Neidio i'r prif gynnwy
English
Emyr George

Ymunodd Emyr George ag Adnodd o Cymwysterau Cymru, lle bu’n Gyfarwyddwr Polisi a Diwygio Cymwysterau. Arweiniodd y gwaith o ddatblygu cymwysterau TGAU newydd a gynlluniwyd i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru. Mae gan Emyr dros 15 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn cyrff cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr, gyda hanes cryf o ddod â rhanddeiliaid ynghyd i gyflawni newid parhaol mewn polisi cenedlaethol. Mae’n frwd dros addysg a gweithio gydag eraill i roi’r cyfleoedd gorau posibl i bob dysgwr lwyddo.