Y Pencampwyr Digidol

Mae Pencampwyr Digidol yn bobl sydd wedi mabwysiadu technoleg newydd yn gynnar, ac maen nhw’n blaenoriaethu rhoi sgiliau digidol i’w dysgwyr. Maen nhw’n hyderus wrth ddefnyddio ac arbrofi â gwahanol dechnoleg, ac yn aml:
- Yn defnyddio offer AI i hwyluso eu gwaith.
- Yn treialu offer a thechnolegau digidol newydd wrth addysgu.
- Yn mabwysiadu dull “digidol yn gyntaf”.
- Yn hyrwyddo defnydd o offer digidol ymhlith cydweithwyr, ffrindiau a theulu.
Eu hadnoddau arferol
Mae Pencampwyr Digidol yn ymarferwyr digidol rhugl, sy’n frwd dros ddefnyddio offer, platfformau a thechnoleg newydd wrth addysgu. I’r athrawon hyn, mae defnyddio adnoddau’n mynd law yn llaw ag archwilio ac arbrofi, gan eu bod yn aml yn bobl sy’n mabwysiadu dulliau digidol newydd yn gynnar.
Maen nhw’n gwerthfawrogi platfformau ac offer sy’n rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ryngweithio, ymwneud â’i gilydd a bod yn annibynnol. Yn aml, maen nhw’n cyfuno sawl ffynhonnell ddigidol i greu amgylcheddau dysgu dynamig ac amlgyfrwng, gan ddefnyddio platfformau fel Hwb (yn enwedig J2E), Canva, Google Suite, YouTube, BBC Bitesize, Kahoot, Blooket, a ChatGPT. Mae offer AI yn arbennig o boblogaidd ar gyfer creu cynnwys yn gyflym neu ar gyfer tasgau fel creu dealltwriaeth, cynhyrchu delweddau, neu ddatblygu geirfa.
Nid ydyn nhw o reidrwydd yn deyrngar i un platfform penodol. Yn hytrach, maen nhw’n chwilio am offer sydd:
- Yn gwella’r gallu i ennyn diddordeb disgyblion a’u cael i gyfrannu.
- Yn galluogi dysgu annibynnol ac ymdeimlad o berchnogaeth.
- Yn hawdd cael gafael arnyn nhw yn y dosbarth.
- Yn ei gwneud hi’n hawdd creu fersiynau gwahanol a phersonoli.
- Yn hwyluso dysgu amlgyfrwng gan ddefnyddio fideos, cwisiau, gemau neu dasgau rhyngweithiol.
Heriau cyffredin
Er eu brwdfrydedd wrth ddefnyddio offer digidol, mae Pencampwyr Digidol yn wynebu rhwystredigaethau penodol ar eu taith adnoddau. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Llywio drwy dirwedd gorlawn o offer a phlatfformau, gan arwain at dyrchu’n ddiddiwedd wrth chwilio am adnoddau penodol.
- Yr amser sydd ei angen i wirio, treialu ac addasu offer newydd, yn enwedig ar gyfer amrywiaeth o alluoedd dysgu.
- Yr anhawster wrth ddod o hyd i adnoddau digidol neu rhyngweithiol drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.
- Materion cydnawsedd wrth drosglwyddo adnoddau rhwng platfformau (e.e. Google a Microsoft).
- Cysylltiad rhyngrwyd anghyson neu brinder dyfeisiau mewn rhai ysgolion.
- Syrffedu ar blatfformau: gorfod mewngofnodi i sawl darn o offer i gyflawni un dasg.
Ceir hefyd her wrth sicrhau bod adnoddau digidol arloesol yn cyd-fynd ag anghenion y cwricwlwm traddodiadol neu ddisgwyliadau uwch reolwyr – yn enwedig pan fo disgwyliad am gynnyrch wedi’i argraffu, fel taflenni gwaith.
Cyfleoedd ac argymhellion
Er mwyn cefnogi Pencampwyr Digidol, dylai platfformau adnoddau gael eu hystyried nid yn unig yn gronfeydd data, ond yn becynnau o offer ar gyfer archwilio digidol a chreadigrwydd. Yn benodol dylid:
- Cynnig casgliadau o adnoddau rhyngweithiol neu adnoddau “digidol yn gyntaf” megis cwisiau , gemau neu dasgau cydweithredol y gellir eu haddasu.
