Neidio i'r prif gynnwy
English

Arloeswyr y Cwricwlwm

Illustration of a woman in a lab coat and headscarf, with glasses and a thoughtful expression. She is holding glowing lines and colourful stars, constellations and diagrams floating in the air. Darlun o fenyw mewn cot labordy ac yn gwisgo hijab, gyda sbectol a mynegiant myfyriol. Mae’n dal llinellau llachar gyda sêr lliwgar, cytserau a diagramau’n arnofio yn yr awyr.

Mae Arloeswyr y Cwricwlwm yn defnyddio’r rhyddid newydd sy’n cael ei gynnig gan y Cwricwlwm i Gymru i blethu gwersi ynghyd o sawl maes dysgu, gan gynnig enghraifft gref o’r hyn y gall y cwricwlwm newydd ei gyflawni.

Maen nhw fel arfer:

  • Yn gweithio mewn ysgolion cynradd.
  • Yn greadigol ac yn hoff o archwilio ac arbrofi.
  • Yn fedrus wrth greu adnoddau a gweithgareddau gwersi sy’n cynnig profiadau dysgu cyfoethog.
  • Yn addasu neu’n ailgyfeirio eu gwersi’n gyflym er mwyn ymateb i ddigwyddiadau cyfoes neu bynciau perthnasol.

Eu hadnoddau arferol

Mae Arloeswyr y Cwricwlwm yn ymarferwyr myfyriol a chreadigol iawn sy’n gweld adnoddau fel blociau adeiladu yn hytrach na chynhyrchion gorffenedig. Anaml y byddan nhw’n defnyddio adnoddau yn syth o blatfform heb eu haddasu, ac maen nhw’n aml yn cyfuno sawl math o offer i greu profiadau dysgu addas. Wrth ddefnyddio adnoddau, eu nod yw sicrhau bod y rheini’n cyd-fynd yn agos â gwerthoedd a hyblygrwydd y Cwricwlwm i Gymru.

Mae’r arloeswyr hyn yn creu deunyddiau o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys platfformau ar-lein, y cyfryngau cymdeithasol, rhwydweithiau cymheiriaid ac offer AI. Mae platfformau fel Canva, ChatGPT, Twinkl, a Pinterest yn fan cychwyn ar gyfer syniadau. Mae ysbrydoliaeth weledol, fformatau hyblyg, a’r gallu i addasu’n gyflym yn nodweddion hanfodol iddyn nhw.

Mae’r adnoddau maen nhw’n eu ffafrio yn rhai sydd:

  • Ar gael mewn fformatau mae modd eu haddasu’n llawn, fel Word, Google Slides, neu dempledi Canva.
  • Yn cynnig elfennau gweledol a rhyngweithiol i hoelio sylw dysgwyr.
  • Yn rhoi ysbrydoliaeth yn hytrach na chynnwys rhagnodol.
  • Yn cynnwys delweddau, templedi, neu fideos esboniadol byr sy’n barod i’w defnyddio.
  • Yn gallu cael eu cyfuno’n hawdd, eu hailbwrpasu neu eu teilwra ar gyfer dysgwyr gwahanol.
  • Ar gael i’w lawrlwytho mewn sawl fformat i gefnogi cynllunio hyblyg.

Heriau cyffredin

Yr her fwyaf i Arloeswyr y Cwricwlwm yw’r amser sydd ei angen i greu, teilwra ac addasu adnoddau – yn enwedig wrth ddarparu ar gyfer sawl lefel gallu neu gyflwyniadau dwyieithog.

Mae heriau eraill yn cynnwys:

  • Dibyniaeth ormodol ar eu hamser a’u creadigrwydd eu hunain i gynhyrchu gwahanol fersiynau o adnoddau.
  • Taith adnoddau ddryslyd: symud rhwng Pinterest, Google, offer AI, y cyfryngau cymdeithasol a chronfeydd data.
  • Rhwystredigaeth ag adnoddau statig na ellir eu golygu’n hawdd (yn enwedig PDFs).
  • Anhawster wrth ddod o hyd i adnoddau am yr eildro ar ôl eu darganfod, oherwydd y defnydd o sawl platfform.

Cyfleoedd ac argymhellion

Er mwyn cefnogi Arloeswyr y Cwricwlwm yn effeithiol, dylai platfformau a darparwyr adnoddau flaenoriaethu offer a chynnwys sy’n gweithredu fel pontydd i greadigrwydd yn hytrach na chynnwys sefydlog i’w gyflwyno’n uniongyrchol. Ymhlith y cyfleoedd allweddol mae:

  • Creu lleoedd ar gyfer rhannu syniadau a chodi proffil ymarfer creadigol.
  • Sicrhau bod modd addasu adnoddau a’u bod ar gael mewn sawl fformat.
  • Rhoi ysbrydoliaeth weledol a thempledi hyblyg o ansawdd da.
  • Cyflwyno casgliadau o adnoddau tymhorol neu thematig i sbarduno syniadau ar gyfer gwersi (e.e. digwyddiadau diwylliannol neu ddiwrnodau cenedlaethol).
  • Sicrhau bod adnoddau’n cynnwys ffyrdd i drefnu adnoddau, i’w gosod mewn casgliadau personol, neu i’w gosod fel ffefrynnau.
  • Creu mannau i athrawon rannu eu haddasiadau neu enghreifftiau o sut defnyddiwyd adnoddau yn y dosbarth.
  • Cefnogi cydweithio a lledaenu syniadau rhwng athrawon mewn rhwydweithiau a chlystyrau.

Astudiaeth achos – Arloeswyr y Cwricwlwm

Mae un dirprwy bennaeth profiadol sy’n gweithio mewn ysgol gynradd fach yng nghefn gwlad yn enghraifft glir o Arloeswyr y Cwricwlwm. Gyda dros ugain mlynedd o brofiad addysgu, mae wedi croesawu’r rhyddid mae’r Cwricwlwm i Gymru yn ei gynnig i greu profiadau dysgu cyfoethog ac addas sy’n croesi ffiniau meysydd dysgu.

I’r ymarferydd hwn, mae cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru wedi trawsnewid ei ymagwedd at gynllunio ac at adnoddau. Tra bo modd addasu adnoddau a grëwyd ar gyfer cwricwlwm Lloegr, mae’r bwlch bellach wedi ehangu – yn enwedig mewn meysydd fel y dyniaethau. O ganlyniad, mae’r athro yma bellach yn creu’r mwyafrif o’i adnoddau o’r newydd.

Mae’n defnyddio ystod o offer digidol – gan gynnwys platfformau AI – i gynhyrchu cynnwys yn gyflym ac i’w deilwra’n benodol at ei anghenion dysgu. Mae’n paratoi cyflwyniadau ar gyfer pob hanner tymor ymlaen llaw, gan gynnig strwythur hyblyg y gellir ei addasu o wythnos i wythnos wrth i ddiddordebau disgyblion neu’r dysgu esblygu.

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’r ymarferydd hwn yn gweld potensial enfawr mewn platfformau adnoddau sydd:

  • Yn cynnig cynnwys sy’n benodol i Gymru, yn enwedig yn y dyniaethau.
  • Yn hawdd eu haddasu a’u teilwra.
  • Yn defnyddio offer AI i helpu i greu adnoddau.
  • Yn cynnwys hidlyddion clir a grymus i ddod o hyd i gynnwys perthnasol yn gyflym.
  • Yn cyflwyno cynnwys mewn dull proffesiynol, addysgiadol a chyfeillgar i ddefnyddwyr.