Adolygiad annibynnol o adnoddau a rhaglenni llythrennedd yng Nghymru (2026)
- Cyhoeddwyd yn wreiddiol:
- Diweddarwyd ddiwethaf:
Llythrennedd yng Nghymru: Adolygiad o dystiolaeth ynghylch hybu llythrennedd, diddordeb mewn darllen, a’r adnoddau sydd ar gael
Cafodd yr ymchwil ei gynllunio er mwyn gwella ein dealltwriaeth o dirwedd bresennol yr adnoddau llythrennedd a ddefnyddir gan ddysgwyr ac ymarferwyr yng Nghymru.
Archwiliodd yr astudiaeth y dystiolaeth ar raglenni ac ymyriadau llythrennedd effeithiol, a’r ffyrdd y mae plant a phobl ifanc, ymarferwyr, rhieni a gofalwyr yn mynd ati’n ymarferol i gymryd rhan mewn cynlluniau llythrennedd.
Mae’r ymchwil yn cyd-fynd â gwaith ehangach Adnodd, sef helpu i ddatblygu adnoddau addysgol o ansawdd da yn y Gymraeg a’r Saenseg, a’r rheini’n adnoddau sy’n hawdd i’w haddasu a’u defnyddio. Yng nghyd-destun llythrennedd, mae hyn yn cynnwys adnoddau sy’n cefnogi‘r Cwricwlwm i Gymru, yn ymateb i anghenion gwahanol dysgwyr ac yn helpu i greu’r amodau i blant a phobl ifanc ddatblygu fel darllenwyr, awduron a chyfathrebwyr galluog, hyderus a brwd.
Canolbwyntiodd yr astudiaeth ar ddau faes cysylltiedig:
- Archwilio’r dystiolaeth bresennol ar adnoddau, ymyriadau a rhaglenni llythrennedd, gan gynnwys dulliau sydd â’r nod o wella deilliannau llythrennedd mewn gwahanol oedrannau a chyfnodau.
- Archwilio profiadau ymarferol defnyddwyr o gynlluniau llythrennedd.
Diolch i’r sefydliadau a’r unigolion canlynol am eu cyfraniad gwerthfawr at yr ymchwil hwn:
- BookTrust Cymru
- CAL:ON Cymru, Prifysgol Bangor
- Caru Darllen, Prifysgol Caerdydd
- Connor Allen
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth
- Dysgu
- Ein Llais Ni, Prifysgol Bangor
- Estyn
- Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
- Gwasg Carreg Gwalch
- Llenyddiaeth Cymru
- Llyfrgelloedd ac archifau, Llywodraeth Cymru
- Peniarth
- S4C
- Sion Tomos Owen
Darllenwch yr adroddiad llawn yma:
PDF