Yr hyn a wnawn
Ein cenhadaeth yw meithrin arloesedd, hyrwyddo tegwch, a chyfoethogi’r profiad dysgu mewn addysg ar draws Cymru.
Ein nod yw cefnogi ymarferwyr, dysgwyr a’u teuluoedd trwy gydol eu profiad addysgol trwy gomisiynu adnoddau dwyieithog o ansawdd uchel i gefnogi ac ysbrydoli eu dysgu.
Mae Adnodd yn gweithio gyda chrewyr cynnwys, ymarferwyr addysgol, dysgwyr a’u teuluoedd i gomisiynu a chyd-greu adnoddau dwyieithog o ansawdd uchel sy’n cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.
Trwy weithio ar y cyd ac yn strategol gyda Llywodraeth Cymru, a chydweithwyr ar draws y sector addysgol a thu hwnt, ein nod yw sicrhau bod pob dysgwr ac addysgwr yn cael mynediad hawdd at ddeunyddiau perthnasol, dwyieithog a chynhwysol.
Byddwn yn:
- Darparu trosolwg strategol o’r adnoddau sydd ar gael i ddysgwyr 3 i 19 oed.
- Cynnig gwasanaeth y gellir ymddiried ynddo, sy’n darparu adnoddau addysgol dwyieithog o ansawdd uchel.
- Sicrhau bod adnoddau yn hygyrch, yn gynhwysol, yn berthnasol ac yn amserol ac ar gael ar yr un pryd yn Gymraeg ac yn Saesneg.
- Sefydlu fframwaith sicrhau ansawdd ar gyfer comisiynu, datblygu a chymeradwyo adnoddau sy’n addas i’r diben.
- Hwyluso cydweithredu ar draws partneriaid a sectorau i wneud y defnydd gorau o’r cyllid, yr arbenigedd, y wybodaeth a’r sgiliau sydd ar gael ac i alluogi arloesi.
- Hyrwyddo ymwybyddiaeth a defnydd o adnoddau, gan gynyddu’r budd a’r gwerth i ddysgwyr ac ymarferwyr.
- Datblygu a buddsoddi mewn sgiliau a gallu ledled Cymru i greu, rhannu a chyhoeddi adnoddau addysgol.
Ein haddewid – gwrando, dysgu a gweithredu
O’r cychwyn cyntaf, byddwn yn sefydliad sy’n gwrando ac yn dysgu, a bydd ein penderfyniadau’n seiliedig ar dystiolaeth ac adborth.
Cyn i ni gyhoeddi ein Cynllun Strategol cyntaf – a fydd yn amlinellu’r hyn y byddwn yn ei wneud a phryd – byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid a rhanddeiliaid yn y sector i nodi’r anghenion, bylchau, a blaenoriaethau.
Byddwn bob amser yn ymdrechu i fod yn dryloyw yn ein gwaith. Bydd ein gwaith comisiynu’n cael ei lywio gan flaenoriaethau strategol, profiadau defnyddwyr, ac yn adlewyrchu anghenion y sector addysgol ar draws Cymru.
Bydd ein holl raglenni comisiynu yn cael eu gwerthuso’n llawn fel y gallwn ddysgu beth weithiodd a beth na weithiodd, a byddwn yn eu haddasu a’u datblygu yn unol ag adborth gan ystod eang o randdeiliaid.

Y stori hyd yn hyn
Mawrth 2022
Ar Ddiwrnod y Llyfr, fe gyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, gynlluniau i sefydlu cwmni adnoddau addysgol dwyieithog hyd braich.
Gorffennaf 2022
Mae Adnodd wedi’i gofrestru’n ffurfiol fel cwmni gyda Thŷ’r Cwmnïau.
Mawrth 2023
Mewn datganiad i’r Senedd, dywed Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: “Mae cael mynediad at adnoddau addysgol dwyieithog o ansawdd uchel a deunyddiau ategol yn ganolog i’n gweledigaeth a’n cenhadaeth ar gyfer addysg yng Nghymru. Bydd adnoddau addysgol o ansawdd uchel a wneir yng Nghymru ar gyfer Cymru yn gwella ansawdd y dysgu ac yn hyrwyddo dilyniant dysgwyr.”
