Rachel Lloyd
Rheolwr Comisiynu ac Ansawdd
Ymunodd Rachel Lloyd ag Adnodd ym mis Medi 2025 fel Rheolwr Comisiynu ac Ansawdd. Mae hi wedi gweithio ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a’r drydydd sector ac wedi arwain rhaglenni addysg cenedlaethol proffil uchel ar gyfer Barclays a BookTrust yng Nghymru. Am y saith mlynedd diwethaf, mae Rachel wedi bod yn gweithio yn y diwydiant cyhoeddi llyfrau plant, gan ddatblygu record brofedig o feithrin talent a chomisiynu llyfrau arobryn. Mae ganddi brofiad sylweddol mewn dyluniad adnoddau / cynnyrch a dealltwriaeth gadarn am hyfywedd masnachol, gwerth ac effaith.
Mae Rachel yn angerddol am greadigrwydd, cydweithio ac arloesedd, gan ddarparu ansawdd gydag uniondeb, tra’n dal ymgysylltiad a mwynhad y dysgwr fel sbardun canolog i’w gwaith.