgu ac addysgu.

Llesiant

Image of a young man meditating with his eyes shut circled by clouds, stars and shooting stars. Delwedd o ddyn ifanc yn myfyrio gyda'i lygaid ar gau wedi'i amgylchynu gan gymylau, sêr a sêr saethu.

Llesiant ac iechyd meddwl da yw sylfaen addysg. Maen nhw’n hanfodol er mwyn creu amgylchedd diogel a chadarnhaol, lle mae gan bob plentyn a pherson ifanc gyfle i flaguro.

Mae’r Cwricwlwm i Gymru yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Byddwn yn gweithio ar y cyd â phartneriaid i ddatblygu adnoddau i gefnogi hyn.

Bydd yr adnoddau y byddwn yn eu comisiynu yn cefnogi ymarferwyr i gyflwyno dull ysgol gyfan o weithio yn y maes llesiant. Byddan nhw hefyd yn annog dysgwyr i ganolbwyntio ar eu lles emosiynol a chorfforol, yn ogystal â’u helpu i ddeall eu hawliau, datblygu empathi a meithrin perthnasoedd cryf.

Bydd yr adnoddau yn helpu dysgwyr i ddod i ddeall beth yw’r dylanwadau a’r agweddau cymdeithasol sy’n effeithio ar eu bywydau a’u lles. Bydd hyn yn atgyfnerthu eu gallu i wynebu heriau a chyfleoedd bywyd.

Ein ffyrdd o weithio

Illustration of a young woman working on a desk with four people on a video call. Surrounding her are images of people interacting with VR technology, stars and puzzles. Darlun o fenyw ifanc yn gweithio ar ddesg gyda phedwar o bobl ar alwad fideo. O'i chwmpas mae delweddau o bobl yn rhyngweithio â thechnoleg VR, sêr a phosau.

Dysgu parhaus trwy ymgysylltu, ymchwil a chwarae

Illustration of a girl sitting on top of a stack of colourful blocks, with a ladder resting against them. She is reaching out to catch a green star shape floating above her hand. A purple ball sits on one of the lower blocks. Darlun o ferch yn eistedd ar ben pentwr o flociau lliwgar, gyda ysgol yn pwyso yn eu herbyn. Mae hi’n estyn allan i ddal siâp seren werdd uwchben ei llaw. Mae pêl borffor ar un o’r blociau isaf.

O’r ystafell ddosbarth i’r maes chwarae i’r gymuned, byddwn yn archwilio gwahanol ffyrdd o wrando a dysgu.

Trwy gydweithio ag amrywiaeth o arbenigwyr a phartneriaid, byddwn yn ehangu ein gwybodaeth ac yn gwreiddio meddylfryd hirdymor yn ein cynllunio. Byddwn yn cynnwys ymarferwyr a dysgwyr yn y broses o adolygu a gwerthuso ein gwaith fel y gallwn addasu a chynllunio at y dyfodol, gan sicrhau ein bod yn darparu adnoddau sy’n ateb y galw ac yn cefnogi anghenion y defnyddwyr.

Bydd ein gweithredoedd yn fwriadol ac yn strategol, er mwyn sicrhau ein bod yn y tymor hir yn atal y problemau parhaus sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc.

Mae hyn yn cynnwys:

Icon of a megaphone in a blue circle Eicon o megaffon mewn cylch glas

Lleisiau, safbwyntiau a phrofiadau pobl

Trwy ganolbwyntio’n gyntaf oll ar bobl, byddwn yn cydweithio ac yn ymwneud â phobl trwy’r sector addysg a’r tu hwnt i ddeall safbwyntiau, anghenion a phrofiadau’r gwahanol bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw.

Icon of a notebook with a pen, there is one checkmark and one cross in a blue circle Eicon o lyfr nodiadau gyda beiro, mae un marc siec ac un groes mewn cylch glas

Ymchwil a gwerthuso

Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Byddwn yn ymgorffori gwerthuso ym mhopeth a wnawn a byddwn yn gweithio gyda chwmnïau ymchwil proffesiynol i gasglu gwybodaeth a data. Byddwn yn dryloyw ac yn rhannu’r canfyddiadau gydag eraill.

Anelu at ansawdd uchel a thegwch

Illustration of a young girl in a space suit, floating in space, holding a star with a swirl of purple behind her filled with stars and constellations. Darlun o ferch ifanc mewn siwt ofod, yn arnofio yn y gofod, yn dal seren gyda throell o borffor y tu ôl iddi yn llawn sêr a chytserau.

Trwy ein fframwaith sicrhau ansawdd, byddwn yn gosod disgwyliadau clir ac yn anelu at ragoriaeth ym mhob adnodd y byddwn yn ei gomisiynu a’i rannu. Bydd ein pwyslais ar safon yn hytrach nag ar nifer, gan gomisiynu adnoddau addysgol a fydd yn fwy hyblyg, defnyddiol, perthnasol a chynhwysol.  Ni fydd angen comisiynu adnoddau newydd bob tro, a byddwn yn edrych ar ddulliau mwy cost-effeithiol o ehangu mynediad i adnoddau da sy’n bodoli eisoes.

Mae hyn yn cynnwys:

Icon of two speech bubbles in a purple circle Eicon o ddau swigod siarad mewn cylch porffor

Cydraddoldeb a dwyieithrwydd

Un o hanfodion cenhadaeth y Cwricwlwm i Gymru yw bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac y bydd cyfle i bob dysgwr ddefnyddio’r iaith mewn ffordd gyfartal a chael cyfle i wireddu ei botensial. Gyda golwg ar y Ddeddf Gymraeg ac Addysg, byddwn yn ystyried y defnydd o’r Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd fel cerbyd ar gyfer cynllunio ystod o adnoddau yn seiliedig ar gontinwwm iaith strwythuredig, cenedlaethol.

