Adroddiad Blynyddol Adnodd 2025
1. Rhagair
Blwyddyn o ddysgu ac o wneud cynnydd cyson fu hon i Adnodd.
Rydyn ni wedi gweithio’n agos gydag ymarferwyr, cyflenwyr a phartneriaid ledled Cymru i gomisiynu, cyhoeddi a rhannu adnoddau sy’n ysbrydoli addysgu a dysgu’r Cwricwlwm i Gymru, a hynny mewn ffyrdd ymarferol ac ystyrlon.
O lansio ein strategaeth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i gomisiynu adnoddau gan gyflenwyr newydd a chyffrous, mae ein pwyslais wedi bod ar wrando, ar gydweithio ac ar wella.
Rydyn ni’n arbennig o ddiolchgar i’r rheini sydd wedi neilltuo’u hamser i rannu eu sylwadau, eu gwybodaeth a’u profiadau â ni – mae eu cyfraniadau wedi helpu i lywio’r gwaith rydyn ni’n ei wneud. Mae hyn hefyd wedi ein hatgoffa o bwysigrwydd rhoi lle canolog i bobl yn ein gwaith, a sicrhau bod y gwaith hwnnw wedi’i seilio ar brofiadau’r sector yn y byd go iawn.
Mae’r adroddiad hwn yn bwrw golwg ar yr hyn y gwnaethon ni ei gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n adlewyrchu’r gwerthoedd sy’n ein llywio, sef ymateb a chydweithio, a bod yn gynhwysol ac yn greadigol. Mae’r adroddiad yn cloi drwy edrych ar y gwaith cyffrous a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau y flwyddyn nesaf.
Diolch yn fawr i bawb sydd wedi cyfrannu at ein gwaith eleni.

Emyr George
Prif Weithredwr
2. Rhoi ein strategaeth ar waith
Ym mis Mai 2025, cafodd Emma Winter o raglen Y Llais ar S4C gwmni ei chôr ysgol o Ysgol Gynradd Nant-y-Parc wrth i ni lansio ein strategaeth yn Eisteddfod yr Urdd ym Mharc Gwledig Margam.
Roedden ni hefyd yn falch o groesawu Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, i’r digwyddiad, a siaradodd hi’n frwd am y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru. Cymerodd y Prif Weinidog ran hefyd mewn arddangosfa fyw o un o’n hadnoddau realiti rhithwir ar y llwyfan.
Llythrennedd
Ym mis Awst, cyhoeddon ni gynllun darllen newydd i ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Rydyn ni’n cydweithio â Chyngor Llyfrau Cymru ar y cynllun hwn, a fydd yn galluogi cyhoeddwyr i greu 24 o lyfrau darllen dan arweiniad, a’r rheini wedi’u seilio ar y fframwaith Cymraeg ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol.
Eleni, cawson ni gyllid ychwanegol i gefnogi’r blaenoriaethau ar gyfer llythrennedd a bennwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle. Rhoddwyd contractau i saith o gyflenwyr i greu adnoddau llythrennedd aml-gyfrwng a fyddai’n cefnogi ymarferwyr a dysgwyr.
Mae ein Cronfa Arloesi a Chydweithio yn cefnogi prosiect newydd cyffrous i greu dihangfan ddigidol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Prosiect yw hwn sy’n cyfuno adrodd straeon, datrys problemau a sgiliau llythrennedd sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm. Y gobaith yw y bydd y dull arloesol hwn o hybu llythrennedd yn ein helpu i ddeall ffyrdd newydd o gael effaith gadarnhaol ar ddeilliannau llythrennedd dysgwyr.
Mynychodd un o’n rheolwyr comisiynu ac ansawdd hyfforddiant i awduron fel rhan o’r cynllun llythrennedd ym maes anghenion dysgu ychwanegol.
Tegwch a gwrth-hiliaeth
Rhoddwyd cyllid grant i ymchwilydd PhD o Brifysgol Abertawe er mwyn edrych ar adnoddau addysgol arloesol drwy weithdai gwyddoniaeth dwyieithog i blant mudwyr dan orfod. Roedd y prosiect hwn yn hybu cynhwysiant, hyder a chyfleoedd i ddysgu’r Gymraeg.
