Neidio i'r prif gynnwy
English
Newyddion

Blog: Gwneud i waith ymchwil ddwyn ffrwyth

Wrth i bobl ddefnyddio adnoddau digidol, mae Adnodd yn awyddus i’r profiad hwnnw fod yn adlewyrchiad gwirioneddol o’r hyn sydd ei angen ar ymarferwyr a dysgwyr. I gyflawni hyn, rydyn ni’n defnyddio cyfres o ddulliau dylunio strategol sy’n ein helpu i droi gwaith ymchwil yn brofiad clir a buddiol i’r gymuned addysg yng Nghymru.

Creu gwell profiad i ddefnyddwyr

Un o’r dulliau dylunio strategol rydyn ni’n ei ddefnyddio yw Map o Brofiad Delfrydol defnyddiwr. Mae’r ddogfen weledol hon, yn null bwrdd stori, yn dangos ar lefel uchel sut beth yw profiad “da” o ddechrau’r daith i’w diwedd. Mae’n canolbwyntio ar y dyfodol ac yn helpu i ddiffinio’r profiad rydyn ni’n awyddus i’w greu, yn hytrach na chyfyngu ein hunain i’r systemau neu’r prosesau sy’n bodoli’n barod.

Lawrlwythwch gopi o’r map yma

Rwy’ wedi defnyddio’r dull hwn o weithio drwy gydol fy ngyrfa; mae’n fodd o ddangos beth mae pobl yn ei wneud, beth maen nhw’n ei feddwl, a beth maen nhw’n ei deimlo ym mhob cam. Mae’n helpu timau i gymryd cam yn ôl a gweld yr holl siwrnai o safbwynt y defnyddiwr. Mae hynny’n arwain at weledigaeth gyffredin ar gyfer y profiad rydyn ni’n ceisio’i roi i bobl. Bydd hyn wedyn yn ein tywys wrth i ni wneud ein holl benderfyniadau, ac yn ei gwneud hi’n haws canfod bylchau, rhwystrau, a chyfleoedd i brofi, mireinio a blaenoriaethu syniadau newydd.

Gan ddefnyddio’r wybodaeth a roesoch chi i ni drwy’r gwaith ymchwil a gafodd ei wneud yn 2025, rydyn ni wedi creu map o brofiad delfrydol defnyddiwr, a hwnnw’n dangos sut beth yw profiad da i ymarferwyr. Mae’n dwyn ynghyd y saith archdeip o gymeriadau o’r gwaith ymchwil gwreiddiol ac yn dangos sut mae eu hanghenion nhw’n cael sylw mewn pum cam ar eu taith.

Taith y defnyddiwr: y pum cam

Bydd pob cam ar y daith ddelfrydol hon yn edrych ac yn teimlo’n wahanol, yn dibynnu ar anghenion yr ymarferwyr a’r dysgwyr dan sylw. Drwy gael proses cam wrth gam glir, bydd modd i ni fynd ati gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i ddechrau datblygu’r platfform digidol gwell rydych chi i gyd yn awyddus i’w weld.

  1. Darganfod adnoddau
    Mae’r cam hwn yn eich helpu chi i ganfod a diffinio eich anghenion. Mae’n cadarnhau beth yw’r amcanion dysgu, fel y gallwch chi ddewis yr adnoddau mwyaf effeithiol.
  2. Cael adnoddau
    Mae’r cam hwn yn eich helpu i chwilio am adnoddau a bwrw golwg arnyn nhw. Mae’n rhoi ffyrdd greddfol o chwilio, a chategorïau clir, fel y gallwch chi ddod o hyd yn gyflym i ddeunyddiau dibynadwy a pherthnasol.
  3. Defnyddio adnoddau
    Mae’r cam hwn yn canolbwyntio ar werthuso ac addasu adnoddau. Drwy gynnig opsiynau hyblyg a hygyrch, fe allwn ni eich helpu chi i deilwra deunyddiau ar gyfer gwahanol gyd-destunau, anghenion dysgwyr a disgwyliadau’r Cwricwlwm.
  4. Ennyn diddordeb
    Mae’r cam hwn yn eich helpu chi i fynd ati i ddefnyddio’r adnoddau a’r deunydd rydych chi wedi’i ddewis gyda dysgwyr.Mae’n gymorth i ddefnyddio adnoddau’n ymarferol yn y dosbarth a gartref, ac i ennyn diddordeb mewn ffordd ystyrlon.
  5. Datblygu
    Mae’r cam hwn yn eich galluogi i gnoi cil, storio a rhannu’r hyn sydd wedi gweithio’n dda. Mae’n annog cnoi cil strwythuredig a rhannu pethau â’ch gilydd.

