Neidio i'r prif gynnwy
English
Sbotolau

Sbotolau: Cydweithio ar gyfer yr adnoddau gorau

Dyma Lowri, athrawes gysylltiol yn ei thrydedd flwyddyn o Brifysgol Bangor, wrth iddi fyfyrio ar ei phrofiad o dreialu adnoddau.

Stori Lowri

Cydweithio ar gyfer yr adnoddau gorau

Gwyliwch y fideo hwn ar YouTube

Sut ydym ni’n sicrhau bod adnoddau’n wirioneddol berthnasol yn yr ystafell ddosbarth?

Fel rhan o brosiect peilot cyffrous gyda rhaglenni BA Addysg Gynradd gyda Statws Athro Cymwysedig (SAC) ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, bu i Adnodd wahodd athrawon cysylltiol i fod yn rhan o’r broses sicrhau ansawdd trwy brofi a threialu deunyddiau drafft a chynnig adborth ar adnoddau mewn datblygiad.

Dyma Lowri, athrawes gysylltiol yn ei thrydedd flwyddyn o Brifysgol Bangor. Cymerodd ran yn y peilot trwy dreialu 24 Awr Newidiodd Gymru, adnodd a gomisiynwyd gan Adnodd ac a ddatblygwyd gan Atebol.

Yn y flog fideo hwn, mae Lowri yn myfyrio ar y profiad — o’r hyn a ddysgodd, i sut y rhoddodd hwb i’w datblygiad proffesiynol a llunio ei haddysgu. Bydd Lowri yn cychwyn swydd newydd fel athrawes yn ardal Wrecsam fis Medi; mae’n grediniol fod cymryd rhan yn y prosiect yma wedi rhoi mantais iddi wrth ymgeisio am y swydd.

Mae’r math hwn o gydweithio yn dangos sut y gall cynnwys athrawon y dyfodol arwain at greu adnoddau gwell sy’n fwy perthnasol.

Gwyliwch y flog fideo i glywed stori Lowri.