Canllawiau i gyflenwyr
Ein gweledigaeth ni yw bod gan ein holl ymarferwyr a dysgwyr, beth bynnag fo’u cefndir, yr hawl i gael adnoddau addysgol o ansawdd da, a’r rheini’n tanio’u dychymyg, yn hybu eu lles, ac yn ysgogi cariad gydol oes at ddysgu.
Er mwyn dod â’r weledigaeth hon yn fyw, rydyn ni wedi creu canllawiau clir, ymarferol ar gyfer cyflenwyr, i sicrhau bod ein holl adnoddau o ansawdd da, eu bod wedi’u dylunio mewn ffordd gyson, a’u bod yn wirioneddol addas i’r diben.
Egwyddorion Sicrhau Ansawdd
Deg o egwyddorion sy’n egluro’r sylfeini ar gyfer sicrhau bod ansawdd eich gwaith yn dda o’r dechrau’n deg. Maen nhw’n fwriadol syml, gyda disgrifiadau cryno sy’n diffinio sut beth yw llwyddiant.
Rhestr wirio cyn cyhoeddi
Rhestr wirio ar gyfer rheoli ansawdd sydd wedi’i chreu i’ch helpu i ofalu eich bod yn cydymffurfio a bod yr holl ofynion yn cael eu cyflawni cyn cyhoeddi eich adnodd.
Pum colofn ar gyfer creu adnoddau
Mae angen sylfeini cryf a chyson ar gyfer adnoddau rhagorol. Mae gennyn ni bum colofn strwythurol sy’n diffinio beth sy’n angenrheidiol ar gyfer ansawdd, a rhaid iddyn nhw fod yn sail i bob cam yn y gwaith datblygu a gwerthuso. Dyma’r disgwyliadau sylfaenol ar gyfer pob cyflenwr, waeth beth fo fformat neu bwnc eu hadnoddau, a phwy bynnag yw’r gynulleidfa dan sylw.
1. Ymwneud ag arbenigwyr pwnc ac ymarferwyr
Rhaid i gyflenwyr weithio’n agos gydag arbenigwyr pwnc, cynghorwyr ac ymarferwyr (naill ai fel aelodau o dîm y prosiect neu drwy baneli adolygu strwythuredig) i sicrhau bod adnoddau:
- yn berthnasol, yn ddibynadwy ac yn addysgegol gadarn, gan adlewyrchu’r arferion gorau cyfredol
- yn cyd-fynd yn llwyr â chanllawiau’r Cwricwlwm i Gymru ac wedi’u mapio’n glir yn unol â’r camau cynnydd priodol
- yn gynhwysol ac yn hygyrch i amrywiaeth eang o ddysgwyr, gan gynnwys dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY)
- yn gywir ac yn barchus o ran eu cynnwys, terminoleg, cynrychiolaeth ddiwylliannol, a’r modd y portreadir amrywiaeth, gan sicrhau bod deunyddiau yn adlewyrchu cymunedau Cymru
- yn glir, yn gyson ac yn cyfathrebu’n dda, gan sicrhau bod negeseuon yn taro deuddeg a bod deunyddiau’n ddefnyddiol ac yn cyflawni’r pwrpas a fwriadwyd
2. Cydweithio ag arbenigwyr creadigol neu drwy arbenigedd mewnol
Rhaid i gyflenwyr weithio gydag amrywiaeth o arbenigwyr creadigol a thechnegol e.e. awduron, darlunwyr, animeiddwyr, dylunwyr graffeg a dylunwyr profiad defnyddwyr/rhyngwynebau (UX/UI), i sicrhau bod yr holl adnoddau:
- ansawdd uchel ac wedi’u cynhyrchu’n broffesiynol
- wedi’u hysgrifennu’n glir ac yn effeithiol
- yn weledol ddifyr ac yn addas i oedran y darpar gynulleidfaoedd
- yn gywir o ran cynnwys a’r modd y maen nhw’n cael eu cyflwyno
- yn rhoi mwynhad, yn gynhwysol ac yn effeithiol i ddefnyddwyr amrywiol
- yn dilyn greddf o ran dyluniad ac yn hygyrch
3. Datblygu’n ddwyieithog o’r dechrau’n deg
Rhaid i’r holl gynnwys fod ar gael yn llawn yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan adlewyrchu egwyddor ‘Cynnig Gweithredol’ Llywodraeth Cymru a’r dyletswyddau i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Rhaid i gyflenwyr ddefnyddio cyfieithwyr, golygyddion a phrawfddarllenwyr Cymraeg cymwys a chymeradwy. Rydyn ni’n annog datblygu cynnwys gwreiddiol yn y Gymraeg a’r Saesneg ar yr un pryd, gan ddefnyddio’r dull ysgrifennu triawd.
