Neidio i'r prif gynnwy
English

Beth am helpu i lywio dyfodol adnoddau addysgol yng Nghymru?

Mae Adnodd ar daith gyffrous iawn. Ac rydyn ni’n chwilio am unigolion brwd i ymuno â ni. 

Ers ein sefydlu yn 2023, rydyn ni wedi bod yn datblygu sefydliad cenedlaethol sy’n cefnogi dysgwyr, ymarferwyr a chymunedau ledled Cymru drwy sicrhau bod pawb yn gallu defnyddio adnoddau addysgol o ansawdd da, a hynny yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

Wrth i ni gamu i’r cyfnod nesaf yn ein datblygiad, rydyn ni’n chwilio am aelodau newydd i ymuno â’n Bwrdd ac i’n helpu i ddylanwadu ar ddyfodol addysg yng Nghymru. 

Efallai dy fod eisoes yn aelod Bwrdd profiadol, neu’n awyddus i gyfrannu dy arbenigedd at wasanaeth cyhoeddus am y tro cyntaf; y naill ffordd neu’r llall, rydyn ni’n awyddus i glywed gan bobl sy’n rhannu ein hymrwymiad i gydweithio, arloesi a gwneud gwahaniaeth ar ran dysgwyr. 

Gair gan ein harweinwyr:

Emyr George, Prif Weithredwr

Dyma neges gan Emyr George, ein Prif Weithredwr, yn egluro pa fath o bobl rydyn ni’n chwilio amdanyn nhw, a sut bydd aelodau newydd y Bwrdd yn llywio ein cyfeiriad yn y dyfodol. 

Gwyliwch y fideo hwn ar YouTube

Hyd fideo: 1.16

Mair Gwynant, Aelod o'r Bwrdd

Dyma neges gan Mair Gwynant, Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Adnodd, yn sôn am y diwylliant cadarnhaol rydyn ni wedi’i greu, ac am rai o’i huchafbwyntiau personol hi. 

Gwyliwch y fideo hwn ar YouTube

Hyd fideo: 1.53

Owain Gethin Davies, Cadeirydd y Bwrdd

Dyma neges gan Owain Gethin Davies, Cadeirydd y Bwrdd, am ei weledigaeth ar gyfer cryfhau dyfodol Adnodd a chreu mwy o amrywiaeth yn y sefydliad. 

Gwyliwch y fideo hwn ar YouTube

Hyd fideo: 1.18

Mae rhagor o wybodaeth am ein gwaith i’w gweld yn ein strategaeth ar gyfer 2025-2028 

Pam ymuno ag Adnodd? 

Drwy ddod yn aelod o’r Bwrdd, bydd cyfle i ti wneud y canlynol: 

  • Helpu i ddylanwadu ar gyfeiriad strategol sefydliad cenedlaethol sy’n tyfu, a hynny ar adeg hynod o bwysig yn ei ddatblygiad. 
  • Cyfrannu dy arbenigedd a dy brofiad at wasanaethau cyhoeddus, gan helpu i gryfhau ein trefniadau llywodraethu, hybu arloesi, a gwella ein prosesau gwneud penderfyniadau. 
  • Gweithio gyda phartneriaid, rhanddeiliaid a chydweithwyr brwd o bob cwr o Gymru sydd wedi ymrwymo i wella addysg i genedlaethau’r dyfodol. 
  • Gwneud cyfraniad o bwys at hybu addysg ddwyieithog a’r gwaith i roi’r Cwricwlwm i Gymru ar waith. 
  • Helpu i wella sut bydd dysgwyr ledled Cymru yn cael gafael ar adnoddau addysgol o ansawdd da, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu elwa o brofiadau dysgu difyr, perthnasol a chynhwysol. 

Sut i wneud cais 

Penodiadau cyhoeddus ydy’r swyddi hyn, ac felly mae’r broses recriwtio yn cael ei rheoli gan Lywodraeth Cymru ar ran Adnodd. Cer i’r wefan hon i weld y manylion. 

Cadwch mewn cysylltiad â ni

Cewch y newyddion diweddaraf gan Adnodd wrth i ni gefnogi Cwricwlwm i Gymru.

Illustration of a young girl with red hair staring through a telescope into the night sky with stars, constellations and shooting stars. Darlun o ferch ifanc â gwallt coch yn syllu trwy delesgop i awyr y nos gyda sêr, cytserau a sêr saethu.