Newyddion
Fideo: Y Prif Weinidog yn lansio strategaeth newydd Adnodd
Croesawodd Adnodd Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, i lansio Strategaeth Adnodd 2025–28 yn ffurfiol yn Eisteddfod yr Urdd eleni.Wrth siarad yn y digwyddiad, pwysleisiodd y Prif Weinidog bwysigrwydd cyflawni’r strategaeth. Cydnabu’r cyfle unigryw y mae’n ei gyflwyno i sicrhau bod adnoddau addysgol o ansawdd uchel ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae strategaeth newydd Adnodd yn nodi ein huchelgais hirdymor ar gyfer creu, datblygu a rhannu adnoddau addysgol dwyieithog sy’n cefnogi ac yn ysbrydoli dysgu ac addysgu’r Cwricwlwm i Gymru.