Neidio i'r prif gynnwy
English

Ffenest gyllido Adnodd Chwefror 2026

Image of two young girls drawing on a whiteboard with colourful swirls and stars coming out from their pens. Delwedd o ddwy ferch ifanc yn tynnu ar fwrdd gwyn, gyda troellau lliwgar a sêr yn dod allan o’u pensiliau.

Bydd ffenest ariannu nesaf Adnodd yn agor ym mis Chwefror 2026 

Mae’r cylch comisiynu yma ar gyfer prosiectau sy’n cefnogi dysgu ac addysgu yn y meysydd canlynol: 

  • Hanes Cymru 
  • Gwrth-hiliaeth 
  • Hawliau Dynol (14-19 oed) 

Byddwn yn ariannu adnoddau newydd sydd: 

  • yn ddwyieithog (fersiwn Cymraeg a Saesneg) 
  • am ddim i’w defnyddio 
  • wedi eu datblygu ac ar gael i’w defnyddio erbyn y 1af o Fawrth 2027 
  • yn cyd fynd â ethos y Cwricwlwm i Gymru ac un neu fwy o feysydd ffocws cyfredol Adnodd; llythrennedd, tegwch a gwrth-hiliaeth, a llesiant. 

Mae’r rownd gomisiynu hon yn cynnig cyfleoedd cytundebol sylweddol, ac rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer fformatau digidol yn unig neu gyfuniad o fformatau digidol a print. 

Er mwyn sicrhau bod adnoddau o’r ansawdd uchaf, yn gywir, yn berthnasol, yn hygyrch, ac yn apelgar, rydym yn annog cyflenwyr i archwilio cyfleoedd i gydweithio gydag ystod eang ac amrywiol o randdeiliaid. 

Amserlen arfaethedig: 

2026  

  • Dechrau mis Chwefror: Tendrau wedi’u cyhoeddi drwy porth Proactis 
  • Canol mis Mawrth: Dyddiad cau tendrau 
  • Diwedd mis Ebrill: Cytundebau wedi’u dyfarnu 

2027  

  • 1af o Fawrth: Cwblhau prosiectau 

 

Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr i glywed mwy.

Ymunwch â’r gymuned