Rydyn ni’n rhoi cyllid i RNIB Cymru i drosi 40 o deitlau Cymraeg i fformat amlgyfrwng sy’n hygyrch i ddysgwyr dall a dysgwyr sy’n gweld yn rhannol.
Mae pecyn o fideos yn Iaith Arwyddion Prydain wedi’u comisiynu i gyd-fynd â chyfres o lyfrau plant sy’n cyflwyno materion amgylcheddol pwysig fel:
- datgoedwigo coedwigoedd glaw
- llygredd aer
- llygredd yn y cefnforoedd
- dirywiad gwenyn
- y capiau iâ yn dadmer.
Bu dau o’n tîm mewn gweithdy am sut i arwain gwasanaethau cyhoeddus hygyrch a chynhwysol, a hwnnw wedi’i drefnu gan y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.
Llesiant
Mae cyfres o fideos byr ar gael i’w defnyddio gyda dysgwyr iau, gyda’r nod o hybu eu llesiant drwy ymarferion anadlu, cyfnodau egwyl synhwyraidd, a chyfleoedd i gysylltu â byd natur.
Mae ein Cronfa Arloesi a Chydweithio wedi cefnogi pum prosiect sy’n canolbwyntio ar lesiant, a’r rheini’n edrych ar themâu fel tlodi, hunaniaeth ac atal bwlio.
Mae adnoddau addysgol wedi’u cyhoeddi i gyd-fynd â’r llyfr, Ymlaen â Hi! Menywod Cymru ym Myd y Campau.
Mae ‘diwrnodau darllen a myfyrio’ rheolaidd wedi’u cyflwyno yn y sefydliad. Diwrnodau gwaith yw’r rhain lle na fydd y staff yn edrych ar negeseuon e-bost nac yn mynychu cyfarfodydd. Yn lle hynny, byddan nhw’n canolbwyntio ar ddarllen, ar ymchwilio ac ar gnoi cil.
3. Buddsoddi mewn pobl a phartneriaethau
Rydyn ni wedi datblygu polisi datblygu proffesiynol i sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn staff i wella dyfodol ein gwaith a’n heffaith ar y sector addysg.
Rydyn ni’n gweithio gyda nifer o sefydliadau ac ymarferwyr drwy Gymru, ac rydyn ni’n gwerthfawrogi pob partneriaeth.
Ein pobl
Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae ein staff wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hyfforddiant a datblygu capasiti, gan gynnwys:
- Adnodd Belbin Team Roles ar gyfer datblygiad proffesiynol
- Cyrsiau datblygu Cymraeg
- Diwylliant gyda Gofal: Sut i Ddathlu Heb Ymgymryd (drwy Brifysgol Bangor)
- Ffyrdd creadigol a chwareus o weithio, gan gynnwys LEGO SERIOUS PLAY
- Hyfforddiant ar gyfer arwain yn y maes gwrth-hiliaeth drwy Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL)
- Hyfforddiant arwain a rheoli Lefel 7 y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM)
- Hyfforddiant y Cwricwlwm i Gymru
- Hyfforddiant ymwybyddiaeth ym maes y cyfryngau cymdeithasol
- Meddwl am y dyfodol gyda Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
- Y rhaglen Arwain Gwasanaethau Cyhoeddus Modern
Ein partneriaethau
Rydyn ni’n falch o fod wedi cryfhau ein partneriaethau strategol, o ran ein ffordd o weithio a phwy rydyn ni’n cydweithio â nhw. Dyma ddetholiad o’r sefydliadau rydyn ni’n gweithio gyda nhw ar hyn o bryd:
- BBC
- CBAC
- Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- Cymwysterau Cymru
- Cyngor Celfyddydau Cymru
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Estyn
- Hwb a Llywodraeth Cymru
- Medr
- Prifysgol Bangor
- Prifysgol Metropolitan Caerdydd
- Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
- Swyddfa’r Comisiynydd Plant
- S4C
Rydyn ni’n gweithio gyda nifer o sefydliadau ac ymarferwyr drwy Gymru, ac rydyn ni’n gwerthfawrogi pob partneriaeth.