Cyhoeddir y llythyr cylch gwaith gan Lywodraeth Cymru at Adnodd ym mis Mawrth. Mae’n nodi cylch gwaith gweithredol y cwmni, ein blaenoriaethau strategol cyffredinol ar gyfer 2023 i 2026, ein hamcanion penodol a’n dyraniad cyllid ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24, a chyllideb ddangosol ar gyfer y ddwy flynedd ariannol ganlynol.
Ebrill 2023
Owain Gethin Davies, prifathro Ysgol Uwchradd Dyffryn Conwy, yn cael ei benodi yn Gadeirydd Adnodd. Mae pum aelod bwrdd anweithredol yn cael eu penodi hefyd – Huw Lloyd Jones, Nicola Wood, Sioned Wyn Roberts, Dr Lucy Thomas, a Lesley Bush. Mae dau aelod o staff wedi’u secondio o Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun busnes a chefnogi trefn weithredol y cwmni.
Ionawr 2024
Emyr George yn cael ei benodi’n Brif Weithredwr.
Ebrill – Gorffennaf 2024
Mae staff newydd yn cael eu recriwtio, a gwefan newydd yn cael ei datblygu. Cynhelir sgyrsiau cychwynnol gyda phartneriaid a chyflenwyr ar olwg strategol i’r cylchoedd comisiynu sydd i ddod.
Awst 2024
Llywodraeth Cymru yn cytuno ar gyllid ychwanegol i Adnodd i gomisiynu CBAC i greu deunyddiau dysgu ac addysgu ychwanegol i gefnogi cyflwyno’r cymwysterau TGAU newydd. Penodir dau aelod anweithredol newydd i Fwrdd Adnodd: Natalie Jones a Mair Gwynant.
Hydref 2024
Mae Adnodd yn comisiynu ei rownd gyntaf o adnoddau newydd a rhai wedi’u diweddaru sy’n adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Bydd yr adnoddau newydd hyn yn cael eu cyhoeddi yn ystod blwyddyn academaidd 2024-25.
Tachwedd 2024
Mae Adnodd yn cyhoeddi ein Hadroddiad Cynnydd Blynyddol cyntaf, yn manylu ar y datblygiadau rydym wedi’u gwneud dros ein blwyddyn gyntaf o fusnes, a phopeth yr ydym wedi’i gynllunio ar gyfer y dyfodol! Ymunwch â’n cymuned i glywed mwy.
Comisiynu dyfodol cryfach
Er mwyn llywio ein hymagwedd, fe wnaethom gomisiynu astudiaeth ymchwil fanwl yn gynharach eleni i gasglu adborth gan randdeiliaid allweddol ar ein prosesau comisiynu a sicrhau ansawdd.
Mae’r adroddiad yn edrych ar eu barn ar y prosesau presennol ac yn amlygu meysydd i’w gwella, yn enwedig o ran y Cwricwlwm newydd i Gymru. Bydd yr ymchwil hwn yn ein helpu i sicrhau bod ein hadnoddau yn cyd-fynd ag anghenion esblygol addysgwyr a dysgwyr ar draws Cymru.

Cwmpasu’r Dirwedd Adnoddau Addysgol Dwyieithog ar gyfer Adnodd
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau allweddol ymchwil a gynhaliwyd gan Miller Research a Four Cymru ar ran Adnodd. Mae’n archwilio’r dirwedd bresennol o adnoddau addysgol dwyieithog a chyfrwng Cymraeg sydd ar gael i ddysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar anghenion sy’n codi o’r Cwricwlwm newydd i Gymru a chymwysterau cenedlaethol cysylltiedig.
Mae hefyd yn cynnwys argymhellion ar gyfer gwella argaeledd adnoddau, ansawdd, a hygyrchedd, ac mae’n amlinellu gweledigaeth ar gyfer rôl Adnodd wrth gydlynu datblygiad adnoddau addysgol yng Nghymru yn y dyfodol.
Lawrlwythwch yr adroddiadCadwch mewn cysylltiad â ni
Cewch y newyddion diweddaraf gan Adnodd wrth i ni gefnogi Cwricwlwm i Gymru.
