Neidio i'r prif gynnwy
English

Y Fforwyr Ffyddlon

Illustration of a young person wearing a cap and backpack, holding an illustrated map of stars and constellations. The backpack is filled with school supplies, and the person looks ahead with curiosity. Darlun o berson ifanc yn gwisgo cap a bag cefn, yn dal map wedi’i addurno gyda sêr a chytserau. Mae’r bag cefn yn llawn deunyddiau ysgol, ac mae’r person yn edrych ymlaen yn chwilfrydig.

Mae Fforwyr Ffyddlon yn hynod deyrngar i’w hoff blatfformau, ac wedi dod yn gyfarwydd â’u defnyddio dros amser.

Maen nhw’n aml:

  • Yn ffafrio un platfform fel eu prif ffynhonnell o adnoddau.
  • Wedi mabwysiadu’r platfform ar sail angen penodol, e.e. yr angen am adnoddau sy’n hawdd eu haddasu.
  • Yn fwy cyfforddus yn defnyddio adnoddau sy’n “barod i fynd” neu’n gwneud mân addasiadau i adnoddau’n unig.

Eu hadnoddau arferol

Mae’r Fforwyr Ffyddlon yn ymarferol iawn ac yn chwilio am effeithlonrwydd o hyd. Maen nhw’n dibynnu’n fawr ar adnoddau sydd eisoes wedi’u paratoi a’u pecynnu, ac sy’n eu galluogi i gyflwyno cynnwys yn gyflym ac yn effeithiol o fewn fframweithiau amser tynn. Cyd-destun y gwaith sy’n dylanwadu ar sut maen nhw’n defnyddio adnoddau – dosbarthiadau mawr, grwpiau oedran cymysg, amser cynllunio cyfyngedig, ac yn aml, cymorth cyfyngedig. Mae Fforwyr Ffyddlon yn ffafrio adnoddau sy’n barod i’w defnyddio yn y dosbarth, sy’n weledol ddeniadol, ac sydd ar lefel addas i’w dysgwyr.

Er y byddan nhw’n aml yn dewis defnyddio platfform Twinkl, a hynny oherwydd ei lyfrgell swmpus a’r gallu i olygu’r cynnwys, nid dyna’r unig ffynhonnell maen nhw’n ei defnyddio. Mae’r ymarferwyr hyn hefyd yn troi at:

  • Hwb a J2E i gael offer rhyngweithiol a thempledi.
  • BBC Bitesize a BBC Teach i gael fideos byr a gweithgareddau.
  • TES i gael taflenni gwaith a chyflwyniadau y gellir eu lawrlwytho.
  • Canva i gael adnoddau deniadol y gellir eu creu’n gyflym.
  • YouTube i gael cynnwys fideo trawiadol.

Mae’r ymarferwyr hyn eisiau adnoddau sy’n hawdd eu darganfod; sydd wedi’u categoreiddio’n glir fesul pwnc, cam cynnydd, neu thema; ac sydd ar gael mewn fformatau y gellir eu lawrlwytho a’u golygu’n gyflym. Maen nhw hefyd yn gwerthfawrogi adnoddau sy’n cynnwys syniadau ar gyfer gweithgareddau ymarferol neu fersiynau gwahanol ar gyfer gwahanol ddysgwyr.

Heriau cyffredin

Yr her fwyaf i Fforwyr Ffyddlon yw’r tensiwn rhwng ansawdd a chyfleustra. Er bod platfformau fel Twinkl yn arbed amser i ymarferwyr, nid ydyn nhw bob amser yn cyd-fynd yn berffaith â’r Cwricwlwm i Gymru nac wedi’u teilwra i anghenion penodol eu dysgwyr. Mae hyn yn golygu:

  • Gall adnoddau deimlo’n rhy generig neu gallan nhw ffocysu’n ormodol ar Loegr.
  • Mae adnoddau Cymraeg yn aml yn cael eu hystyried o ansawdd is neu’n fwy anodd i’w canfod.
  • Weithiau, dim ond mân newidiadau y mae modd eu gwneud i’r adnoddau hynny y gellir eu golygu.
  • Mae pryder nad yw arweinwyr ysgolion yn hoff o’r ddibyniaeth ar daflenni gwaith sy’n “barod i fynd”, neu bod yr arweinwyr yn teimlo y gall y taflenni hyn lethu creadigrwydd.

Mae heriau hygyrchedd hefyd: yn ystod gweithdai, dywedodd ymarferwyr fod rhai ysgolion neu arweinwyr yn annog athrawon i beidio â defnyddio Twinkl, neu hyd yn oed yn ei wahardd, gan ystyried ei fod yn gwneud i athrawon dorri corneli neu orddibynnu ar daflenni gwaith parod. Soniodd ymarferwyr hefyd am y rhwystredigaeth o orfod talu am sawl tanysgrifiad i blatfformau fel Twinkl, Teachers Pet, Master the Curriculum ac eraill, gan greu costau ychwanegol ond heb i’r rhain bob amser ddarparu cynnwys gwahanol.

Yn olaf, dywedodd ymarferwyr nad yw’r gallu i chwilio bob amser yn ddibynadwy, hyd yn oed ar eu hoff blatfformau. Mae’r problemau sy’n codi’n cynnwys anhawster wrth ddod o hyd i gynnwys penodol, a thagio neu gategoreiddio gwael sy’n gwneud y broses chwilio’n llafurus.

