Dychmygwyr y Cyfryngau Cymdeithasol

Mae Dychmygwyr y Cyfryngau Cymdeithasol yn defnyddio platfformau fel Pinterest, Instagram a Facebook i greu syniadau am wersi newydd a gafaelgar neu i greu adnoddau ar gyfer eu myfyrwyr.
Yn nodweddiadol maen nhw’n:
- Hoff o archwilio ac arbrofi.
- Creu profiadau fel math o adnodd.
- Hyderus yn ddigidol.
- Agored i arweiniad, ysbrydoliaeth a syniadau gan ymarferwyr eraill i wella eu harferion dysgu.
Eu hadnoddau arferol
Mae Dychmygwyr y Cyfryngau Cymdeithasol yn ymarferwyr sydd â chysylltiadau da ac sy’n dibynnu’n drwm ar rwydweithiau cymdeithasol a chymunedau ar-lein i ysbrydoli, i gadw’n gyfredol ac i rannu arferion da. Maen nhw’n ystyried platfformau fel Instagram, grwpiau Facebook, Pinterest, TikTok ac X (Twitter) yn elfennau allweddol o’u taith i ddarganfod adnoddau – ac yn aml yn eu gwerthfawrogi i’r un graddau â platfformau ffurfiol fel Hwb neu Twinkl, neu’n eu ffafrio dros y rheini, hyd yn oed.
Yn hytrach na chwilio am adnoddau statig, maen nhw’n chwilio am syniadau, am ffyrdd o ddechrau gwersi, ac am enghreifftiau o’r hyn sydd wedi gweithio mewn dosbarthiadau eraill. Maen nhw’n cael eu cymell gan gynnwys sy’n ffres, yn weledol ac yn afaelgar – gan ffafrio teithiau tywys ar fideos, syniadau cryno, ac arddangosfeydd esthetig dros lyfrgelloedd adnoddau ffurfiol.
Er bod Hwb, TES, Twinkl a BBC Teach yn dal yn rhan o’u pecyn gwaith, caiff y platfformau hyn eu defnyddio i ategu neu adeiladu ar y syniadau y maen nhw wedi’u darganfod ar y cyfryngau cymdeithasol.
Roedd y platfformau cyffredin y cyfeiriwyd atyn nhw’n cynnwys:
- Instagram (athrawon yn rhannu arddangosfeydd, gweithgareddau a syniadau o’r dosbarth).
- Pinterest (ysbrydoliaeth weledol ar gyfer gwersi).
- Grwpiau Facebook (rhannu adnoddau cymunedol a datrys problemau).
- TikTok (syniadau creadigol a sut i ennyn diddordeb dysgwyr).
- Twitter/X (rhwydweithiau dysgu proffesiynol a dolenni i flogiau/adnoddau).
Heriau cyffredin
Yr her fwyaf i Ddychmygwyr y Cyfryngau Cymdeithasol yw trosi ysbrydoliaeth yn adnoddau ymarferol sy’n barod ar gyfer y dosbarth. Syniadau yw llawer o’r cynnwys sy’n cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, yn hytrach nag adnoddau sy’n ddefnyddiol ar unwaith. Mae hynny’n golygu bod angen amser ac arbenigedd sylweddol i’w haddasu ar gyfer eu dysgwyr, y cyd-destun neu ofynion y cwricwlwm.
Disgrifiwyd y rhwystredigaeth o fynd i dyrchu’n ddiddiwedd – colli amser wrth sgrolio’n ddi-ben-draw neu neidio rhwng apiau a phlatfformau yn chwilio am rywbeth addas. Mae hi hefyd yn anodd llywio drwy’r swmp enfawr o gynnwys sydd ar gael ar-lein, yn ogystal â delio â’r ansawdd amrywiol, y diffyg cysylltiad â’r Cwricwlwm i Gymru, a’r prinder adnoddau dwyieithog neu gyfrwng Cymraeg.
Ymhlith heriau eraill mae:
- Diffyg fersiynau y gellir eu golygu o adnoddau ar-lein.
- Anwybodaeth am hawlfraint neu ganiatâd i addasu cynnwys.
- Anhawster wrth drosi syniadau cyfrwng Saesneg i gyd-destun y Gymraeg neu’r cwricwlwm.
- Dod o hyd i syniadau o ansawdd da sy’n cefnogi ethos y Cwricwlwm i Gymru.
- Pwysau i ddilyn y tueddiadau diweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol, a’r rheini’n gallu newid yn gyflym.
Cyfleoedd ac argymhellion
Er mwyn cefnogi Dychmygwyr y Cyfryngau Cymdeithasol yn well, dylai platfformau adnoddau ganfod ysbrydoliaeth yn fformatau’r cynnwys, yn y dulliau darganfod, ac yn y dulliau rhannu cymunedol sy’n nodweddiadol o’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’r defnyddwyr hyn yn gwerthfawrogi platfformau sy’n teimlo’n ddynamig, yn greadigol ac yn ddynol – nid fel llyfrgelloedd statig.
Mae’r argymhellion yn cynnwys:
- Byrddau ysbrydoliaeth neu ffrydiau syniadau (yn debyg i gynlluniau Pinterest neu Instagram).
- Amlygu syniadau o’r dosbarth sy’n dymhorol neu’n dilyn y tueddiadau diweddaraf.
- Creu templedi hyblyg sy’n weledol ac yn hawdd eu haddasu.
- Cynnig pecynnau adnoddau y gellir eu personoli ar unwaith (ffontiau, iaith, delweddau).
- Fideos esboniadol neu gynnwys ar ffurf stori sy’n dangos adnodd ar waith.
- Nodweddion i gadw, pinio neu ddilyn crewyr penodol o fewn platfform.
- Arddangos enghreifftiau Cymraeg neu addasiadau dwyieithog.
- Datblygu systemau chwilio sy’n blaenoriaethu themâu fel ennyn diddordeb, creadigrwydd a rhyngweithio.
- Darparu canllawiau am arferion da i addasu adnoddau’n foesegol o’r cyfryngau cymdeithasol o fewn cyd-destun y Cwricwlw