Neidio i'r prif gynnwy
English
Adnodd

Aberwla: Dysgu Cymraeg drwy realiti rhithwir

Mae Adnodd yn falch o ariannu Aberwla — adnodd VR arloesol, rhad ac am ddim i'w lawrlwytho, wedi'i gynllunio i gefnogi dysgu'r iaith Gymraeg mewn ffordd hollol newydd.
Screenshot of a virtual reality Welsh language learning environment. A character stands on a farm path with fields, trees, and fences in the background. On-screen text shows a Welsh sentence and multiple-choice options for translation or grammar practice. A blue pointer highlights the sentence “Does 'na ddim iâr?” and a purple button labelled “Cadarnhau” (Confirm) is below. Sgrinlun o amgylchedd rhithwir ar gyfer dysgu’r Gymraeg. Mae cymeriad yn sefyll ar lwybr fferm gyda chaeau, coed a ffensys yn y cefndir. Mae testun ar y sgrin yn dangos brawddeg Gymraeg a dewisiadau lluosog ar gyfer ymarfer cyfieithu neu ramadeg. Mae pwyntydd glas yn amlygu’r frawddeg “Does 'na ddim iâr?” ac mae botwm porffor o dan y testun gyda’r gair “Cadarnhau”.

Wedi’i leoli mewn pentref rhithwir bywiog, mae Aberwla yn trochi defnyddwyr mewn Cymraeg bob dydd drwy dasgau rhyngweithiol fel siopa, cymryd archebion caffi, datrys posau, a mwy.

Mae’r adnodd hefyd yn cynnwys gemau bach i helpu dysgwyr i adeiladu geirfa, gwella gramadeg, a thyfu eu hyder mewn amgylchedd hwyliog a chefnogol.

Dysgwch fwy trwyr fideos ar astudiaeth achos isod.

Aleighcia Scott yn Aberwla

Dyma’r cerddor ar darlledwraig Aleighcia Scott yn archwilio pentref rhithwir Aberwla, gan arddangos dysgu VR Cymraeg ar waith.

Gwyliwch y fideo hwn ar YouTube

Hyd fideo: 1.10

Manteisio ar dechnoleg ar gyfer trochi Cymraeg

Mae fideo Estyn yn tynnu sylw at effaith Aberwla ar drochi yn y Gymraeg, gan gynnwys tystebau ymarferwyr a thystiolaeth o ddysgu digidol effeithiol i ysgolion.

Gwyliwch y fideo hwn ar YouTube

Hyd fideo: 1.55

Aberwla

Dysgwch fwy am Aberwla, pentref rhithwir Cymraeg i bob dysgwr, yn eu trochi yn y Gymraeg trwy VR.

Gwyliwch y fideo hwn ar YouTube

Two photos show schoolchildren taking part in a VR activity indoors, with some wearing VR headsets and others watching, standing in front of Adnodd banners. | Mae dau lun yn dangos disgyblion yn cymryd rhan mewn gweithgaredd realiti rhithwir dan do, gyda rhai yn gwisgo setiau VR ac eraill yn gwylio, o flaen baneri Adnodd.

Fe wnaethom gynnal gweithdy ymarferol yn Aberwla sy‘n dangos sut mae VR yn cefnogi dysgu Cymraeg, yn meithrin hyder dysgwyr, ac yn gwella ymgysylltiad yn yr ystafell ddosbarth trwy weithgareddau ymgolli.

Diolch yn fawr iawn i Adnodd ac Animated Technologies am y gweithdy yn ein cyflwyno ir penset VR an hannog i greu cymeriadau newydd ar gyfer Aberwla. Rydyn ni wrth ein bodd yn defnyddio ein Cymraeg wrth deithio drwy Aberwla ac yn gyffrous iawn i ddefnyddior adnodd gwych hwn!”

Canolfan Trochi Iaith, Ysgol Gyfun Gwent is Coed, Casnewydd

Er mwyn defnyddio Aberwla, ewch i Hwb, lle gewch chi ei lawrlwytho am ddim.