Adnodd: Dysgu Cymraeg gyda Fflic a Fflac
Rhoi bywyd newydd i adnodd poblogaidd Cymraeg gyda chymorth Adnodd
Beth yw Fflic a Fflac?
Mae Fflic a Fflac yn gyfres boblogaidd a dibynadwy o adnoddau Cymraeg sydd wedi’u cynllunio i gefnogi dysgwyr iaith gyntaf ac ail iaith. Gan ddefnyddio cymysgedd o ddeunyddiau amlgyfrwng, llyfrau, gemau a gweithgareddau, mae Fflic a Fflac yn helpu dysgwyr i adnabod patrymau iaith, strwythurau brawddegau, a geirfa mewn ffordd ddiddorol a hygyrch.
Ond wrth i fformatau digidol esblygu ac wrth i CD-ROMs a DVDs ddyddio, nid yw rhannau o’r adnodd bellach yn diwallu anghenion ystafelloedd dosbarth a chartrefi heddiw.
Ailwampio un o ffefrynnau’r ystafell ddosbarth
Dywedodd ymarferwyr ledled Cymru wrthym eu bod am weld Fflic a Fflac yn cael ei adnewyddu ar gyfer dysgwyr heddiw. Dyna pam y gwnaeth Adnodd gomisiynu asiantaeth ddigidol Tinint i ail-ddychmygu’r gyfres ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru a’i chyflwyno i’r oes ddigidol.
Mae’r fersiwn ddiweddaraf o Fflic a Fflac yn cynnwys y canlynol:
- Cynnwys sy’n cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru.
- Dros 100 o fideos, dros 100 o e-lyfrau, caneuon a gemau rhyngweithiol.
- Ailadeiladu e-lyfrau ar ffurf ePub gyda naratif sain.
- Mae’r holl gynnwys ar gael yn ddigidol ac yn rhad ac am ddim.
Sut i gael mynediad at Fflic a Fflac
Mae Fflic a Fflac yn gyfres ddiddorol a llawn hwyl o adnoddau i helpu i gefnogi addysg’r Gymraeg mewn dysgu sylfaen. Mae’r gyfres lawn ar Hwb ac ar wefan Fflic a Fflac.
Mae’r safle’n caniatáu i chi hidlo yn ôl maes Cwricwlwm, sgiliau trawsgwricwlaidd, patrymau iaith, a swyddogaethau cyfathrebu, gan helpu defnyddwyr i ddod o hyd i’r adnodd cywir yn gyflym.
Mae’r gyfres wedi’i strwythuro’n bedwar pecyn blaengar, sy’n ei gwneud yn hawdd meithrin sgiliau iaith gam wrth gam. Mae’r e-Lyfrau’n cynnwys naratif llafar i gefnogi ynganiad cywir, gan ei wneud yn ddelfrydol i ddysgwyr, rhieni a theuluoedd fel ei gilydd.