Y Cyfieithwyr Blinedig

Mae Cyfieithwyr Blinedig yn ymarferwyr cyfrwng Cymraeg ymroddgar sy’n addasu adnoddau’n gyson ar gyfer eu dysgwyr. Oherwydd prinder deunyddiau Cymraeg o ansawdd da y gellir eu haddasu, maen nhw’n treulio amser gwerthfawr yn cyfieithu ac yn ailwampio cynnwys – yn aml gan ddyblygu ymdrechion ymarferwyr eraill. Maen nhw’n ymarferwyr dyfeisgar a dyfal, ac yn defnyddio’u rhwydweithiau ac offer digidol i leihau‘r baich, ond mae’r broses yn dal i fod yn llafurus.
Yn ôl ein hymchwil, gallai’r defnyddwyr yma fod yn:
- Dibynnu ar fformatau y gellir eu golygu (e.e. PowerPoint, Google Docs) i addasu adnoddau’n gyflym ac yn effeithiol.
- Buddsoddi cryn dipyn o amser yn cyfieithu cynnwys Saesneg oherwydd diffyg adnoddau Cymraeg.
- Rhannu ac yn dod o hyd i ddeunyddiau drwy rwydweithiau proffesiynol fel grwpiau WhatsApp a gyriannau’r ysgol.
- Defnyddio offer AI (e.e. Copilot) i hwyluso a chyflymu’r broses gyfieithu pan fo amser yn brin.
Eu hadnoddau arferol
Mae Cyfieithwyr Blinedig yn ymarferwyr cyfrwng Cymraeg sy’n addasu adnoddau Saesneg yn rheolaidd i ddiwallu anghenion ieithyddol a diwylliannol eu dysgwyr. Maen nhw’n defnyddio platfformau fel Hwb, Twinkl a TES i gael ysbrydoliaeth, ond mae’r rhan fwyaf o’r adnoddau angen eu haddasu. Mae fformatau y mae modd eu golygu yn hanfodol, ac mae offer fel Canva, PowerPoint a Google Docs yn cael eu defnyddio i ailwampio neu gyfieithu cynnwys. Mae rhwydweithiau rhannu proffesiynol – fel grwpiau WhatsApp neu yriannau’r ysgol – yn ffynonellau hollbwysig ar gyfer adnoddau sydd wedi’u cyfieithu neu eu hadd