Neidio i'r prif gynnwy
English
Adnodd

Sbotolau: Prawf darllen digidol Cymraeg nawr yn fyw ar Hwb

Gall ysgolion cyfrwng Cymraeg bellach gael mynediad i brawf darllen hawdd ei ddefnyddio ar-lein. Mae’n cefnogi ymarferwyr i fonitro cynnydd a chael mynediad at ganlyniadau safonol mewn clic.
Reading test screen: “Does dim cathod yn y sw.” Shows 0/6 errors. “Next” button and cartoon animal at top of page. Sgrin prawf darllen: “Does dim cathod yn y sw.” Dangosir 0/6 camgymeriadau. Botwm “Nesaf” ac anifail cartŵn ar frig y dudalen.

Mae fersiwn digidol newydd o brawf darllen poblogaidd Cymraeg bellach ar gael ar Hwb, gan helpu ymarferwyr i olrhain cynnydd darllen yn gyflym ac yn effeithiol ar draws Blynyddoedd 1 i 11.

Cliciwch y botwm isod i gael mynediad at yr adnodd.

Gweld yr adnodd

Wedi’i gomisiynu’n wreiddiol gan Gonsortiwm Canolbarth y De, un o bedwar corff gwella ysgolion rhanbarthol Cymru, datblygwyd y prawf gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae eisoes wedi’i lawrlwytho fwy na 7,000 o weithiau.

Dod ag adnodd dibynadwy i’r oes ddigidol

Diolch i gydweithrediad â Darllen Co, platfform llyfrau darllen digidol Cymraeg, mae’r prawf ar gael ar-lein i gefnogi defnydd haws yn yr ystafell ddosbarth.

Mae’r platfform yn caniatáu i ymarferwyr:

  • Fewnbynnu sgoriau dysgwyr yn uniongyrchol
  • Gael mynediad at ganlyniadau safonol ar unwaith
  • Tracio cynnydd gan ddefnyddio dwy ffurflen brawf ar wahanol adegau yn y flwyddyn.

Yn seiliedig ar ddata gan dros 760 o ddysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, mae’r prawf yn cynnig ffordd ddibynadwy a hygyrch o gefnogi datblygiad darllen.

Screen showing a code to connect with a teacher: “R99LYR” and a QR code. Text says “Connect with your teacher.” Sgrin gyda chod i gysylltu ag athro: “R99LYR” a chod QR. Testun yn dweud “Cysylltwch â’ch athro.”

Draw atoch chi

Mae’r gwaith yn parhau, ac mae’r tîm bellach yn:

  • Casglu adborth gan y rhai sy’n defnyddio’r profion.
  • Gwahodd ymarferwyr i gymryd rhan yng nghyfnod nesaf y safoni.

Cliciwch y botwm isodi rannu eich adborth ar y profion, neu i fynegi eich diddordeb i fod yn rhan o’r broses safoni ehangach. Gorau po fwyaf all helpu gyda’r safoni, gan y bydd mwy o fewnbwn yn helpu i wella’r adnodd a chefnogi datblygiad data oedranau darllen, gan ddarparu oedrannau darllen mwy manwl ar gfer dysgwyr yn y dyfodol.

Rhannu eich adborth