Neidio i'r prif gynnwy
English
Kirsty Davies

Kirsty Davies yn ymuno ag Adnodd fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol. Yn flaenorol, fel Pennaeth Gweithrediadau yn yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol – corff cyhoeddus o fewn y sector addysg – goruchwyliodd Kirsty bob agwedd ar swyddogaethau corfforaethol, gan gynnwys cyllid, adnoddau dynol, cyfathrebu, a llywodraethu. Gyda phrofiad helaeth o arwain ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, mae Kirsty’n awyddus i leoli Adnodd fel sefydliad ystwyth, perfformiad uchel sy’n cefnogi ymarferwyr i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.