Neidio i'r prif gynnwy
English

Ein proses gomisiynu

Dysgwch sut mae Adnodd yn comisiynu adnoddau — a sut allwch chi gymryd rhan.

Ein dull o gomisiynu

Mae penderfyniadau ynghylch beth i’w gomisiynu yn cael eu gyrru gan dystiolaeth: rydym yn nodi bylchau yn y ddarpariaeth, yn dadansoddi sut mae adnoddau presennol yn cael eu defnyddio, ac yn asesu a ydynt yn diwallu anghenion dysgwyr. Ein nod yw cadw adnoddau’n berthnasol, yn gynhwysol, ac yn hygyrch — nawr ac yn y dyfodol.

Llun o liniadur ar ddesg yn dangos gwefan GwerthwchGymru. Mae’r sgrin yn dangos tudalen Gymraeg ar gyfer dod o hyd i gyfleoedd contract sector cyhoeddus yng Nghymru, gyda hidlwyr chwilio a blwch chwilio mawr coch. Photograph of a laptop on a desk displaying the GwerthwchGymru website. The screen shows a Welsh-language page for finding public sector contract opportunities in Wales, with search filters and a large red search box.

Sut rydym yn comisiynu

Trwy rowndiau comisiynu rheolaidd a chyfleoedd ariannu wedi’u targedu, rydym yn gweithio gyda chyflenwyr dibynadwy i greu adnoddau dwyieithog sy’n cyd-fynd ag anghenion dysgwyr ac addysgwyr ledled Cymru.

Mae pob cyfle yn cael ei lunio gan adborth gan y sector addysg ac yn cael ei lywio gan ymchwil. Mae hyn yn sicrhau bod ein gwaith comisiynu yn cefnogi dysgu ac addysgu’n uniongyrchol.

Cyhoeddir cyfleoedd yn adran Gomisiynu gwefan Adnodd.

I gyflwyno cynnig, rhaid i gyflenwyr wneud cais trwy wefan GwerthwchiGymru. Mae mwy o fanylion ar gael yn y trosolwg ar y dudalen hon.

Gyda phwy rydym yn gweithio

Rydym yn croesawu cynigion gan ystod eang o unigolion a sefydliadau — gan gynnwys cyhoeddwyr, cwmnïau cynhyrchu, gweithwyr llawrydd, arbenigwyr pwnc, a thimau creadigol.

Rhaid i bob ymgeisydd ddangos dealltwriaeth o anghenion dysgwyr ar draws ystod o gyd-destunau, gan gynnwys lleoliadau cyfrwng Cymraeg a dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Mae ein hymchwil yn dangos bod defnyddwyr eisiau deunyddiau sy’n hawdd eu canfod, eu defnyddio a’u haddasu — mae hyn i fod yn ystyriaeth allweddol ym mhob comisiwn.

Rydym hefyd yn cefnogi modelau ariannu newydd a chreadigol sy’n annog cydweithio ac arloesedd wrth ddatblygu adnoddau.

Blaenoriaethau comisiynu

Ar gyfer 2025/26, bydd Adnodd yn blaenoriaethu datblygu adnoddau yn y meysydd canlynol:

  • Llythrennedd
  • Rhifedd
  • Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
  • Iechyd a Llesiant

Rydym yn croesawu prosiectau ar gyfer dysgwyr blynyddoedd cynnar, cynradd, uwchradd, ac ôl-16 galwedigaethol, gan gynnwys dysgwyr ag ADY — yn enwedig y rhai â nam ar eu golwg neu eu clyw.

Dylai pob prosiect gyd-fynd ag o leiaf un o feysydd ffocws strategol trawsbynciol Adnodd: llythrennedd, ecwiti a gwrth-hiliaeth, a llesiant. Am ragor o wybodaeth, gweler ein strategaeth 2025–2028.

Cyhoeddir cyfleoedd comisiynu a chyllido drwy gydol y flwyddyn.

Ymunwch â’n cymuned i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Sicrwydd ansawdd

Rydym yn datblygu fframwaith sicrhau ansawdd cadarn, wedi’i greu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid, i sicrhau bod pob adnodd yn bodloni safonau uchel.

Bydd y fframwaith hwn yn canolbwyntio ar addasrwydd at y diben, cynhwysiant, a chynrychiolaeth profiadau amrywiol. Bydd ansawdd bob amser yn cael blaenoriaeth dros nifer.

Efallai y byddwn hefyd yn cefnogi gwella adnoddau presennol — ar yr amod y gallent gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru yn effeithiol.

Trosolwg o GwerthwchiGymru

Cyhoeddir pob cyfle comisiynu gan Adnodd ar GwerthwchiGymru, y platfform ar gyfer contractau sector cyhoeddus yng Nghymru.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn creu cyfrif GwerthwchiGymru ac yn ymgyfarwyddo â’r platfform.