- Ymgorffori offer AI i helpu athrawon i greu neu addasu cynnwys (e.e. generaduron cwisiau AI, creu dealltwriaeth, cynhyrchu delweddau).
- Darparu opsiynau hidlo clir ar gyfer fformatau digidol y gellir eu chwilio fesul math (fideo, cwis, templed), oed darllen neu bwnc.
- Datblygu ffyrdd dirwystr o integreiddio adnoddau â phlatfformau’r dosbarth fel Google Classroom a Teams i leihau’r angen i neidio rhwng systemau.
- Cynnig canllawiau clir neu daith gam wrth gam ar gyfer defnyddio adnoddau digidol yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru – yn enwedig yn yr ysgolion uwchradd.
- Darparu cynnwys gweledol parod, templedi rhyngweithiol ac adnoddau cam wrth gam ar gyfer gwaith annibynnol neu waith grŵp.
- Caniatáu cymunedau i gyfrannu at adnoddau digidol, gan gynnwys adolygiadau, syniadau ar gyfer eu defnyddio yn y dosbarth, ac enghreifftiau o brosiectau dan arweiniad disgyblion.
- Annog modelau ar gyfer defnyddio adnoddau y gellir eu haddasu: adnoddau sy’n gallu symud rhwng dysgu ar-lein annibynnol a chydweithio yn y dosbarth.
Yn y pen draw, mae cefnogi Pencampwyr Digidol yn ymwneud â galluogi hyblygrwydd, arbed amser ac ysbrydoli creadigrwydd – tra’n sicrhau bod offer digidol yn hygyrch ac yn gynhwysol i bob dysgwr.
Astudiaeth achos – Y Pencampwyr Digidol
Mae athro ysgol uwchradd yn enghraifft o’r Pencampwyr Digidol, drwy ei ddefnydd hyderus ac ymarferol o offer digidol yn y dosbarth. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad addysgu mewn pynciau fel TG, Cyfrifiadureg, Seicoleg a’r Fagloriaeth Gymreig, mae’r athro yma wedi ymgolli’n llwyr yn y dirwedd ddigidol.
Mae’n rhagweithiol wrth chwilio am adnoddau ar draws amrywiaeth o blatfformau, gan gynnwys BBC Bitesize, CBAC, a Teach Computing. Mae offer AI fel ChatGPT a Teachmate.AI yn chwarae rhan gynyddol bwysig wrth gynllunio – ac yn cael eu defnyddio i greu syniadau, dod o hyd i ffynonellau cyfredol, neu greu deunyddiau cychwynnol. Serch hynny, er mwyn iddi fod yn werthfawr, mae’r athro’n glir ei farn bod yn rhaid i’r dechnoleg hon ychwanegu’n ystyrlon at ddysgu, yn hytrach na’i bod yn cael ei defnyddio er ei mwyn ei hun yn unig.
Mae addasu’n rhan greiddiol o arferion yr athro. Anaml iawn y bydd yn defnyddio adnoddau fel y maen nhw; mae’n well ganddo eu haddasu i weddu i’w ddysgwyr penodol, y cyd-destun a gofynion y cwricwlwm. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru, yn hytrach na dibynnu ar ddeunyddiau a grëwyd ar gyfer Lloegr.
Mae ei arferion digidol hefyd wedi’u seilio ar ymwybyddiaeth o allgáu digidol – cyfyngedig yw gallu llawer o’i ddysgwyr i ddefnyddio dyfeisiau gartref. Mae hynny’n golygu bod yr offer digidol yn cael ei ddefnyddio yn y dosbarth yn bennaf.
Gan edrych tua’r dyfodol, mae’r athro yma’n gweld gwerth mewn:
- Platfformau cyfunol fel Hwb sy’n dod â’r adnoddau at ei gilydd mewn un lle – ond gan wella’r gallu i chwilio a gwella adnoddau nad ydyn nhw’n hawdd i’w golygu.
- Platfformau sy’n cynnwys mwy o ganllawiau i athrawon.
- Platfformau sy’n caniatáu addasu helaeth ac yn cynnig offer chwilio craff – yn ddelfrydol gyda chymorth AI – a hynny’n arbed amser yn hytrach na’i lyncu.