Yr Addaswyr

Mae Addaswyr bob amser yn addasu adnodd cyn ei ddefnyddio. Dydyn nhw ddim yn credu bod adnoddau’n gweithio pan fyddan nhw’n “barod i fynd”.
Maen nhw fel arfer yn:
- Chwilio am ffyrdd o wella’r elfen weledol.
- Cyfuno adnoddau i gynnwys gweithgareddau a chyfleoedd i blant ymwneud â’i gilydd.
- Ymwybodol iawn o anghenion eu dysgwyr, gan gynnwys yr angen am fersiynau gwahanol o adnoddau.
Eu hadnoddau arferol
Mae Addaswyr yn ymarferwyr hynod ymarferol, sy’n aml yn dechrau gyda rhyw fath o adnodd sy’n bodoli eisoes ond bron bob amser yn ei addasu i ddiwallu anghenion penodol eu dysgwyr, cyd-destun y dosbarth, neu ddisgwyliadau’r ysgol. Mae eu dull yn ailadroddus ac ymarferol – ac maen nhw’n canfod ysbrydoliaeth mewn amrywiaeth o ffynonellau ond prin byth yn defnyddio unrhyw beth yn union fel y mae.
Mae’r platfformau maen nhw’n eu defnyddio’n aml yn cynnwys Twinkl (fel man cychwyn), Canva (ar gyfer golygu gweledol), Google Slides, Hwb, TES, a BBC Teach. Yn aml, defnyddir YouTube ar gyfer fideos cyflym, tra bo Pinterest a’r cyfryngau cymdeithasol (gan gynnwys grwpiau Facebook ac Instagram) yn cynnig syniadau ac ysbrydoliaeth. Yn dra phwysig, mae’r grŵp yma’n aml yn defnyddio offer fel Snipping Tool neu sgrinluniau i godi cynnwys yn gyflym i’w olygu, ac yn defnyddio AI (fel ChatGPT neu TeachMate AI) wrth addasu.
Mae’r adnoddau sy’n denu Addaswyr yn rhai sydd:
- Yn gallu cael eu golygu (nid PDFs caeedig).
- Yn cynnig templedi neu asedau gweledol y gellir eu haddasu.
- Ar gael mewn amryw o fformatau (Google Slides, Word, Canva).
- Yn syml ac yn hyblyg, er mwyn eu llunio o gwmpas anghenion y dysgwyr.
- Yn cynnwys opsiynau ar gyfer fersiynau gwahanol sy’n addas i’r oedran.
Mae’r ymarferwyr hyn yn ymwybodol iawn o’r angen i wneud yn siŵr bod adnoddau’n teimlo’n addas i’w cyd-destun – boed hynny’n golygu newid geiriad, diweddaru’r elfen weledol, neu wneud yr adnoddau’n fwy hygyrch i ddysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) neu Saesneg fel Iaith Ychwanegol (SIY).
Heriau cyffredin
Mae Addaswyr yn aml o dan bwysau amser wrth addasu adnoddau’n gyson. Bydd cyfleustra adnoddau parod yn aml yn diflannu pan fydd angen golygu’n helaeth i’w gwneud yn addas ar gyfer eu dysgwyr – p’un ai drwy dynnu cynnwys o gwricwlwm Lloegr, addasu iaith neu ailddylunio cynllun.
Mae’r prif rwystredigaethau’n cynnwys:
- Gormodedd o adnoddau Saesneg neu adnoddau o hen gwricwla, yn enwedig mewn chwiliadau digidol.
- Canfod adnodd da mewn PDF sy’n anodd ei olygu.
- Addasu ar gyfer sawl lefel gallu yn yr un wers.
- Yr angen i gyfieithu neu symleiddio iaith ar gyfer dysgwyr ADY neu SIY.
- Treulio gormod o amser yn golygu cynllun gweledol adnoddau.
- Defnyddio sawl platfform i gasglu syniadau a lawrlwythiadau, cyn gorfod eu cydosod â llaw.
Dywedodd rhai ymarferwyr hefyd fod materion hawlfraint neu bolisïau’r ysgol yn eu hatal rhag defnyddio platfformau fel Twinkl yn eu fformat gwreiddiol – gan wneud addasu’n hanfodol.
Cyfleoedd ac argymhellion
Mae Addaswyr yn ffynnu pan fyddan nhw’n cael offer hyblyg, adnoddau mae modd eu haddasu, a ffyrdd effeithlon o olygu. Er mwyn cefnogi’r grŵp hwn yn well, dylai platfformau flaenoriaethu:
- Adnoddau sydd ar gael mewn fformatau y gellir eu haddasu’n llawn (Google Slides, Word, PowerPoint).
