Neidio i'r prif gynnwy
English
Sioned Roberts

Ymunodd Sioned Wyn Roberts â Bwrdd Adnodd ym mis Chwefror 2023, yn dilyn gyrfa ddisglair dros dri degawd yn y cyfryngau, gan arbenigo mewn cynnwys plant ac addysgiadol. Gyda chefndir fel uwch gynhyrchydd yn y BBC a chomisiynydd cynnwys yn S4C, mae Sioned yn awyddus i ddefnyddio ei harbenigedd mewn arloesi digidol i helpu Adnodd i ddatblygu adnoddau ar y cyd â phartneriaid ym myd addysg a darlledu.