Cwmpasu’r Dirwedd Adnoddau Addysgol Dwyieithog ar gyfer Adnodd
- Cyhoeddwyd yn wreiddiol:
- Diweddarwyd ddiwethaf:
Dogfennau
-
PDF
Adnodd-Miller Report-WelshPDF 231.75 KBEfallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.Cais am fformat gwahanol.

Er mwyn llywio ein hymagwedd, fe wnaethom gomisiynu astudiaeth ymchwil fanwl yn gynharach eleni i gasglu adborth gan randdeiliaid allweddol ar ein prosesau comisiynu a sicrhau ansawdd.
Mae’r adroddiad yn edrych ar eu barn ar y prosesau presennol ac yn amlygu meysydd i’w gwella, yn enwedig o ran y Cwricwlwm newydd i Gymru. Bydd yr ymchwil hwn yn ein helpu i sicrhau bod ein hadnoddau yn cyd-fynd ag anghenion esblygol addysgwyr a dysgwyr ar draws Cymru.
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau allweddol ymchwil a gynhaliwyd gan Miller Research a Four Cymru ar ran Adnodd. Mae’n archwilio’r dirwedd bresennol o adnoddau addysgol dwyieithog a chyfrwng Cymraeg sydd ar gael i ddysgwyr 3 i 19 oed yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar anghenion sy’n codi o’r Cwricwlwm newydd i Gymru a chymwysterau cenedlaethol cysylltiedig.
Mae hefyd yn cynnwys argymhellion ar gyfer gwella argaeledd adnoddau, ansawdd, a hygyrchedd, ac mae’n amlinellu gweledigaeth ar gyfer rôl Adnodd wrth gydlynu datblygiad adnoddau addysgol yng Nghymru yn y dyfodol.