Wedi’i hysbysu gan ddefnyddwyr: cwrdd â’r saith cymeriad archdeip
Mae ein hymchwil wedi nodi saith cymeriad archdeip — yn seiliedig ar brofiadau bywyd go iawn o sut mae addysgwyr, rhieni a gofalwyr yng Nghymru yn ymgysylltu ag adnoddau addysgol.
Wedi’u datblygu trwy grwpiau ffocws, arolygon a phrofion defnyddioldeb gan Miller Research ar gyfer Adnodd a Llywodraeth Cymru, mae’r cymeriadau hyn yn adlewyrchu ymddygiadau, dewisiadau a heriau cyffredin o ran dod o hyd i adnoddau, eu defnyddio a’u haddasu.
Mae deall y cymeriadau hyn yn helpu i lunio ein strategaeth. Mae nhw yn tywys sut rydym yn dylunio offer, yn comisiynu cynnwys ac yn gwella mynediad — gan sicrhau ein bod yn cefnogi pawb sy’n gweithio gyda’r Cwricwlwm i Gymru yn well.
Archwiliwch broffiliau’r cymeriadau isod i ddysgu mwy.
Y Fforwyr Ffyddlon
Mae Fforwyr Ffyddlon yn hynod deyrngar i’w hoff blatfformau, ac wedi dod yn gyfarwydd â’u defnyddio dros amser.

Y Crewyr
Mae Crewyr yn creu eu hadnoddau eu hunain yn bennaf – naill ai o reidrwydd (gan fod bwlch yn yr hyn sydd ar gael) neu o ddewis (gan eu bod yn mwynhau’r broses greadigol).

Arloeswyr y Cwricwlwm
Mae Arloeswyr y Cwricwlwm yn defnyddio’r rhyddid newydd sy’n cael ei gynnig gan y Cwricwlwm i Gymru i blethu gwersi ynghyd o sawl maes dysgu, gan gynnig enghraifft gref o’r hyn y gall y cwricwlwm newydd ei gyflawni.

Yr Addaswyr
Mae Addaswyr bob amser yn addasu adnodd cyn ei ddefnyddio. Dydyn nhw ddim yn credu bod adnoddau’n gweithio pan fyddan nhw’n “barod i fynd”.

Y Pencampwyr Digidol
The Digital Champions are early adopters of new technology, and prioritise digital skills for their learners. They are comfortable with using and exploring different tech.

Dychmygwyr y Cyfryngau Cymdeithasol
Mae Dychmygwyr y Cyfryngau Cymdeithasol yn defnyddio platfformau fel Pinterest, Instagram a Facebook i greu syniadau am wersi newydd a gafaelgar neu i greu adnoddau ar gyfer eu myfyrwyr.

Y Cyfieithwyr Blinedig
Mae Cyfieithwyr Blinedig yn ymarferwyr cyfrwng Cymraeg ymroddgar sy’n addasu adnoddau’n gyson ar gyfer eu dysgwyr. Oherwydd prinder deunyddiau Cymraeg o ansawdd da y gellir eu haddasu, maen nhw’n treulio amser gwerthfawr yn cyfieithu ac yn ailwampio cynnwys – yn aml gan ddyblygu ymdrechion ymarferwyr eraill.
