Adnoddau TGAU Gwneud-i-Gymru am ddim wedi’u lansio ar Hwb
Mae Cyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC), gyda chymorth ariannol gan Adnodd, newydd ryddhau cyfres o adnoddau digidol sy’n cefnogi Ton 1 y cymwysterau newydd.
Wedi’i creu ar gyfer ymarferwyr a dysgwyr, mae’r gyfres yn cynnwys adnoddau dysgu cyfunol a threfnwyr gwybodaeth y bydd modd eu defnyddio mewn ystafelloedd dosbarth a chartrefi ar hyd a lled Cymru.
Archwilio’r adnoddau ar HwbMae’r gwaith hwn yn rhan o’n cenhadaeth i ehangu mynediad at adnoddau addysgol dwyieithog yn sylweddol ar draws y wlad er mwyn cefnogi’r cwricwlwm newydd a’r cymwysterau Gwneud-i-Gymru.
Chwilio am ragor o adnoddau Ton 1?
Mae dros 300 o adnoddau digidol dwyieithog am ddim – ar gyfer 14 o bynciau – ar wefan CBAC.
Eisiau’r wybodaeth ddiweddaraf gennym?
Cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr cymunedol i gael rhagor o wybodaeth am ein hadnoddau a sut rydyn ni’n helpu athrawon a dysgwyr i bontio i’r TGAU Gwneud-i-Gymru newydd.