Icon of two hands with an infinity symbol above it in a purple circle Eicon o ddwy law gyda symbol anfeidredd uwchben mewn cylch porffor

Tegwch a thechnoleg

Trwy ein pwyslais ar degwch a chynhwysiant, byddwn yn buddsoddi mewn adnoddau a fydd yn ysbrydoli pawb. Byddwn yn manteisio ar botensial dealltwriaeth artiffisial a thechnoleg er mwyn sicrhau ein bod yn rhoi profiadau teg i bawb ac yn cefnogi’n well y rhai sydd ddim yn cael eu gwasanaethu’n deg yn y sector.

Arloesi trwy gydweithio

Illustration of 6 children standing on each other to form a supportive pyramid, showing a collaborative spirit. Darlun o 6 o blant yn sefyll ar ei gilydd i ffurfio pyramîd cefnogol, yn dangos ysbryd o gydweithio.

Ein bwriad yw datblygu dull mwy cynaliadwy o greu adnoddau. Mae hyn yn golygu na fyddwn yn comisiynu cynnyrch newydd ein hunain yn unig. Byddwn hefyd yn helpu i feithrin capasiti a rhwydweithiau effeithiol ar gyfer creu a rhannu adnoddau i sicrhau bod yr adnoddau addysgol sy’n cael eu darparu yng Nghymru yn gydlynol ac yn gytbwys.

Byddwn yn mynd ati i arbrofi â syniadau newydd a ffyrdd gwahanol o weithio, gan rannu ein canfyddiadau gydag eraill. Byddwn yn annog mentergarwch ac arloesedd, ac yn barod i gymryd risgiau a dysgu trwy gamgymeriadau.

Mae hyn yn cynnwys:

Icon of a compass in a red circle Eicon o gwmpawd mewn cylch coch

Rhoi amser i’r hyn sy’n anhysbys

Rydyn ni’n cydnabod nad oes gennyn ni’r holl atebion a bod llawer o bethau nad ydyn ni’n eu gwybod eto. Rydyn ni’n credu y gall pethau arbennig ddod o gadw meddwl agored. Byddwn yn creu’r amodau er mwyn i’r annisgwyl ddigwydd ac er mwyn bod yn barod i ddefnyddio dulliau newydd o ddatblygu adnoddau sydd mewn gwahanol ffurfiau. Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn mynd ati i gydweithio ag ystod eang o bartneriaid a chyflenwyr.

Icon of a lightbulb in a red circle Eicon o fylb golau mewn cylch coch

Cefnogi diwydiannau creadigol a thechnolegol yng Nghymru

Fel galluogwr strategol, byddwn yn dod ag ymarferwyr, dysgwyr, sefydliadau, mentrau lleol a grwpiau cymunedol ynghyd i feddwl am ddulliau newydd ac arloesol o greu a rhannu adnoddau addysgol. Byddwn yn taflu goleuni ar ddoniau ein cenedl fel bod eu hegni a’u grym yn tywynnu i mewn i’r ystafell ddosbarth. Byddwn hefyd yn edrych y tu hwnt i Gymru am enghreifftiau o arfer da.

Diolchiadau

Image of two young girls drawing on a whiteboard with colourful swirls and stars coming out from their pens. Delwedd o ddwy ferch ifanc yn tynnu llun ar fwrdd gwyn gyda throellau lliwgar a sêr yn dod allan o'u pennau.

Hoffai staff ac aelodau Bwrdd Adnodd ddiolch i’n cefnogwyr, i’n darparwyr, i’n partneriaid ac i’n ffrindiau beirniadol am eich help wrth lunio ein Strategaeth:

  • Ysgrifenydd y Cabinet Dros Addysg, Lynne Neagle
  • Swyddogion Llywodraeth Cymru
  • DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol)
  • Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Comisiynydd y Gymraeg
  • Estyn
  • Miller Research
  • Blue Stag
  • Yr Athro Charlotte Williams
  • Casia Wiliam
  • Rhys Iorwerth
  • Lleucu Gwenllian

Ac i holl ymarferwyr Cymru am addysgu a chefnogi cenedlaethau’r dyfodol.

Ac i chi, blant a phobl ifanc Cymru, am eich chwilfrydedd, eich dychymyg a’ch dyhead i ddysgu. Rydych chi’n ysbrydoliaeth i ni i gyd.

Photo of two young schoolgirls walking down a corridor in their school with colourful hand drawn stars around them. Llun o ddwy ferch ysgol ifanc yn cerdded i lawr coridor yn eu hysgol gyda sêr lliwgar wedi'u darlunio â llaw o'u cwmpas.
Photograph of a person holding a tablet displaying the cover of the “Adnodd Strategy 2025–28” document. The screen shows a colourful design with a woman’s face, symbols of learning, stars and constellations, and the Adnodd logo. The text reads: “Strategaeth Adnodd 2025–28 – Cefnogi ac Ysbrydoli Dysgu”. Llun o berson yn dal llechen yn dangos clawr dogfen “Strategaeth Adnodd 2025–28”. Mae’r sgrin yn dangos dyluniad lliwgar gyda wyneb menyw, symbolau dysgu, sêr a chytserau, a logo Adnodd. Mae’r testun yn darllen: “Strategaeth Adnodd 2025–28 – Cefnogi ac Ysbrydoli Dysgu”.

Lawrlwythwch ein strategaeth

(PDF – 5mb)

Lawrlwythwch