Ein dull o weithio
A ninnau wedi ymrwymo i ddysgu’n barhaus, fe wnaethon ni gwblhau gwaith ymchwil cychwynnol ymhlith defnyddwyr, gan ymwneud ag ymarferwyr addysg, rhieni a gofalwyr. Roedd y wybodaeth a gawson ni’n help i ddeall yn well lifoedd gwaith a’r rhwystrau sy’n wynebu pobl. Arweiniodd hyn at wella sut mae ymarferwyr a dysgwyr yn cael gafael ar adnoddau, yn eu defnyddio, ac yn eu haddasu.
Mae’r gwaith hwn wedi rhoi sail i’n dull o gomisiynu a chyhoeddi adnoddau perthnasol o ansawdd da, ac mae hefyd wedi arwain at welliannau cyffrous i blatfform Hwb. Dros y flwyddyn nesaf, rydyn ni’n bwriadu ymwneud ymhellach â rhagor o ymarferwyr a’u cynrychiolwyr.
Mae ein sioeau teithiol ar-lein, ein sesiynau gwybodaeth a’n digwyddiadau i ymwneud â’r farchnad i gyd wedi denu cynulleidfaoedd da, gyda dros 350 o bobl yn cymryd rhan yn ystod y flwyddyn. Rydyn ni wedi trefnu’r rhain er mwyn cyflwyno pobl i’n cyfleoedd comisiynu ac i’n prosesau sicrhau ansawdd, yn ogystal ag i ymwneud â chyflenwyr a chasglu gwybodaeth gan ymarferwyr.
PDF
Comisiynu i gefnogi’r Cwricwlwm i Gymru
Gan edrych ar anghenion y sector, a thrwy weithio’n agos gyda gweinidogion a Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi cynyddu a gwella’r casgliad cenedlaethol o adnoddau sydd ar gael ar Hwb.
Ym mis Medi, roedden ni wrth ein boddau’n rhannu cyfres gyflawn o 338 o adnoddau sy’n cyd-fynd â’r cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd. Adnoddau ar-lein dwyieithog y mae modd eu haddasu yw’r rhain, wedi’u creu gan CBAC.
Mae’r adnoddau’n cynnwys gweithgareddau dysgu cyfunol a threfnwyr gwybodaeth i ddysgwyr eu defnyddio yn yr ysgol a gartref ill dau. Mae’r rhain bellach ar gael ar Hwb ac ar wefan CBAC, a hynny ar gyfer yr holl bynciau TGAU newydd sy’n dechrau eleni.
Yn ystod y flwyddyn, comisiynwyd 35 o brosiectau, gan arwain at greu 1,371 o adnoddau newydd neu adnoddau wedi’u diweddaru, a’r rheini ar gael i ymarferwyr a dysgwyr eu defnyddio’n rhad ac am ddim.
Yn eu plith mae:
- gweithgareddau realiti rhithwir
- fideos gwyddoniaeth
- llyfrau adolygu
- gwefannau
- apiau
- adnoddau i’w defnyddio gyda rhaglenni teledu
- odlau a rapiau
- gemau
- gweithgareddau llesiant.
Rydyn ni wedi gweithio gyda 37 o gyflenwyr – o gwmnïau creadigol ac elusennau mawr i weithwyr llawrydd – i ddatblygu adnoddau addysgol sy’n ysbrydoli dysgwyr. Mae gwerthoedd y contractau wedi amrywio o £5,000 i bron i £800,000.
Ers mis Medi, mae gennyn ni bartner caffael newydd, sef Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a fydd yn sicrhau ein bod yn cydymffurfio ag arferion da a’r rheoliadau diweddaraf.
Lansiwyd y bartneriaeth hon yn ystod ein cyfle comisiynu yn yr hydref, ac rydyn ni’n cydweithio â’r Cyngor i greu fframwaith newydd ar gyfer cyflenwyr presennol a darpar gyflenwyr.
4. Arloesi ac ymgysylltu
Cafodd deg o brosiectau addysg creadigol drwy Gymru arian gan y Gronfa Arloesi a Chydweithio i edrych ar ffyrdd newydd o ddatblygu adnoddau.