Rhaid i adnoddau fod yn addas i’r diben yn y Gymraeg a’r Saesneg, a dylid rhoi sylw arbennig i’r canlynol:
- y derminoleg ddiweddaraf, cywirdeb ieithyddol a naturioldeb yn y ddwy iaith
- cynllun, teiposod a fformatio cyson
- enghreifftiau a chyfeiriadau diwylliannol priodol
- ansawdd, eglurder, tôn a defnyddioldeb y fersiynau yn y ddwy iaith yr un fath yn union
4. Profi ymhlith defnyddwyr ac adborth cyson
Mae disgwyl i gyflenwyr dreialu adnoddau gyda defnyddwyr cynrychioliadol (gan gynnwys ymarferwyr a dysgwyr), a hynny drwy gydol y broses ddatblygu. Dylai’r gwaith profi hwn arwain at welliannau cyson, a dylid gallu rhoi tystiolaeth o’r newidiadau a wnaed wrth ymateb i’r adborth a roddir.
Rhaid i waith profi ymhlith defnyddwyr edrych ar y canlynol:
- hygyrchedd a chydnawsedd
- defnyddioldeb, rhwyddineb y llywio, a pha mor eglur yw’r hyn sydd ar gael
- pa mor berthnasol yw’r adnodd i ddysgwyr o wahanol gefndiroedd a dysgwyr sydd â gwahanol allu
- sut mae’r adnodd yn ennyn diddordeb, yn cymell pobl, a’i apêl gyffredinol
- a yw’r adnodd yn effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg ill dwy, a sicrhau ei fod yn adnodd o ansawdd da ac yn adnodd defnyddiol yn y ddwy iaith
5. Adnoddau digidol: dyluniad hygyrch
Rhaid i’r holl adnoddau digidol a gaiff eu datblygu fod yn gydnaws â Hwb ac yn addas i’w cyhoeddi arno. Rhaid i’r canlynol hefyd fod yn wir am yr holl adnoddau digidol:
- rhaid bod modd eu gweld a’u defnyddio’n rhad ac am ddim, heb fod angen mewngofnodi ymhellach
- ni ddylen nhw fod yn fasnachol
- rhaid iddyn nhw fod mewn fformatau y mae modd eu golygu pan fydd hynny’n briodol, gan alluogi ymarferwyr i addasu cynnwys a theilwra deunyddiau i’w cyflwyno mewn cyd-destunau amrywiol, i’w defnyddio gyda gwahanol ddulliau addysgu, ac i gyd-fynd ag anghenion amrywiol dysgwyr
- rhaid iddyn nhw fodloni’r holl safonau hygyrchedd perthnasol, gan roi sylw penodol i allu dysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) i’w defnyddio.Rhaid i gyflenwyr gydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.2 AA
- rhaid bod adnoddau wedi’u dylunio fel bod modd eu defnyddio’n effeithiol ar ddyfeisiau cyffredin (gan gynnwys gliniaduron, tabledi, ffonau clyfar a sgriniau rhyngweithiol), a dylen nhw weithio’n ddibynadwy o dan amodau lled band amrywiol
- rhaid i adnoddau gynnwys asedau y gellir eu hargraffu neu eu lawrlwytho, lle bo’n briodol, i helpu ymarferwyr a’r defnydd y bwriedir ei wneud o’r adnoddau
Cadwch mewn cysylltiad â ni
Cewch y newyddion diweddaraf gan Adnodd wrth i ni gefnogi Cwricwlwm i Gymru.