Lleucu Siencyn
Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni
Ymunodd Lleucu Siencyn ag Adnodd yn 2024 fel Cyfarwyddwr Strategaeth a Chyflawni. Daw Lleucu â’i harbenigedd o lunio strategaethau ac ymgyrchoedd cenedlaethol yn y sector creadigol, ac mae ei rolau blaenorol yn cynnwys Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru a Chyfarwyddwr Datblygu’r Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru. Yn 2023, cafodd ei henwi yn un o 100 o Ysgogwyr Newid Cenedlaethau’r Dyfodol. Cwblhaodd Ddyfarniad Lefel 7 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn 2025, ac mae ganddi aelodaeth o’r City and Guilds of London Institute (MCGI). Mae’n angerddol dros roi cyfleoedd i blant a phobl ifanc i fod yn greadigol, chwilfrydig a chwareus.