Wrth asesu’r ceisiadau, fe weithion ni gyda 12 o arbenigwyr pwnc, gweithwyr proffesiynol mewn sectorau, ac arbenigwyr sydd â phrofiadau bywyd, gan sicrhau bod syniadau arloesol o ansawdd da’n cael eu cefnogi.
Mae realiti rhithwir (VR) wedi dod yn thema ganolog i’n gwaith eleni. Mae Aberwla bellach ar gael i bawb sy’n defnyddio pensetiau VR, a chawson ni gyfle i ddangos sut mae’n gweithio yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Trefnon ni gystadleuaeth genedlaethol hefyd lle roedd cyfle i ennill penset VR. Cafodd yr ysgol fuddugol, Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, benset a sesiwn ymgyfarwyddo i staff a dysgwyr yn eu Canolfan Trochi Iaith.
Diolch yn fawr i gwmnïau Adnodd ac Animated Technologies am y gweithdy’n cyflwyno penset VR i ni, ac am ein hannog i greu cymeriadau newydd i Aberwla. Rydyn ni wrth ein boddau’n defnyddio ein Cymraeg wrth deithio trwy Aberwla ac yn teimlo’n gyffrous am ddefnyddio’r adnodd gwych yma!
Canolfan Trochi Iaith, Ysgol Gyfun Gwent Is Coed, Casnewydd
5. Llywodraethu ac edrych tua’r dyfodol
Rydyn ni wedi cwblhau ein prosesau recriwtio’n llwyddiannus. Mae tîm Adnodd bellach yn gwbl weithredol, ac mae’r gwaith cynllunio at 2026 yn mynd rhagddo ers tro.
Mae gennyn ni dîm o staff sy’n cynnwys cymorth estynedig yn y meysydd corfforaethol ac ariannol, tîm comisiynu ac ansawdd sydd ag amrywiaeth eang o brofiadau ac arbenigeddau, a dwy swydd newydd sy’n canolbwyntio ar gyfathrebu ac ymgysylltu strategol.
Mae aelodau ein byrddau yn cyfrannu’n weithgar at faterion llywodraethu a chyflawni.
Eleni, maen nhw wedi:
- mynychu diwrnodau cwrdd i ffwrdd i’r tîm llawn
- cwblhau hyfforddiant am y Cwricwlwm i Gymru
- cefnogi ein presenoldeb yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, yr Eisteddfod Genedlaethol, a’r Sioe Addysg Genedlaethol
- helpu i asesu ceisiadau i’r Gronfa Arloesi a Chydweithio.
Beth sydd ar y gweill yn 2026
Gyda thîm o staff ymroddedig a dawnus, gallwn ni bellach gyflawni uchelgeisiau hirdymor ein Strategaeth.
Rydyn ni’n bwriadu gweithio’n agos gyda phartneriaid amrywiol, gan gynnwys Dysgu, i sicrhau bod adnoddau, cyfleoedd dysgu proffesiynol, canllawiau polisi ac arferion da i gyd yn cyd-fynd â’i gilydd mewn ffordd fuddiol.
Yn 2026, bydd hi’n gyffrous cael:
Cydweithio â Hwb i gyhoeddi adnoddau sy’n rhwydd i’w canfod, yn rhwydd i’w defnyddio, ac yn rhwydd i’w haddasu.
Ymweld â mwy o lefydd a chydweithio â mwy o ymarferwyr a sefydliadau i gefnogi’r modd maen nhw’n rhoi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith.
Cynnig fframwaith caffael newydd gyda cymorth penodol, wedi ei deilwra, ar gael gan ein partneriaid caffael.
Dod o hyd i wybodaeth newydd drwy wneud gwaith ymchwil am adnoddau sy’n arwain at ddeilliannau llythrennedd cadarnhaol.
Gwahodd darpar gyflenwyr a chyflenwyr presennol i’n Gŵyl Adnodd Fest gyntaf, gan sicrhau bod ein cyrhaeddiad yn fwy, ein bod yn cefnogi’r sector, a’n bod yn galluogi mwy o bobl i ymwneud â’n gwaith.
Lawrlwythwch ein Hadroddiad Blynyddol ar ffurf PDF
PDF