Neidio i'r prif gynnwy
English

Cyfeillion Adnodd

Image of two young girls drawing on a whiteboard with colourful swirls and stars coming out from their pens. Delwedd o ddwy ferch ifanc yn tynnu ar fwrdd gwyn, gyda troellau lliwgar a sêr yn dod allan o’u pensiliau.

Mae Cyfeillion Adnodd yn gymuned o bobl sy’n meddu ar brofiad ac arbenigedd sy’n berthnasol i weledigaeth Cwricwlwm i Gymru, ac a fydd yn cefnogi’r broses o gomisiynu adnoddau addysgol cynhwysol o ansawdd uchel trwy adolygu a chydweithio.

Y rôl

Cyfeillion Adnodd yw ein menter newydd gyffrous i recriwtio oedolion positif, cydweithredol, gyda ffocws ar y dyfodol sydd wedi byw a/neu ddysgu profiadau o’r sector addysg yng Nghymru.

Bydd Cyfeillion Adnodd yn cefnogi:

  • Prosesau comisiynu
  • Gwerthuso ceisiadau am gyllid
  • Adolygu a gwerthuso adnoddau sydd eisoes mewn bodolaeth
  • Sicrhau ansawdd adnoddau a gomisiynir o’r newydd

Bydd Cyfeillion Adnodd yn cydweithio yn eu hiaith ddewisiol (Cymraeg neu Saesneg) i gyfrannu’n gadarnhaol at ddefnydd a datblygiad yr iaith Gymraeg.

Bydd cyfieithu byw a chefnogaeth i ddatblygu sgiliau Cymraeg yn cael ei gynnig.

Oes gennych chi…

  1. Brofiad perthnasol o’r sectorau addysgol, academaidd, treftadaeth, diwylliannol a/neu ieuenctid yng Nghymru
  2. Ddull cadarnhaol o weithio gydag eraill
  3. Sgiliau cydweithredol rhagorol
  4. Y gallu i feddwl mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y dyfodol
  5. Wybodaeth am y Cwricwlwm i Gymru (ers 2022)