- Templedi gweledol syml wedi’u dylunio i’w newid a’u datblygu.
- Offer wedi’i bweru gan AI i awtomeiddio mân addasiadau (e.e. newid y ffont, y cynllun lliw, addasu’r oedran darllen).
- Pecynnau adnoddau parod sy’n cynnwys fersiynau y gellir eu haddasu ar gyfer lefelau gallu gwahanol.
- Adnoddau integredig yn hytrach na thaflenni gwaith statig – e.e. sleidiau, syniadau am weithgareddau, delweddau, fideos, i gyd wedi’u cysylltu.
- Canllawiau clir neu awgrymiadau cyflym i wneud adnoddau’n fwy addas ar gyfer dysgwyr ADY neu SIY.
- Offer i arbed amser drwy gyfieithu neu ailfodelu adnoddau’n gyflym.
- Hidlydd chwilio ar gyfer adnoddau y gellir eu haddasu’n unig.
- Man i rannu fersiynau o adnoddau wedi’u haddasu gydag ymarferwyr eraill.
Gallai platfformau ddisgrifio’u hunain fel “partneriaid creu adnoddau” yn hytrach nag fel “llyfrgelloedd adnoddau” yn unig – gan ganolbwyntio ar ei gwneud hi’n gyflymach ac yn haws i athrawon deilwra adnoddau i’w dysgwyr heb orfod dechrau o’r dechrau.
Astudiaeth Achos – Yr Addaswyr
Mae athro Blwyddyn 1 a 2 mewn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn enghraifft berffaith o archdeip yr Addaswyr. Wrth addysgu mewn ardal lle mae’r rhan fwyaf o’r dysgwyr yn dod o gartrefi sy’n siarad Saesneg, mae’r athro yma’n fedrus iawn wrth addasu adnoddau i ddiwallu anghenion penodol y dosbarth oedran cymysg a gallu cymysg.
Y man cychwyn fel arfer yw adnodd sy’n bodoli eisoes – wedi’i ganfod ar blatfformau fel Twinkl, White Rose Maths, neu Teacher’s Pet. Ond anaml y caiff adnodd ei ddefnyddio fel y mae. Yn lle hynny, mae pob adnodd yn mynd drwy broses o’i olygu, ei addasu neu hyd yn oed ei ail-greu’n gyfan gwbl i’w wneud yn addas. Weithiau mae hynny’n golygu cyfieithu cynnwys Saesneg i’r Gymraeg; ar adegau eraill mae’n ymwneud ag addasu delweddau, newid geiriad, neu deilwra tasgau ar gyfer lefelau gallu gwahanol.
Rhwystr mawr wrth ddefnyddio adnoddau parod yw prinder deunyddiau Cymraeg – yn enwedig ar gyfer cynlluniau fel White Rose Maths, sy’n cael eu cyhoeddi yn Saesneg yn unig. Mae’r athro yma’n treulio cryn dipyn o amser yn defnyddio offer fel Snipping Tool, Canva neu Publisher i dorri, gludo a chyfieithu adnoddau i’w gwneud yn ymarferol yn y dosbarth.
Mae’r gallu i olygu deunyddiau’n hollbwysig. Mae’n amlwg iawn bod fformatau y gellid eu golygu – yn hytrach na PDFs caeedig – yn gwneud adnoddau’n llawer mwy gwerthfawr. Os nad oes modd golygu adnodd, mae’n annhebygol y bydd yr athro’n talu amdano nac yn ei ddefnyddio heblaw i gael ysbrydoliaeth. Oherwydd pwysau ar y gyllideb a diffyg staff, mae’r athro’n fwyfwy dibynnol ar adnoddau o safon y gellir eu haddasu i gefnogi dysgu annibynnol – rhywbeth hanfodol wrth reoli dosbarthiadau mawr gydag amrywiaeth o anghenion.
Er bod platfformau fel Twinkl yn werthfawr o ran eu hamrywiaeth, yr ieithoedd sydd ar gael a’r fformatau y gellir eu golygu, mae’r athro yma’n dal i ddymuno gweld platfformau adnoddau sydd:
- Yn haws eu chwilio.
- Yn osgoi llywio dryslyd.
- Yn cynnwys delweddau o ansawdd da.
- Yn cynnig deunydd Cymraeg yn ddiofyn.
- Ac yn bwysicaf oll – yn ei gwneud hi’n hawdd addasu cynnwys ar gyfer dysgwyr.