O brofiad delfrydol y defnyddiwr i fyrddau stori’r Cwricwlwm

Yn 2025 es i un o sesiynau hyfforddi’r Cwricwlwm i Gymru. Roedd hi’n gyffrous gweld sut mae Llywodraeth Cymru yn annog pobl i ddefnyddio  byrddau stori fel dull ymarferol o ddylunio’r Cwricwlwm mewn ysgolion.

Mae creu byrddau stori yn gallu helpu ymarferwyr i ddylunio profiadau dysgu cydlynol a phwrpasol sy’n cyd-fynd â phedwar diben y Cwricwlwm i Gymru, gan barhau i ganolbwyntio ar yr un pryd ar brofiad a chynnydd dysgwyr.

Fel y gwelwch chi yn yr astudiaeth achos yn y fideo hwn gan Hwb, https://youtu.be/l5EjcMcAN3I, mae byrddau stori’r Cwricwlwm i Gymru yn cael eu strwythuro mewn tair adran glir. Mae’r adran uchaf yn defnyddio delweddau i ddangos beth sy’n digwydd ym mhob cam ar y daith ddysgu. Mae’r ail adran yn gofyn cwestiwn o safbwynt y dysgwr: “Pam ydw i’n dysgu hyn?” Ac mae’r adran olaf yn rhoi cyfle i ymarferwyr gnoi cil am brofiad y dysgwr, gan gynnwys meddwl am sut i ennyn diddordeb, herio a sicrhau cynnydd.

Curriculum storyboard

Rwy’n credu bod y dull sy’n seiliedig ar ganlyniadau yn hynod o bwysig. Yn hytrach na dechrau gyda’r gweithgareddau, mae’r broses yn dechrau gyda’r canlyniadau y mae’r ymarferydd am eu gweld, cyn gweithio yn ôl o’r fan honno i ddylunio profiadau dysgu a fydd yn cyflawni’r canlyniadau. Mewn sawl ffordd, mae hyn yn adlewyrchu’r broses o fapio profiadau. Mae’r naill broses a’r llall yn creu ffordd holistaidd, weledol o edrych ar deithiau pobl, ac yn fodd o ganfod heriau, profi syniadau ac addasu pethau cyn eu cyflwyno’n ymarferol. Mae mapiau profiadau a byrddau stori hefyd yn gyfle i fynd ati i ddylunio’n fwriadol, i gynnal sgyrsiau buddiol, ac i greu profiadau dysgu mwy ystyrlon.

Super Mario – y trosiad perffaith

Roeddwn i wedi gwirioni ar Super Mario ar Nintendo pan oeddwn i’n iau. Mae Mario 1.0 yn gymeriad sy’n gallu cwblhau’r gêm, ond pan fydd yn dod o hyd i flodyn tân, mae’n troi yn Mario 2.0. Mae hwnnw’n gyflymach ac yn fwy hyderus, ac mae ganddo fwy o arfau yn ei feddiant.

Ein huchelgais ni yw rhoi mwy o rym i ymarferwyr, yn union fel Mario 2.0. Drwy roi galluoedd newydd i chi, rydyn ni eisiau rhoi uwchbwerau i chi hefyd. Rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i fod yn union fel y blodyn tân sy’n eich cefnogi chi i feithrin galluoedd newydd a goresgyn heriau yn y dosbarth yn rhwydd.

Mae hyn yn golygu gwneud mwy na dim ond cyhoeddi adnoddau; mae’n golygu galluogi dysgu ystyrlon. Drwy eich helpu chi i gael gafael ar ddeunyddiau o ansawdd da, ac i’w haddasu a’u defnyddio, ein nod yw gwneud pethau’n llai cymhleth a’ch helpu chi i wneud penderfyniadau gwell sy’n arwain at well deilliannau dysgu.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yng ngwaith ymchwil Adnodd yn y dyfodol, neu glywed mwy am ein gwaith, cofrestrwch i gael un o’n cylchlythyrau.

Ysgrifennwyd gan Kirk Tierney, Rheolwr Digidol a Phrofiad.

Ymunwch â’r gymuned