Neidio i'r prif gynnwy
English

Y Crewyr

Illustration of a child wearing a party hat and decorating a large glass jar with colourful star shapes. The table is covered with craft materials like scissors, glue, pencils, paint, and other decorated jars. Darlun o blentyn yn gwisgo het parti ac yn addurno jar gwydr mawr gyda siapiau sêr lliwgar. Mae’r bwrdd yn llawn deunyddiau crefft fel siswrn, glud, pensiliau, paent a jariau addurnedig eraill.

Mae Crewyr yn creu eu hadnoddau eu hunain yn bennaf – naill ai o reidrwydd (gan fod bwlch yn yr hyn sydd ar gael) neu o ddewis (gan eu bod yn mwynhau’r broses greadigol).

Yn aml, mae Crewyr:

  • Yn hyderus wrth ddefnyddio platfformau creadigol fel Adobe PS, Canva, Google Slides ac ati.
  • Yn treulio amser sylweddol yn creu adnoddau.
  • Yn gynhyrchwyr syniadau.
  • Yn meddu ar gronfa o adnoddau a grëwyd ganddyn nhw’n flaenorol.

Eu hadnoddau arferol

Mae Crewyr yn ymarferwyr annibynnol a dychmygus sy’n ffafrio dylunio a chreu adnoddau o’r newydd. Mae’r math yma o ymarferydd yn aml i’w weld ymhlith athrawon sy’n gweithio gyda nifer fawr o ddysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), neu mewn lleoliadau lle mae anghenion y dosbarth mor benodol nad yw adnoddau sy’n bodoli eisoes yn addas. I’r Crewyr, mae datblygu adnoddau’n elfen greiddiol o’u haddysgu, ac mae’n eu galluogi i deilwra cynnwys yn fanwl i anghenion, gallu a diddordebau eu dysgwyr.

Mae platfformau fel Canva, Google Docs a PowerPoint, ac offer fel Snipping Tool, yn cael eu defnyddio’n rheolaidd, gan roi hyblygrwydd wrth ddylunio cynnwys digidol a chynnwys wedi’i argraffu. Er eu bod yn defnyddio platfformau fel Hwb, Twinkl neu Pinterest i gasglu syniadau, anaml y bydd y cynnwys hwnnw’n cael ei ddefnyddio fel y mae. Yn hytrach, mae Crewyr yn chwilio am:

  • Templedi gwag ac adnoddau y mae modd eu golygu.
  • Offer dylunio sy’n cynnig rheolaeth greadigol lawn.
  • Mynediad at asedau gweledol fel delweddau ac eiconau.
  • Cynnwys y gellir ei addasu ar gyfer lleoliadau dwyieithog neu leoliadau cyfrwng Cymraeg.
  • Offer sy’n helpu i greu fersiynau gwahanol a phersonoli deunyddiau dysgu.

Mae Crewyr yn aml yn cyfuno syniadau o wahanol blatfformau a ffynonellau i greu adnoddau addas, nid yn unig i ddiwallu anghenion y cwricwlwm, ond hefyd i sicrhau bod y deunyddiau’n ennyn diddordeb dysgwyr ac yn hygyrch ac yn berthnasol iddyn nhw.

Heriau cyffredin

Yr her fwyaf i’r Crewyr yw’r amser mae’n ei gymryd i greu adnoddau o’r newydd. Mae angen cryn dipyn o waith wrth greu adnoddau ar gyfer sawl lefel gallu, mewn fformatau amrywiol, ac yn aml mewn dwy iaith.

Mae rhwystredigaeth hefyd pan na fydd platfformau ond yn cynnig adnoddau mewn fformatau statig (fel PDFs) neu fformatau sy’n cyfyngu ar olygu – gan alw am waith ychwanegol i’w haddasu. Mae Crewyr yn aml yn gorfod dod o hyd i ddelweddau neu gynhyrchu eu delweddau eu hunain, yn enwedig pan fyddan nhw’n eu creu ar gyfer dysgwyr iau neu leoliadau ADY – sy’n ychwanegu haen ychwanegol o waith.

Mae heriau eraill yn cynnwys:

  • Pwysau amser wrth ddylunio o’r newydd.
  • Prinder cynnwys dwyieithog neu gyfrwng Cymraeg mewn fformatau y gellir eu golygu.
  • Anhawster wrth ddefnyddio asedau dylunio (delweddau, eiconau, ffontiau).
  • Diffyg offer ar blatfformau adnoddau ar gyfer creu fersiynau gwahanol neu bersonoli.
  • Rheoli a threfnu swmp mawr o adnoddau y maen nhw wedi’u creu eu hunain.

Cyfleoedd ac argymhellion

Gan fod y math hwn o ymarferydd mor greadigol, mae llai o bwyslais ar ddarparu adnoddau parod wrth gefnogi Crewyr, a mwy o bwyslais ar gynnig offer i’w helpu i greu adnoddau’n haws, yn gyflymach, ac yn fwy effeithlon.

