Canllawiau astudio ac adolygu newydd ar gyfer pob pwnc TGAU
Bydd Extend Education yn cyhoeddi eu canllawiau astudio ac adolygu poblogaidd ar draws pob pwnc TGAU, gan eu cynnig yn Gymraeg a Saesneg am y tro cyntaf.
Mae’r canllawiau hyn ar gael i ysgolion a theuluoedd eu prynu i gefnogi adolygu ar lefel TGAU. Wedi’u cymeradwyo gan Gyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC), maent yn cyd-fynd â’r TGAU newydd Ton 1 ac yn darparu cymorth ychwanegol i ddysgwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer eu cymwysterau.
Dywedodd Emyr George, Prif Weithredwr Adnodd:
“Rydym yn falch iawn y bydd dysgwyr yng Nghymru bellach yn cael mynediad at ystod ehangach o ganllawiau astudio ac adolygu o safon i’w cefnogi ar eu taith TGAU. Diolch i gefnogaeth ariannol Adnodd, bydd canllawiau poblogaidd a fforddiadwy Extend Education a oedd ar gael yn wreiddiol yn uniaith Saesneg ar gyfer y pynciau mwyaf poblogaidd yn unig, bellach ar gael yn Gymraeg a Saesneg ymhob un o bynciau Ton 1 y TGAU newydd.”
Mae sawl pwnc wedi’u cyhoeddi ac ar gael i’w prynu, gyda mwy ar y ffordd.
Gallwch archwilio’r ystod lawn o ganllawiau astudio ac adolygu ar wefan Extend Education. Gall ysgolion hefyd eu prynu trwy eu cyfrif ar y platfform prynu llyfrau ffolio.cymru.
Ymunwch â’r gymuned