Neidio i'r prif gynnwy
English
Adnodd

Adnodd: Anturiaethau iaith gyda Y Pod-antur Cymraeg

Cefnogi dysgwyr Cymraeg trwy uwchraddio'r Pod-antur Cymraeg i'r oes ddigidol gyda chymorth Adnodd
Y Pod-Antur Cymraeg

Beth yw Y Pod-antur Cymraeg?

Mae Y Pod-antur Cymraeg yn adnodd Cymraeg sydd wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr 7-11 oed. Drwy anturiaethau chwe chymeriad sy’n teithio drwy amser, mae’r gyfres yn adeiladu ar batrymau iaith a gyflwynwyd mewn dysgu sylfaen, gan gynnig ffordd greadigol o gefnogi datblygiad geirfa a strwythur brawddegau.

Er iddo gael ei greu’n bennaf ar gyfer dysgwyr ail iaith, mae Y Pod-antur Cymraeg hefyd yn adnodd gwerthfawr i ddysgwyr iaith gyntaf sydd am atgyfnerthu neu ailedrych ar eu sgiliau Cymraeg.

Diweddaru’r adnodd

Fel gyda llawer o ddeunyddiau hŷn, roedd symud oddi wrth CD-ROMs a chyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru yn golygu bod angen adnewyddu’r gyfres.

I ymateb i geisiadau gan ymarferwyr, fe wnaeth Adnodd gomisiynu asiantaeth ddigidol Tinint i ddiweddaru Y Pod-antur Cymraeg ar gyfer dysgwyr heddiw. Mae hi’n gyfres fodern, hygyrch a diddorol sydd wedi’i chynllunio i roi hwb i hyder dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg.

Mae’r adnodd wedi’i ddiweddaru yn cynnwys y canlynol:

  • Dros 125 o fideos ar gael ar-lein.
  • Nifer o lyfrau ac e-lyfrau, i gyd yn cynnwys naratif sain.
  • Taflenni gwaith, cardiau trafod, a gêm ryngweithiol.

Mae’r holl gynnwys yn rhad ac am ddim, yn hyblyg, ac ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Sut i gael mynediad at Y Pod-antur Cymraeg

Mae’r Pod-antur Cymraeg wedi’i gynllunio i fod yn hawdd i’w defnyddio a chael mynediad ato, boed hynny yn yr ystafell ddosbarth neu gartref. Mae’r adnodd llawn ar gael ar Hwb ac ar wefan Y Pod-antur Cymraeg, lle gallwch archwilio’r deunyddiau wrth eich pwysau eich hun.

Mae’r wefan yn hawdd i’w defnyddio, gan alluogi defnyddwyr i hidlo yn ôl maes cwricwlwm, sgiliau trawsgwricwlaidd, patrymau iaith, swyddogaethau cyfathrebu, a mwy.