Neidio i'r prif gynnwy
English

Ymchwil: Sut mae pobl yn dod o hyd i adnoddau addysgol yng Nghymru ac yn eu defnyddio

Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd gan Adnodd yn archwilio sut mae ymarferwyr, rhieni a gofalwyr ledled Cymru yn chwilio am, yn defnyddio, ac yn addasu adnoddau addysgol.
  • Cyhoeddwyd yn wreiddiol:
  • Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Wedi’i chynnal gan Miller Research rhwng Rhagfyr 2024 a Mawrth 2025, mae’r ymchwil yn cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i helpu i lunio dyfodol adnoddau dwyieithog sy’n cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru.

Deall profiadau bywyd go iawn

Nod yr ymchwil yw deall realiti bob dydd cyrchu a defnyddio adnoddau addysgol, yn enwedig o fewn cyd destun y Cwricwlwm i Gymru. Edrychodd ar leoliadau cyfrwng Cymraeg a Saesneg, gan ddefnyddio cymysgedd o arolygon, grwpiau ffocws a phrofion defnyddioldeb.

Gofynnwyd i gyfranogwyr sut a ble maen nhw’n chwilio am adnoddau, sut maen nhw’n eu haddasu, a beth sy’n eu rhwystro rhag manteisio i’r eithaf ar ddeunyddiau o ansawdd uchel.

Canfyddiadau’r ymchwil

Dyma rai o brif ganfyddiadau’r ymchwil: 

  • Mae addasu yn arferol: Anaml y mae’r rhan fwyaf o ymarferwyr yn defnyddio adnoddau yn union fel y’u darperir. Yn aml, maen nhw’n addasu cynnwys ar gyfer gallu, iaith, neu gyd-destun — gan gyfieithu i’r Gymraeg neu deilwra i anghenion penodol dysgwyr.
  • Mae amser a mynediad yn rhwystrau: Mae llawer o ymarferwyr yn dibynnu ar eu hamser eu hunain i ddod o hyd i adnoddau neu eu golygu. Roedd bylchau mewn cynnwys Cymraeg a’r cymhlethdod o lywio gwahanol lwyfannau yn bryder mawr.
  • Mae angen offer syml, dibynadwy ar rieni: Mae rhieni a gofalwyr yn gweld gwerth i adnoddau sy’n gysylltiedig a’r hyn sy’n cael ei ddysgu yn yr ysgol, a’u bod nhw’n hawdd i’w, yn enwedig os nad ydynt yn siarad Cymraeg. defnyddio
  • Mae Hwb yn cael ei werthfawrogi ond ei danddefnyddio: ra’n cael ei weld fel ffynhonnell ddibynadwy o gynnwys swyddogol, nid yw Hwb yn cael ei ddefnyddio’n helaeth fel lle i ddarganfod a chwilio am adnoddau o ddydd i ddydd. Mae defnyddwyr am ei weld yn blatfform sy’n fwy chwiliadwy, personol, a deinamig.

Argymhellion yr ymchwil

Mae canfyddiadau’r ymchwil yn argymell sawl ffordd y gall Hwb a chomisiynwyr adnoddau fel Adnodd ddiwallu anghenion defnyddwyr yn well

  • Gwneud yr holl adnoddau’n ddwyieithog ac yn hawdd eu teilwra.
  • Gwella swyddogaethau chwilio a sut y caiff adnoddau eu trefnu.
  • Annog cyfleoedd i gydweithio a rhannu rhwng cyfoedion.
  • Cynnig cefnogaeth gliriach i rieni, yn enwedig yng nghyd-destun y Gymraeg.

Beth nesaf

Mae Adnodd eisoes yn defnyddio’r canfyddiadau hyn i lywio ei strategaeth a llunio datblygiad pellach o’r llwyfan Hwb. Byddwn yn parhau i gydweithio â rhanddeiliaid i sicrhau bod ein gwaith wedi’i seilio ar anghenion bywyd go iawn. 

Drwy wrando ar y bobl sy’n defnyddio adnoddau bob dydd, rydym yn gweithio i adeiladu system fwy hygyrch, cynhwysol ac effeithiol — gan gefnogi dysgwyr, addysgwyr a theuluoedd ledled Cymru.

Gallwch ddarllen crynodeb o’r canfyddiadau yma. I ofyn am gopi o’r adroddiad llawn gallwch cysylltu ag Adnodd.

Cwrdd â’r saith cymeriad archeteip

Mae’r ymchwil hefyd yn nodi saith cymeriad, wedi’u seilio ar brofiadau go iawn o sut mae addysgwyr, rhieni a gofalwyr yng Nghymru yn ymgysylltu ag adnoddau addysg. Cliciwch y botwm isod i ddysgu mwy a chwrdd â’r saith cymeriad archeteip.

Darganfod mwy