Cyfleoedd ac argymhellion

Er mwyn cefnogi Fforwyr Ffyddlon yn well, dylai platfformau symud y tu hwnt i ddarparu adnoddau parod yn unig, a chanolbwyntio ar leihau rhwystrau wrth ddarganfod, addasu a defnyddio adnoddau yn y dosbarth. Mae’r argymhellion yn cynnwys:

  • Gwella’r gallu i chwilio gyda hidlwyr craffach a thagio gwell.
  • Cynnig fersiynau gwahanol clir o’r un gweithgaredd (e.e. sylfaenol, safonol, her).
  • Mwy o adnoddau Cymraeg o ansawdd uchel, megis cynnwys diwylliannol perthnasol, sy’n mynd gam ymhellach na chyfieithiadau gair am air.
  • Darparu adnoddau y gellir eu golygu mewn fformatau amrywiol (Google Docs, Word, PowerPoint).
  • Creu pecynnau tymhorol neu thematig sy’n cyd-fynd â chalendr ysgolion (e.e. pecynnau Dydd Gŵyl Dewi, syniadau ar gyfer Wythnos Eco).
  • Sicrhau bod gan adnoddau ganllawiau clir sy’n dangos sut i’w defnyddio, neu eu bod yn rhoi awgrym clir o’r deilliannau dysgu er mwyn arbed amser i athrawon.
  • Cynnwys offer syml i osod adnoddau fel “ffefrynnau” neu i’w grwpio mewn casgliadau.
  • Cynnig gweithgareddau rhyngweithiol wedi’u creu ymlaen llaw, ochr yn ochr ag adnoddau statig (e.e. cwisiau tebyg i Kahoot, taflenni digidol drwy J2E).

Yn y pen draw, dylai platfformau gael eu hystyried nid yn unig yn gronfeydd data o daflenni gwaith, ond yn fannau canolog sy’n galluogi ymarferwyr i addysgu’n hyblyg, arbed amser, ac ateb anghenion dysgwyr mewn tirwedd addysgol sy’n newid yn gyflym.

Astudiaeth achos – Y Fforwyr Ffyddlon

Mae athro ysgol gynradd mewn ysgol Gymraeg yn cynrychioli’r Fforwyr Ffyddlon: addysgwyr sydd wedi dod yn gyfarwydd iawn ag un platfform adnoddau dros gyfnod o amser, ac sy’n deyrngar iawn iddo. I’r athro yma, Twinkl yw’r platfform hwnnw.

Er y bydd yr athro’n addasu adnoddau pan fo angen, Twinkl yw’r man cychwyn bron bob amser. Mae’r llyfrgell helaeth o ddeunyddiau parod, yr adnoddau y gellir eu golygu, a’r cynnwys Cymraeg yn ffitio’n daclus â gofynion y diwrnod dysgu – yn enwedig wrth addysgu dosbarth oedran cymysg heb lawer o gymorth yn y dosbarth.

Mae teyrngarwch yr athro i frand Twinkl yn deillio o brofiad blaenorol cadarnhaol. Mae’n cofio’r cyfnod pan oedd Twinkl yn blatfform am ddim ac yn ymatebol iawn, a hwnnw’n gallu creu adnoddau’n gyflym ar gais. Dros amser, mae’n golygu bod Twinkl wedi ennill ei blwyf fel platfform arferol yr athro yma, hyd yn oed os nad yw’n berffaith.

Er y bydd yr ymarferydd yn defnyddio platfformau eraill o bryd i’w gilydd (fel Teachers’ Pet, Master the Curriculum ac ati), mae hyn fel arfer pan na fydd Twinkl yn darparu rhywbeth penodol – ac yn aml mae’r platfformau eraill hyn yn gofyn am fwy o ymdrech i’w haddasu.

Wrth gnoi cil am ei brofiadau, roedd yr athro’n glir ynghylch yr hyn a fyddai’n creu platfform adnoddau delfrydol:

  • Y gallu i chwilio yn gryf a greddfol – gan ddangos adnoddau’n ddibynadwy wrth chwilio yn ôl thema, allweddair neu bwnc (heb orfod troi at Google).
  • Mwy o adnoddau y gellir eu golygu – yn enwedig mewn fformat Word neu PowerPoint yn hytrach na PDFs statig.
  • Adnoddau Cymraeg o ansawdd da sydd wedi’u creu’n ofalus, yn hytrach na chyfieithiadau uniongyrchol, sy’n eiriog neu’n annaturiol.
  • Dangosfwrdd personol sy’n cofio hoff bynciau’r athro, lawrlwythiadau diweddar neu ffefrynnau – gan ei helpu i fwrw ati’n gyflym ar ôl gadael a dychwelyd.
  • Strwythur prisio rhesymol sy’n ystyried cyllidebau ysgolion a’r risg o dalu am sawl tanysgrifiad heb ddigon o fanteision.

I’r athro yma, mae platfformau fel Twinkl yn werthfawr dros ben – ond mae awydd clir am ddeunydd sy’n fwy hyblyg, sy’n fwy cydnaws â’r Gymraeg, ac sy’n fwy addas i realiti’r dosbarth cyfoes.