Datganiad hygyrechedd ar ADNODD.LLYW.CYMRU
Mae’r datganiad hygyrchedd yn berthnasol i’r cynnwys ar wasanaethau digidol adnodd.llyw.cymru
Mae’r tudalennau yn egluro pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth, sut i roi gwybod am broblemau a sut i ofyn am wybodaeth mewn fformat arall.
Defnyddio’r wefan hon
Adnodd sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio i ddiwallu’ch anghenion.
Hygyrchedd y wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- nid yw rhai tudalennau a dogfennau sydd wedi’u hatodi wedi’u hysgrifennu’n glir
- nid oes penawdau i’r rhesi mewn rhai tablau
- nid yw rhai penawdau yn gyson
- nid yw teitlau rhai tudalennau yn unigryw
- nid yw rhai labeli yn unigryw
- nid oes testun arall da ar gyfer rhai delweddau
- nid yw’r testun ar gyfer rhai dolenni cyswllt yn disgrifio diben y ddolen
- mae sawl dogfen mewn fformat PDF ac nid ydynt yn hygyrch
Gofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel testun plaen, braille, IAP, print bras, hawdd ei ddarllen neu recordiad sain, cysylltwch â ni drwy un o’r dulliau canlynol:
- e-bost: post@adnodd.llyw.cymru
Bydd angen i chi ddweud y canlynol wrthym:
- cyfeiriad gwe (URL) y wybodaeth sydd ei hangen arnoch
- y fformat yr hoffech ei dderbyn
- pa dechnolegau cynorthwyol a ddefnyddiwch
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi eto cyn pen 15 diwrnod gwaith.
Adrodd am broblemau sy’n gysylltiedig ag hygyrchedd y wefan hon
Rydym yn awyddus bob amser i wella hygyrchedd y wefan. Os byddwch yn ymwybodol o unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os na fyddwch o’r farn ein bod yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â post@adnodd.llyw.cymru.
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Adnodd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.2.
PDF a dogfennau eraill
Dylai dogfennau PDF a dogfennau eraill a gyhoeddwn ar ADNODD.GOV.WALES fod yn gwbl hygyrch.
Fodd bynnag, gwyddom nad yw rhai ohonynt yn hygyrch.
Er enghraifft, mae rhai ohonynt:
- efallai nad ydynt wedi’u marcio mewn ffordd sy’n galluogi defnyddwyr rhaglenni darllen sgrin i’w deall
- efallai nad ydynt wedi’u tagio’n gywir, er enghraifft nid ydynt yn cynnwys penawdau cywir
- efallai na fydd wedi’i ysgrifennu mewn Saesneg clir
Os oes angen i chi gael gwybodaeth sydd yn un o’r mathau hyn o ddogfennau, cysylltwch â ni a gofynnwch am fformat gwahanol.
Llunio’r Datganiad Hygyrchedd hwn
Lluniwyd y datganiad hygyrchedd hwn ar 29 Hydref 2024. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 29 Hydref 2024.