Adnodd
Aberwla: Dysgu Cymraeg drwy Realiti Rhithwir
Mae Adnodd yn falch o ariannu Aberwla — adnodd VR arloesol, rhad ac am ddim i'w lawrlwytho, wedi'i gynllunio i gefnogi dysgu'r iaith Gymraeg mewn ffordd hollol newydd.
Wedi’i leoli mewn pentref rhithwir bywiog, mae Aberwla yn trochi defnyddwyr mewn Cymraeg bob dydd drwy dasgau rhyngweithiol fel siopa, cymryd archebion caffi, datrys posau, a mwy.
Mae’r adnodd hefyd yn cynnwys gemau bach i helpu dysgwyr i adeiladu geirfa, gwella gramadeg, a thyfu eu hyder mewn amgylchedd hwyliog a chefnogol.
Gwyliwch y fideo hyrwyddo isod ac ewch i Hwb i gael mynediad at y lawrlwythiad am ddim.