Datganiad i’r Wasg: Adnodd yn cyhoeddi cynllun darllen newydd ar gyfer dysgwyr gydag anghenion dysgu ychwanegol
“Y Gymraeg yn ysbrydoliaeth i bawb”
Mae Adnodd – y corff sy’n gyfrifol am arwain a chydlynu adnoddau addysgol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru – wedi cyhoeddi cynllun arloesol newydd a fydd yn cefnogi disgyblion gydag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd yn y Gymraeg. Mae’r cynllun hwn mewn ymateb i’r alwad yn y sector addysg i sicrhau fod yna ddarpariaeth deg o adnoddau ar gael i bob dysgwr yng Nghymru.
Mae ymchwil ddiweddaraf a gyhoeddwyd gan Adnodd mis Mai – sy’n edrych ar sut mae ymarferwyr a gofalwyr yn defnyddio adnoddau – yn dangos bod yna brinder adnoddau cynhwysol ac addas ar gyfer dysgwyr sydd ag ADY.
Ar ben hyn, mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod yna fylchau sylweddol yn yr adnoddau Cymraeg sydd ar gael. Yn aml mae’n rhaid i ymarferwyr gyfieithu deunyddiau Saesneg eu hunain, sy’n arwain at ragor o lwyth gwaith a diffyg cysondeb rhwng ysgolion.
Mewn partneriaeth gyda Chyngor Llyfrau Cymru, bydd y cynllun uchelgeisiol hwn yn darparu cyfresi newydd o lyfrau darllen dan arweiniad, a fydd yn unigryw i Gymru ac yn seiliedig ar y Fframwaith Cymraeg ADY.
Nod y cynllun yw cefnogi sgiliau llythrennedd dysgwyr cyfrwng Cymraeg dros saith oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac sydd angen cymorth i ddarllen yn annibynnol. Bydd y cynllun hefyd yn cefnogi a hyfforddi awduron a’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru er mwyn safoni yr eirfa a’r patrymau iaith penodol fydd yn helpu disgyblion i wneud twf cyson a chynaliadwy.
Bydd y cynllun hwn, caiff ei ariannu gan Adnodd drwy nawdd Llywodraeth Cymru, yn galluogi cyhoeddwyr Cymru i greu 24 cyfrol ffuglen a ffeithiol newydd a fydd yn addas ar gyfer disgyblion rhwng 7 a 12 oed. Y gobaith yw i dyfu’r cynllun dros y blynyddoedd nesaf er mwyn cyhoeddi rhagor o gyfrolau.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
Mae pob plentyn yn haeddu mynediad at addysg o ansawdd uchel sy’n adlewyrchu eu hanghenion iaith a dysgu. Mae ein diwygiadau, ynghyd â chynlluniau arloesol fel yr adnoddau Cymraeg newydd sy’n cael eu cyhoeddi heddiw, yn galluogi ein hysgolion i gefnogi dysgu cynhwysol a helpu pob plentyn i gyrraedd eu potensial llawn.
Mae gwaith ardderchog yn digwydd i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ledled Cymru, ac rwy’n falch iawn bod y cynllun hwn yn ymestyn y gwaith hanfodol hwn ymhellach. Mae darllen yn agor bydoedd o bosibilrwydd – mae’n rhaid i ni sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn gallu cael mynediad i’r llawenydd hwnnw a datblygu’r sgiliau llythrennedd y bydd eu hangen arnynt drwy gydol eu bywydau.
Ychwanegodd Emyr George, Prif Weithredwr Adnodd:
Gweledigaeth Adnodd yw bod gan pob dysgwr, beth bynnag fo’u cefndir, yr hawl i gael adnoddau addysgol o’r radd flaena fydd yn tanio’u dychymyg, yn hybu eu lles, ac yn meithrin cariad gydol oes at ddysgu.
Fodd bynnag, ry’n ni’n gwybod bod yna brinder enbyd o adnoddau cyfrwng Cymraeg sy’n cefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb; a thrwy weithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru byddwn yn creu adnoddau a llyfrau gwych a fydd yn ysbrydoliaeth i bob disgybl.
Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru:
Rydym yn falch iawn o gydlynu’r prosiect pwysig hwn ac i gydweithio gydag arbenigwyr yn y maes anghenion dysgu ychwanegol, awduron a chyhoeddwyr Cymru i greu 24 o lyfrau Cymraeg apelgar a chyfoes a fydd yn gwneud cyfraniad mor bwysig i’r ddarpariaeth o lyfrau Cymraeg i blant rhwng 7 a 12 oed.
Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r arbenigwyr i greu canllaw ac adnoddau atodol i gyd-fynd â’r llyfrau i gefnogi athrawon a rhieni, gyda’r nod o ddarparu fframwaith i gynnal ac i adeiladu sgiliau darllen plant, yn hybu eu hyder i ddarllen, ac felly, yn meithrin mwynhad o ddarllen.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru wrthi’n hysbysu’r diwydiant cyhoeddi o’r cyfle i fod yn rhan o’r fenter newydd cyffrous. Y bwriad yw y bydd y cyfresi cyntaf yn cael eu cyhoeddi yn nhymor y gwanwyn 2027.
DIWEDD
YMHOLIADAU GAN Y CYFRYNGAU:
I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu unrhyw gyfweliadau, cysylltwch ag Adnodd ar post@adnodd.llyw.cymru
NODIADAU I OLYGYDDION:
- Bydd Adnodd yn cyhoeddi’r cynllun yn swyddogol mewn digwyddiad ym mhabell Llywodraeth Cymru, Maes D, ar faes Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam dydd Sadwrn 2 Awst am 3pm. Mae’r siaradwyr yn cynnwys cynrychiolwyr o Adnodd, Cyngor Llyfrau Cymru, S4C, Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, y cerddor Aleighcia Scott, a’r dramodydd a’r actor Mared Jarman. Bydd Adnodd yn bresennol ar y Maes drwy’r wythnos ar stondin 503-504.
- Sefydlwyd Adnodd yn 2023 fel corff hyd braich, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n gyfrifol am arwain a chydlynu’r ddarpariaeth o adnoddau addysgol yn Gymraeg ac yn Saesneg i ysbrydoli dysgu ac addysgu’r Cwricwlwm i Gymru.
- Trwy eu cynlluniau, mae Adnodd yn comisiynu adnoddau o ansawdd da a fydd yn hygyrch, bydd modd eu haddasu, a byddan nhw’n mynd i’r afael ag anghenion a bylchau a amlygir yn y ddarpariaeth. Mae Adnodd wedi adnabod Llythrennedd, Tegwch a Gwrth-hiliaeth, a Llesiant fel eu meysydd ffocws strategol dros y dair mlynedd nesaf.
- Mae Adnodd yn gweithio mewn partneriaeth â chyrff addysg, gweithwyr creadigol proffesiynol a sefydliadau o bob sector i sicrhau bod yr adnoddau addysgol sy’n cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru yn gynhwysol, yn ddiwylliannol berthnasol ac yn tanio dychymyg dysgwyr ac ymarferwyr o bob cefndir.
- Ceir rhagor o wybodaeth am yr ymchwil Adnodd gan Miller Research ar Daith a Phrofiad y Defnyddiwr ar wefan Adnodd yma.