Newyddion: Ysgolion yng Nghymru yn derbyn miloedd o lyfrau am ddim drwy brosiect Rhyngom
Bydd ysgolion ledled Cymru yn cael 49,000 o lyfrau am ddim yng ngham olaf prosiect Rhyngom, sy’n cael ei gefnogi gan Adnodd.
Prosiect tair blynedd yw Rhyngom, sydd â’r nod o gyhoeddi mwy o lyfrau darllen ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n dathlu ac yn hyrwyddo amrywiaeth. Mae’n cael ei ddarparu gan Gyngor Llyfrau Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac Adnodd.
Dathlu straeon a lleisiau o bob cymuned
Ers 2022, mae Rhyngom wedi cefnogi’r gwaith o greu 20 o lyfrau gwreiddiol newydd sbon yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn ogystal â 28 o addasiadau Cymraeg o lyfrau Saesneg sy’n bodoli eisoes. Nod y llyfrau yw adlewyrchu amrywiaeth Cymru heddiw a sicrhau bod darllenwyr ifanc yn gallu gweld eu hunain a’u profiadau yn cael eu hadlewyrchu yn yr hyn maen nhw’n ei ddarllen.
Mae’r llyfrau gwreiddiol a gomisiynwyd yn arbennig yn cynnwys gwaith gan bobl sy’n awduron am y tro cyntaf, ac awduron sydd wedi ennill gwobrau. Mae’r llyfrau sydd wedi’u haddasu yn cynnwys straeon adnabyddus fel Windrush Child gan Benjamin Zephaniah (Un o Blant y Windrush, wedi’i addasu/ei gyfieithu gan Rhys Iorwerth), a Boys Don’t Cry gan Malorie Blackman (Gormod o Ddyn, wedi’i addasu/ei gyfieithu gan Manon Steffan Ros).
Llyfrau am ddim i ysgolion ledled Cymru
Fel cam olaf y prosiect, bydd pob ysgol gynradd ac uwchradd wladol yng Nghymru yn derbyn copïau am ddim o’r llyfrau Rhyngom y tymor hwn, sef cyfanswm o 49,000 o lyfrau yn cyrraedd 1,474 o ysgolion ledled y wlad. Mae pob bocs o lyfrau hefyd yn cynnwys adnoddau addysgol sy’n helpu athrawon a dysgwyr i archwilio themâu’r straeon yn fanylach.
Roedd disgyblion yn Ysgol Hamadryad yng Nghaerdydd ymhlith y cyntaf i dderbyn eu llyfrau yn ystod ymweliad arbennig gan yr awdur Rebecca Wilson, a arweiniodd weithdy creadigol yn seiliedig ar ei llyfr Gŵyl y Gaeaf / The Winter Festival. Ymunodd Emyr George, Prif Weithredwr Adnodd, â’r sesiwn, yn ogystal â chynrychiolwyr o Gyngor Llyfrau Cymru.
Partneriaeth ar gyfer cynhwysiant a chreadigrwydd
Mae prosiect Rhyngom wedi gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau gan gynnwys Hanes Pobl Ddu Cymru, Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol (DARPL), Anabledd Cymru, Cyngor Hil Cymru, Cwmni Diwylliannol a Chelfyddydol Romani, a Stonewall Cymru. Cyfrannodd pob un eu harbenigedd i sicrhau bod y llyfrau a’r adnoddau’n adlewyrchu profiadau a chymunedau amrywiol Cymru.
“Yn Adnodd, rydyn ni’n falch o fod wedi cefnogi prosiect Rhyngom,” meddai’r Prif Weithredwr, Emyr George. “Mae’r llyfrau hyn yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru heddiw ac yn cynnig straeon i ddysgwyr y gallant weld eu hunain ynddynt, boed hynny drwy iaith, diwylliant, profiad neu hunaniaeth. Pan fydd dysgwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gweld, maen nhw’n ymgysylltu’n ddyfnach â’u dysgu. A phan fydd gan athrawon adnoddau cynhwysol o ansawdd uchel, gallant sbarduno sgyrsiau pwerus yn yr ystafell ddosbarth, ar iard yr ysgol, a’r tu hwnt.”
Mae Adnodd hefyd wedi comisiynu adnoddau addysgol i gyd-fynd â phob un o’r 48 o lyfrau ym mhrosiect Rhyngom, yn ogystal â fideos o’r awduron yn siarad am eu llyfrau. Mae llawer o’r rhain ar gael am ddim ar Hwb ar hyn o bryd, gyda mwy i ddod yn ystod tymor yr hydref 2025.
Mae pob llyfr gan Rhyngom ar gael i’w prynu o siopau llyfrau lleol. Gallwch hefyd weld y rhestr lawn o lyfrau, a dysgu mwy am y prosiect ar wefan Cyngor Llyfrau Cymru.