Dylai platfformau sy’n ceisio cefnogi’r Crewyr ystyried:

  • Cynnig offer creu adnoddau yn uniongyrchol ar y platfform (e.e. dylunwyr taflenni llusgo-a-gosod, templedi y mae modd eu golygu, offer tebyg i Canva).
  • Darparu llyfrgelloedd delweddau ac asedau wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer lleoliadau addysg ac addysgu drwy’r Gymraeg.
  • Creu cronfa o eiconau, delweddau ac elfennau dylunio i gefnogi gwaith pwrpasol.
  • Datblygu offer AI i gefnogi neu gyflymu’r broses greadigol (e.e. creu fersiynau gwahanol o adnoddau’n awtomatig, awgrymiadau ar gyfer cynnwys dwyieithog).
  • Caniatáu lawrlwytho adnoddau mewn fformatau amrywiol (PowerPoint, Word, templed Canva, Google Docs).
  • Creu offer ar gyfer trefnu adnoddau – i’w cadw, eu categoreiddio a’u hailddefnyddio’n hawdd.
  • Annog cydweithio rhwng Crewyr, gan gynnig mannau i rannu templedi y mae modd eu golygu, asedau gweledol a syniadau ar gyfer gwersi – heb fod yn rhaid defnyddio deunyddiau sy’n “barod i fynd”.

Mae’n bwysig nodi nad yw Crewyr eisiau mynediad at gynnwys yn unig – maen nhw am weld platfformau sy’n eu hystyried nhw fel dylunwyr, gan gynnig camau i greu profiadau dysgu gwreiddiol, cyffrous a phersonol i’w dysgwyr.

Astudiaeth achos – Y Crewyr

Wrth weithio mewn ysgol gynradd brif ffrwd sydd â nifer fawr o ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), mae’r athro yma wedi datblygu arfer cryf o greu adnoddau o’r newydd. Er bod llawer o adnoddau ar gael ar-lein, yn aml nid yw’r rheini’n diwallu anghenion penodol y dosbarth. I’r ymarferydd yma, mae creu adnoddau’n ffordd o fynegi creadigrwydd, ond mae hi hefyd yn broses angenrheidiol – sy’n golygu bod modd creu profiadau dysgu sy’n ennyn diddordeb, sy’n berthnasol ac sy’n hygyrch i bob disgybl.

Mae’r athro yma’n cael ysbrydoliaeth o amrywiaeth o ffynonellau – weithiau o adnoddau sy’n bodoli eisoes, ac ar adegau, o ddiddordebau neu syniadau’r disgyblion eu hunain. Er y bydd yn defnyddio platfformau fel Canva, Twinkl ac YouTube, y gwir werth yw gallu cymryd syniad a’i bersonoli’n llwyr. Yn aml, mae hyn yn golygu cyfuniad o’r canlynol:

  • Dylunio cymhorthion gweledol neu weithgareddau o’r newydd.
  • Cyfuno elfennau o adnoddau gwahanol.
  • Addasu neu gyfieithu cynnwys i’r Gymraeg.
  • Defnyddio offer fel Canva neu snipio delweddau i greu taflenni gwaith neu ddeunyddiau arddangos personol.
  • Creu fersiynau gwahanol o’r un gweithgaredd ar gyfer grwpiau gallu gwahanol.

Mae pwyslais arbennig ar hoelio sylw’r dysgwyr – ar wneud i’r adnoddau deimlo’n gyffrous, yn berthnasol neu’n chwareus er mwyn ennyn diddordeb o hyd, yn enwedig gyda dysgwyr ADY.

Un o’r rhwystredigaethau mwyaf i’r athro yma yw faint o amser mae’r broses yn ei lyncu. Gall creu adnoddau pwrpasol ar gyfer sawl lefel gallu – yn aml o fewn yr un wers – lyncu amser sylweddol. Dywedodd hefyd fod llawer o blatfformau’n cynnig adnoddau y mae modd eu golygu, ond yn aml fod angen cryn dipyn o waith ychwanegol i’w gwneud nhw’n addas ar gyfer y dosbarth. Mae hyn yn enwedig mewn cyd-destun dwyieithog neu gyda dysgwyr sydd ag anghenion penodol.

Wrth gnoi cil am yr hyn a fyddai’n gwella’r profiad, eglurodd:

“Nid cael taflen barod yw’r unig ddiben – mae’n ymwneud â chael syniadau i’w datblygu, offer sy’n hyblyg, ac adnoddau sy’n teimlo’n hwyl ac sy’n ennyn diddordeb y plant.”

Yn ddelfrydol, hoffai weld platfformau’n cynnig:

  • Adnoddau y mae modd eu golygu (nid PDFs yn unig).
  • Templedi wedi’u dylunio’n benodol er mwyn gallu cael fersiynau gwahanol.
  • Mwy o adnoddau Cymraeg o ansawdd da.
  • Ffordd hawdd o gadw, trefnu ac ailddefnyddio’r adnoddau gorau sydd wedi’u haddasu.
  • Offer i addasu cynnwys yn gyflym heb orfod dechrau o’r dechrau.
  • Cyfleoedd i rannu a chydweithio ag athrawon eraill sy’n creu adnoddau tebyg.

I’r athro yma, y platfformau adnoddau mwyaf gwerthfawr yw’r rhai sy’n cefnogi creadigrwydd a hyblygrwydd, tra’n helpu i leddfu’r llwyth gwaith wrth greu profiadau dysgu gwych o’r dechrau un.