Datganiad i’r wasg: Adnodd yn dyfarnu £50,000 i ddeg prosiect arloesol a chydweithredol ledled Cymru
Mae deg prosiect addysg greadigol ledled Cymru wedi cael cyllid gan Adnodd i archwilio dulliau newydd o ddatblygu adnoddau addysgol. Daw'r cyllid o Gronfa Arloesi a Chydweithio newydd gwerth £50,000, sydd wedi'i dylunio i sbarduno syniadau beiddgar i gefnogi'r Cwricwlwm i Gymru.
Mae Adnodd – y corff sy’n gyfrifol am arwain a chydlynu adnoddau addysgol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru – wedi cyhoeddi deg derbynwr cyntaf y Gronfa Arloesi a Chydweithio. Bydd pob un yn cael £5,000 i archwilio cyd-greu adnoddau cynhwysol, llawn dychymyg sy’n adlewyrchu’r blaenoriaethau cenedlaethol sef llythrennedd, tegwch a gwrth-hiliaeth, a llesiant.
Bydd y prosiectau llwyddiannus yn rhedeg o fis Gorffennaf i fis Hydref 2025, gyda’r opsiwn i wneud cais am ragor o gyllid datblygu yn hwyrach yn y flwyddyn. Maen nhw’n cynnwys gweithdai rhyngweithiol, offer digidol creadigol, apiau dwyieithog ac adrodd straeon dan arweiniad y gymuned.
Nod y Gronfa Arloesi a Chydweithio, gafodd ei lansio i gyd-fynd â blaenoriaethau strategol Adnodd, yw grymuso ymarferwyr, gweithwyr llawrydd a sefydliadau i gyd-greu adnoddau addysgol cynhwysol, effeithiol, llawn dychymyg sy’n cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru. Yn ogystal â mynd i’r afael â blaenoriaethau cenedlaethol, mae’r prosiectau hefyd yn hybu dwyieithrwydd, creadigrwydd a dysgu dan arweiniad y gymuned.
Dathlu arloesedd ym Myd Addysg Cymru
O adrodd straeon drwy dechnoleg ymgolli a llythrennedd emosiynol i adnoddau tegwch drwy AI a gweithdai gwyddoniaeth greadigol ar gyfer dysgwyr sy’n fewnfudwyr, mae’r deg prosiect llwyddiannus yn cynrychioli trawsdoriad amrywiol a chyffrous o dirwedd addysgol Cymru.
Dyma’r prosiectau llwyddiannus:
- Cynrychioli.me gan AIMAITES Ltd: Adnodd AI dwyieithog sy’n helpu dysgwyr i ddatgelu rhagfarn mewn algorithmau ac archwilio tegwch drwy ddosbarthu delweddau.
- Llywio Perthyn gan Athronydd Research and Consulting: Adrodd straeon drwy dechnoleg ymgolli i gefnogi llesiant emosiynol bechgyn a herio stereoteipiau ynghylch gwrywdod a hil.
- Mae gwyddoniaeth yn perthyn i bawb gan Zaina Aljumma ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Abertawe: Gweithdai gwyddoniaeth dwyieithog ar gyfer plant sydd wedi gorfod mudo, gan hybu cynhwysiant, hyder a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Ap y Gwyrthiau gan Connor Allen a Sugar Creative: Trawsnewid barddoniaeth plant yn ap llesiant dwyieithog i gefnogi mynegiant emosiynol a chreadigrwydd.
- Be Nesa? gan Wes Glei: Cyd-ddatblygu ffilmiau gwrth-fwlio rhyngweithiol sy’n canolbwyntio ar wrth-hiliaeth, gyda dysgwyr ac ymarferwyr ledled Cymru.
- Straeon Byw gan Goiawn Ltd: Grymuso plant i greu dramâu wedi’u hanimeiddio sy’n archwilio tegwch, empathi a gwydnwch emosiynol.
- Chwarae Mawr / Chwarae Bach gan Yr Egin: Edrych ar sut mae chwarae strwythuredig a rhydd yn meithrin meddwl yn greadigol a llesiant ym maes dysgu sylfaen.
- Rho Le i’th Lais gan Hyfforddi Sioned Roberts: Datblygu adnoddau llythrennedd emosiynol dwyieithog i helpu disgyblion cynradd i enwi a rheoli eu teimladau.
- Cyd-Chwarae gan Academy Arts: Defnyddio drama a dawns dwyieithog i wreiddio’r Gymraeg mewn profiadau mynegiannol, dydd i ddydd.
- Dihangfan Llyfr-Gell gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru: Dylunio dihangfan ddigidol i ennyn diddordeb pobl ifanc 13-15 oed mewn llythrennedd drwy hanes a diwylliant Cymru.
Dull newydd o gydweithio ym maes addysg
Wrth fyfyrio ar y prosiectau llwyddiannus, dywedodd Emyr George, Prif Swyddog Gweithredol Adnodd:
“Mae mwy i’r gronfa yma na chomisiynu adnoddau – un o’r hanfodion yw buddsoddi mewn amser pobl i fod yn greadigol, yn gydweithredol ac i groesawu dysgu drwy arbrofi a gwneud camgymeriadau. Mae’r deg prosiect yma’n adlewyrchu’r syniadau mentrus, yr amrywiaeth a’r creadigrwydd ry’n ni’n awyddus i’w cefnogi mewn addysg ar hyd a lled Cymru.”
Bydd pob prosiect yn cyflwyno adroddiad myfyriol ar ddiwedd Cam 1. Bydd prosiectau dethol wedyn yn cael eu gwahodd i wneud cais am ragor o gyllid i ddatblygu adnoddau dwyieithog ar raddfa lawn i’w defnyddio mewn ysgolion
Cafodd Adnodd 64 o geisiadau i’r Gronfa Arloesi a Chydweithio. Cafodd y rhain eu hasesu gan banel o 12 arbenigwr a oedd wedi gweithio’n agos gyda thîm Comisiynu ac Ansawdd Adnodd, ac roedd eu harbenigedd wedi dylanwadu ar y penderfyniad terfynol a’r dyfarniadau.
Bydd yr holl adnoddau terfynol yn ddwyieithog, am ddim i’w defnyddio, ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Cymraeg 2050, Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.