Neidio i'r prif gynnwy
English

Cylchgrawn TGAU Hanes

Medieval knights representing the Medieval period in Wales. | Milwyr o'r Oesoedd Canal I goynrychioli Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol.

Mae ffenest gyllido Adnodd ar gyfer cylchgrawn digidol TGAU Hanes nawr ar agor.

 

Mae’r cyfle comisiynu hwn ar gyfer cylchgrawn digidol, dwyieithog TGAU Hanes i gefnogi dysgwyr wrth astudio’r cwrs TGAU Hanes newydd sydd wedi ei wneud i Gymru. 

 

Byddwn yn edrych i ariannu cylchgrawn newydd sydd: 

  • yn ddwyieithog (fersiynau Cymraeg a Saesneg) 
  • ar gael am ddim i’w ddefnyddio 
  • yn canolbwyntio ar y pynciau a’r themâu ym manyleb TGAU Hanes CBAC
  • yn cyd-fynd ag ethos y Cwricwlwm i Gymru, ac un neu ragor o feysydd ffocws presennol Adnodd; llythrennedd, tegwch a gwrth-hiliaeth, a lles. 

 

Bydd tymor y cytundeb yn para am 12 mis, gyda’r opsiwn i ymestyn am 12 mis arall, yn amodol ar werthusiad ar ôl cyhoeddi’r rhifyn cyntaf. Bydd tri rhifyn cychwynnol yn cael eu datblygu a’u gwneud ar gael erbyn Medi 2026, Rhagfyr 2026 a Mawrth 2027.   

Er mwyn sicrhau bod adnoddau o’r ansawdd uchaf, yn gywir, yn berthnasol, yn hygyrch ac yn ddiddorol, rydym yn annog cynigwyr yn gryf i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithio ag ystod amrywiol o randdeiliaid. 

Amserlen arfaethedig

2026 

  • 4 Mawrth: Sesiwn wybodaeth ar-lein a gynhelir gan dîm Comisiynu ac Ansawdd Adnodd (sleidiau ar gael isod)
  • Dechrau mis Mawrth: Agor tendrau trwy borth Proactis  
  • Dechrau mis Ebrill: Dyddiad cau ar gyfer ymateb i dendr 
  • Dechrau mis Mai: Cytundebau wedi’u dyfarnu 
  • Dechrau mis Medi: Cyhoeddi’r rhifyn cyntaf 
  • Diwedd mis Rhagfyr: Cyhoeddi’r ail rifyn 

 

2027 

  • Diwedd mis Mawrth: Cyhoeddi’r trydydd rhifyn 

Bydd angen i bob cyflenwr ddilyn y ddau gam o’r broses.

Cam 1: cofrestru ar y Platfform Digidol Canolog, lle caiff Cod Rhannu ei gynhyrchu; mae hyn yn gofyn am greu neu fewngofnodi i gyfrif GOV.UK One Login.

Cam 2: mae holl gyfleoedd tendro Adnodd yn cael eu cyhoeddi ar  System EGaffael Proactis. Mae’n rhaid i gyflenwyr ddefnyddio’r system i weld a chyflwyno ceisiadau.

Chwiliwch am ‘Adnodd’ a bydd y cyfle yn ymddangos; Sylwch y bydd enw’r cwsmer yn cael ei ddangos fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gan mai nhw yw ein partneriaid caffael ac yn hysbysebu cyfleoedd comisiynu ar ein rhan.

Cyfeirnod ar gyfer y cyfle yma yw RQST14705.

Thumbnail PDF
Sesiwn Ymgysylltu Cylchgrawn TGAU Hanes
PDF 1.17 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.Cais am fformat gwahanol.

Cadwch mewn cysylltiad â ni

Cewch y newyddion diweddaraf gan Adnodd wrth i ni gefnogi Cwricwlwm i Gymru.

Illustration of a young girl with red hair staring through a telescope into the night sky with stars, constellations and shooting stars. Darlun o ferch ifanc â gwallt coch yn syllu trwy delesgop i awyr y nos gyda sêr, cytserau a sêr saethu.