Gweithio ar y cyd
Fel sefydliad bach, bydd Adnodd yn cydweithio’n helaeth i gyflawni ein huchelgeisiau.
O gyflenwyr a fydd yn cael eu comisiynu i greu adnoddau cyffrous o ansawdd uchel i sefydliadau cenedlaethol mawr sydd â’r arbenigedd a’r cyrhaeddiad i’n helpu i gyflawni ein nodau, bydd Adnodd yn cydweithio ag ystod eang o gwmnïau a sefydliadau.

Nid ydym am ddyblygu’r gallu a’r arbenigedd sydd eisoes ar gael. Rydyn ni eisiau bod y catalydd hwnnw, sefydliad a all helpu i dynnu pobl at ei gilydd a gwneud i bethau ddigwydd, nid ceisio cyflawni’r cyfan ar ein pennau ein hunain.
Emyr George, Prif Weithredwr Adnodd
Yn fwy na dim, byddwn yn mynd ati i gynnwys y rhai sydd bwysicaf mewn addysg. Bydd popeth a wnawn yn adlewyrchu anghenion ymarferwyr, dysgwyr a’u teuluoedd a’u cymunedau, a bydd ein gwaith yn cael ei gyflwyno ar y cyd â nhw drwy broses barhaus o wrando a dysgu.
Llywodraeth Cymru
Corff hyd braich Llywodraeth Cymru yw Adnodd. Mae’n is-gwmni dan berchnogaeth lwyr cyfyngedig trwy warant. Mae hyn yn golygu ein bod yn annibynnol o Lywodraeth Cymru, ond yn gwbl atebol i’w Gweinidogion. Gallwch weld llythyrau cylch gwaith Adnodd gan Lywodraeth Cymru yma.
Nod y Llywodraeth, fel yr amlinellir yn y genhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg, yw:
Yng Nghymru, addysg yw ein cenhadaeth genedlaethol. Gyda’n gilydd, byddwn yn cyflawni safonau a dyheadau uchel i bawb, gan fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad ac uchelgais. Mae pob dysgwr, beth bynnag fo’i gefndir, yn cael ei gefnogi i fod yn ddinasyddion iach, ymgysylltiol, mentrus a moesegol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
Llywodraeth Cymru
Cadwch mewn cysylltiad â ni
Cewch y newyddion diweddaraf gan Adnodd wrth i ni gefnogi Cwricwlwm i Gymru.
